Showing posts with label tegwch. Show all posts
Showing posts with label tegwch. Show all posts

Sunday, 4 April 2010

Dafydd Wigley: Gall Myfanwy adennill miliynau coll Llanelli

‘Roedd Llywydd Anrhydeddus Plaid, Dafydd Wigley, yn Llanelli ddoe i drefnu sut y byddai ethol Dr. Myfanwy Davies yn AS y dref yn rhoi’r siawns i gymunedau Llanelli ennill y miliynau y mae ar Lywodraeth Llundain iddynt.

Mae Plaid wedi bod yn ymgyrchu am flynyddoedd dros gynhaliaeth deg i Gymru o San Steffan. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae dau ymchwiliad annibynnol wedi dod i’r casgliad bod Cymru’n derbyn llawer iawn rhy ychydig o arian. Dros10 mlynedd dylai cymunedau Llanelli fod £240 miliwn yn gyfoethocach.

Gyda’r rhan fwyaf o bolau piniwn nawr yn rhagweld Senedd grog, a disgwylir i’r Blaid a Phlaid Genedlaethol yr Alban ennill y nifer fwyaf erioed o seddau, byddai’r grŵp mewn sefyllfa allweddol i gael chwarae teg i Lanelli.

Cyfarfu Mr Wigley gynghorwyr lleol ac arweinyddion y gymuned ym mwyty La Caprice a bu’n siarad â masnachwyr ym Marchnad Llanelli ynglŷn â ffyrdd o dynnu pobl i ganol y dref.
Dywedodd Mr Wigley:
“Gyda’r polau piniwn i gyd yn argoeli y bydd senedd grog, mae’r etholiad hwn yn dwyn atgofion i fi. ‘Roeddwn lawer iau a llai hirben na Myfanwy y tro diwethaf i ni gael senedd grog ac yr oeddwn yn aelod o dîm trafod y Blaid”.
“Y pryd hynny, ‘roeddem ni wedi ennill iawndal oddi wrth y Llywodraeth i’r glowyr hynny oedd yn anabl fel canlyniad i’r llwch ar eu hysgyfaint”.
“Y tro hwn, gyda grŵp llawer mwy a gyda thrafodwyr pen caled, profiadol fel Myfanwy, byddwn yn gofyn am ariannu teg i Gymru fel tâl am ein cefnogaeth i’r Llywodraeth nesaf ar faterion fel y gyllideb”.
“Mae’n hen bryd bod Llanelli’n cael chwarae teg o Lundain ac yn hen bryd danfon AS i Lundain a fydd yn rhoi anghenion Llanelli yn gyntaf”.


Ychwanegodd Myfanwy:

“Ar yr union ddiwrnod y mae’r Blaid Lafur, er mwyn rhoi hwb i’w cyflwr egwan, wedi dod â Tony Blair yn ôl, a hwnnw’r mwyaf ei anfri o wleidyddion Prydain, mae wedi bod yn bleser mawr iawn i fi groesawu Dafydd Wigley i Lanelli”.
Os gall unrhyw un ddangos sut y gall cymunedau Cymru elwa o gael AS Plaid, Dafydd yw hwnnw”.

“Nawr ein bod yn edrych ymlaen at senedd grog, ‘rwyf am fedru brwydro i gael y gynhaliaeth sydd ei hangen ar Lanelli, y gynhaliaeth a wrthodwyd i ni am gynifer o flynyddoedd”.

"Pa beth bynnag a fyddant yn ei ddweud mor agos â hyn at etholiad, mae’r ddwy brif blaid yn cynllunio toriadau. Trwy gael ariannu teg yn unig, medrem amddiffyn ein hysgolion, ysbytai a chartrefi gofal a chynorthwyo twf ein heconomi leol”.

Tuesday, 30 March 2010

Mae Myfanwy a Helen Mary’n croesawu’r newid llwyr ynglŷn â chefnogaeth i’r hŷn a’r anabl yn dilyn pwysau gan Y Blaid

Mae Dr. Myfanwy Davies, darpar ymgeisydd Y Blaid yn Llanelli, a Helen Mary Jones, AC lleol Y Blaid, wedi croesawu’r newid llwyr gan y Blaid Lafur ynglŷn â’r gefnogaeth i bobl hŷn anabl. Cyn hyn bu’r Lwfans Gweini a’r Lwfans Byw i’r Anabl dan fygythiad er mwyn talu am gynlluniau Llywodraeth yn Lloegr.

Mae’r Llywodraeth wedi addo nawr na fwriedir eu newid mwyach yn y Senedd nesaf.

‘Roedd Myfanwy a Helen Mary wedi cefnogi ymgyrchwyr anabledd a phensiynau lleol wrth frwydro yn erbyn y bygythiad ac wedi gweithio’n glos gyda’u cyd weithwyr yn Y Blaid yn San Steffan i wrthwynebu’r newidiadau hyn a fyddai wedi golygu bod miloedd o bobl hŷn a bregus yn Llanelli ar gyfartaledd rhwng £65 a £75 yr wythnos yn waeth eu byd.

Dywedodd Dr. Davies:


“Nid cyn pryd mae’r newid llwyr hwn yn digwydd - er y byddai rhai’n dueddol o gwestiynu ei amseriad yn union cyn etholiad cyffredinol”.

Ar draws Llanelli mae 4,000 o bobl yn dibynnu ar Lwfans Gweini tra bo 8,000 yn dibynnu ar Lwfans Byw i’r Anabl.


“Mae’r bobl hyn i gyd naill ai’n anabl neu dros 65 mlwydd oed, y grwpiau lleiaf abl i fyw ar eu pennau eu hunain a gofalu amdanynt eu hunain.

Mae’r cynigion a wnaeth Llafur yr haf diwethaf yn rhoi pwysau anferth ar ein pobl fwyaf bregus. Mae’n gwbl anghywir bod cymaint ohonynt a’u teuluoedd wedi gorfod byw gyda’r ansicrwydd ynglyn â sut y medrent fyw’n annibynnol pe bai’r gynhaliaeth hon yn cael ei dwyn oddi arnynt”.

“’Roedd yn annerbyniol bod y Llywodraeth wedi awgrymu’r toriadau creulon hyn yn y lle cyntaf”.

“Dydyn nhw ddim yn gwneud ffafr â’n pobl fwyaf bregus trwy symud y bygythiad a ddaeth oddi wrthynt hwy eu hunain”.

Ychwanegodd Helen Mary:

“’Rydym wedi ymladd y newidiadau hyn byth oddi ar iddynt gael eu hawgrymu gyntaf a buom yn cefnogi grwpiau iawnderau’r anabl a phensiynwyr yn lleol trwy roi pwysau ar y Llywodraeth i newid eu meddwl”.

“Mae’n amlwg bod y pwysau cyfunol wedi helpu’r Llywodraeth tuag at y trawsnewidiad munud olaf hwn”.

“Ni ddylai fod angen i ni amddiffyn cynhaliaeth y mwyaf bregus ond, tro ar ôl tro, bu rhaid i ni wneud hynny. Mae angen i benderfyniadau ynglyn â chynhaliaeth i’n pobl fwyaf bregus gael eu gwneud gan y Cynulliad yng Nghaerdydd fel y gallwn osgoi’r trallod i gynifer o bobl hŷn ac anabl a ddeuai trwy’r toriadau creulon hyn a fwriadwyd gan Lafur yn y lle cyntaf”.

Tuesday, 23 March 2010

Myfanwy a Helen Mary’n cefnogi busnesau lleol gan ddweud, ‘Rhaid gohirio’r codiad mewn treth ar danwydd’

Mae Myfanwy Davies, Plaid Cymru a Helen Mary Jones wedi galw heddiw (23/03), cyn Cyllideb Dydd Mercher, am rewi‘r codiad sylweddol mewn treth ar danwydd.

Mae treth ar danwydd i godi 2.55 ceiniog am bob litr o Ebrill 2010 (1% yn uwch na chwyddiant). Bydd hyn yn costio £200 ychwanegol i deulu cyffredin ac achosi trafferthion pellach i fusnesau bach sydd eisoes yn gwingo dan drethi tanwydd uwch. Mae Plaid wedi haeru y dylid gohirio’r codiad treth sylweddol hwn.

Mae cyrff ymgyrchu fel Cymdeithas Gludiant Ffyrdd wedi dod allan mewn cefnogaeth i alwadau’r Blaid am reolydd treth tanwydd teg. Dan gynllun o’r fath byddai codiad annisgwyl mewn pris petrol yn arwain at rewi treth tanwydd.

Mae Aelodau Seneddol o’r Blaid a Phlaid Genedlaethol Yr Alban wedi gosod datganiad swyddogol ar y bwrdd yn annog rhewi treth tanwydd ac yn galw eto am sefydlu rheolydd treth tanwydd.

Dywedodd Arwyn Price o gwmni bysys Gwynne Price yn Nhrimsaran:

“Bu hwn yn fusnes i’n teulu ni ers 1956 a phrin y gwelwyd amser caletach. Derbyniais y prisiau disel newydd y bore ‘ma ac, hyd yn oed gyda disgownt-swmp, byddwn yn talu bron 10% yn fwy nag ym Mis Mehefin llynedd a hynny cyn y codiad treth".

"Mae’r Llywodraeth eisoes yn codi costau tanwydd yn uwch na graddfa chwyddiant. Pan fo cost tanwydd yn codi fel y mae, y peth lleiaf allan nhw ei wneud yw rhewi’r codiad yn y dreth. Oni wnân’ nhw ail feddwl yn Y Gyllideb yfory, fe fydd pethau hyd yn oed yn fwy anodd arnom ni”.

Ychwanegodd Myfanwy:

“Ein cymunedau ni yn Llanelli a’r cylch fydd yn teimlo gwasgfa’r codiad sylweddol hwn mewn pris tanwydd. Mae teuluoedd sydd yn gweithio’n galed yn ei chael hi’n anodd rhedeg car, ond mae’r trethi tanwydd rhyfeddol o uchel hyn yn cael effaith ar y prisiau yn ein siopau hefyd gyda chostau cludo bwyd a chynhyrchion eraill iddynt yn codi. Mae ein busnesau lleol, fel Cwmni Bysiau Gwynne Price a’n llu o gwmnïau tacsis, yn cyfrannu’n enfawr at ein heconomi lleol a bydd hi hyd yn oed yn fwy anodd iddynt gael y ddau ben llinyn ynghyd".

"Wedi blwyddyn o weld prisiau tanwydd yn saethu i fyny, mae’n gwbl anghyfrifol i ychwanegu at y baich sy’n wynebu busnesau lleol a theuluoedd sy’n gweithio. Unwaith eto, mae Llywodraeth Lafur heb unrhyw ddealltwriaeth o gymunedau fel ein un ni”.

Ychwanegodd Helen Mary Jones AC Llanelli:

“'Dyw hyn yn ddim byd ond cosbi pobl gyffredin am fethiant cyfundrefn fancio yr oedd llywodraeth Llundain wedi helpu ei chreu. Yn syml iawn, ymddengys nad yw ein ffrindiau yn Llundain yn deall effaith mae’r codi mewn prisiau tanwydd yn ei gael ar bobl gyffredin a’r cymunedau.”

Ychwanegodd Elfyn Llwyd AS, Arweinydd y Blaid yn San Steffan:

“Mae codiadau mewn treth ar danwydd yn parlysu diwydiant yn barod - ond mae hefyd yn faich annheg ar deuluoedd caled eu byd, busnesau bychain, ardaloedd gwledig yn arbennig a, hefyd, bydd hyn yn ergyd fawr iawn i sectorau megis y gwasanaethau brys".

"Parhawn i ymladd y codiad tanwydd hwn a pharhawn i annog dod i mewn â rheolydd treth tanwydd yn ystod Y Gyllideb i sicrhau sefydlogrwydd mewn pris yn ogystal â threthi tanwydd is.”

Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu dros gyfnod hir am beirianwaith newydd i gapio prisiau petrol. Gyda’r SNP cyflwynwyd cynnig i wella’r Mesur Cyllid i greu rheolydd Trethi Tanwydd yn 2008 ond pleidleisiodd Llafur yn ei erbyn.

Cefnogir rheolydd o’r fath gan leisiau blaengar diwydiant, megis Cymdeithas Gludiant Ffyrdd. Dan gynllun felly, byddai codiad annisgwyl mewn prisiau petrol yn arwain at rewi treth ar danwydd.

Wednesday, 17 March 2010

Myfanwy a Helen Mary yn mynd â’r frwydr i arbed Clwb Bingo Llanelli i Lundain

Mae darpar ymgeisydd seneddol Plaid dros Lanelli, Myfanwy Davies a’r AC Helen Mary Jones, yn cefnogi’r chwaraewyr Bingo yng Nghlwb Bingo Argos yn Llanelli fel y gofynnant i’r Canghellor gymryd y cyfle olaf i ddileu codiad treth o 15 i 20% ar Fingo a allai beryglu dyfodol y clwb.

Yfory (18/03), bydd Myfanwy yn ymuno â chwaraewyr Bingo o Lanelli fel y cyflwynant dros 500 o lythyron wedi’u llofnodi oddi wrth bobl leol yn Llanelli i swyddogion y Trysorlys yn San Steffan. Mae’r llythyron, a baratowyd gan Myfanwy a Helen Mary, yn gofyn i’r canghellor ddefnyddio Cyllideb y Gwanwyn ar Fawrth 24ain, i ddileu’r codiad treth.

Mae chwaraewyr Bingo Llanelli yn bwriadu gwisgo fel cennin Pedr a pheli bingo enfawr a byddant yn protestio yn erbyn y codiad treth yn Sgwâr y Senedd o 2.15 prynhawn yfory. Gobeithiant gyflwyno’r llythyron i’r Trysorlys yn hwyrach yn y prynhawn.

Meddai Myfanwy: “Y peth olaf mae Llanelli eisiau yw colli Clwb yr Argos. Mae’n fan cyfarfod a chymdeithasu, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn ac mae’n darparu swyddi yn y canol tref. Fel llawer o fusnesau canol tref, mae’r cwsmeriaid sy’n mynychu Clwb yr Argos wedi lleihau ac ar adeg fel hon, mae’n haeddu cymorth oddi wrth y Llywodraeth - nid y codiad treth annheg hwn.
Rwy’n gobeithio y cymer y Canghellor y cyfle olaf hwn i ddangos ei fod yn deall cymunedau fel ein rhai ni.”

Meddai Helen Mary: “Mae’r dreth hon yn un annheg ar bleser pobl. Mewn amserau caled y gwelwch chi beth yw blaenoriaethau’r Llywodraeth. Mae gan y Llywodraeth Lafur a’i Haelod Seneddol lleol, a bleidleisiodd i gadw’r codiad treth yr haf diwethaf, flaenoriaethau sy’n wahanol iawn i’n rhai ni. Ond gobeithiwn y bydd y llythyron yn dangos i’r Canghellor y teimladau dwys yn erbyn y dreth.”

Meddai Nigel Griffiths, Rheolwr Clwb yr Argos: “Rydym yn gobeithio’n fawr iawn y bydd y Llywodraeth yn ailfeddwl ac yn penderfynu peidio â chodi’r dreth. Wedi’r cyfan, os llwydda i ddifetha’n busnesau, ni fydd yn gallu casglu’r dreth o gwbl.”

Tuesday, 9 March 2010

Myfanwy a Helen Mary yn cefnogi chwaraewyr bingo yn Llanelli yn yr ymgyrch yn erbyn treth annheg

Mae Myfanwy Davies Ymgeisydd Seneddol Plaid yn Llanelli a AC lleol Helen Mary Jones yn cefnogi ymgyrch chwaraewyr Bingo, yng nghlwb bingo'r Argos Llanelli ,wrth iddynt ofyn i’r canghellor i ail ystyried y codiad treth ar bingo - a fyddai’n gosod dyfodol y clwb mewn peryg. Bu Myfanwy yn ymweld â Chlwb Bingo’r Argos nos Lun Mawrth 1af i drosglwyddo llythyron, i’w harwyddo gan yr aelodau, i’w hanfon at y Canghellor.

Yr haf diwethaf cyhoeddodd y llywodraeth Lafur gynnydd difrifol yn y dreth ar Bingo, tra bod trethi ar ffurf eraill o hap chwarae yn aros yr un fath. Teithiodd chwaraewyr bingo Llanelli i lawr i Sansteffan i brotestio yn erbyn hyn. Fe wnaeth Myfanwy ac ASau Plaid Cymru gyfarfod â ‘r protestwyr gan gynnig cefnogaeth. Yn wahanol i’r hyn wnaeth AS Llafur Llanelli, sef pleidleisio dros godi’r dreth tro ar ôl tro, mae Aelodau Seneddol y Blaid wedi pleidleisio yn erbyn y dreth annheg yma ar hyd yr adeg.

Fodd bynnag mae’r dreth ar Bingo yn dal i gynyddu o 15-20% ac fe fydd hyn yn effeithio’n arw ar glybiau megis yr Argos yn Llanelli. Mae gan y Canghellor un cyfle olaf i ail edrych ar y sefyllfa sef yn y Gyllideb yn y Gwanwyn, ac felly mae Myfanwy a Helen Mary am sicrhau ei fod yn deall pryderon y gwrthwynebwyr yn glir cyn ei fod yn gwneud unrhyw benderfyniadau .

Dywedodd Myfanwy: “Y peth diwethaf sydd ei angen ar Lanelli yw colli Clwb yr Argos. Mae yn fan cyfarfod a chymdeithasu, yn enwedig i’r bobl hŷn, ac mae’n rhoi gwaith yng nghanol y dref. Yn debyg i nifer o fusnesau canol y dref mae Clwb yr Argos wedi gweld llai o gwsmeriaid yn dod yno, ac ar adeg fel hyn mae angen help gan y llywodraeth - nid y dreth annheg yma.

Pam y dylai casinos yn Llundain gael eu trethi ar y raddfa wreiddiol a dyfodol clwb yr Argos bod mewn perygl? Rwyf i’n gobeithio y bydd y Canghellor yn cymryd y cyfle olaf yma i ddangos ei fod yn deall pobl a chymunedau fel ni.”

Dywedodd Helen Mary : “Mae hyn yn dreth hollol annheg ar fwynhad pobl. Mewn amseroedd caled fel hyn mae yn bosib gweld yn union beth yw blaenoriaethau llywodraeth. Mae gan y Llywodraeth Lafur a’i AS lleol, a bleidleisiodd i gadw codiad yn y dreth, blaenoriaethau hollol wahanol i ni. Ond, y gobaith yw, y bydd y llythyron i’r Canghellor yn dangos yn glir cymaint yw’r teimladau ynglŷn â hyn ac y bydd yn ail-ystyried gosod y baich ychwanegol yma ar un o fusnesau allweddol ein tref”.

Dywedodd Nigel Griffiths, Rheolwr Clwb Bingo yr Argos: “Mae'r rhain wedi bod yn amseroedd anodd iawn, yn enwedig yn ystod mis Ionawr, lle roeddem yn gweld tipyn llai o’n cwsmeriaid arferol. Gobeithiwn yn fawr y bydd y Canghellor yn ail feddwl ynglŷn â chodi’r dreth. Wedi’r cyfan, os bydd yn llwyddo i gau ein busnesau ni, fydd e’ ddim yn gallu casglu’r dreth beth bynnag”.

Mae copϊau o’r llythyr wedi eu gadael yng Nghlwb yr Argos a byddant yn cael eu cyflwyno i Elfyn Llwyd, Arweinydd Grwp Senoddol Plaid Cymru pan y mae’n ymweld â Llanelli Dydd Llun nesaf (15ed).

Friday, 22 January 2010

Byddai pensiynwyr yn Llanelli are eu hennill dan gynlluniau’r Blaid am “Bensiwn at Fyw”

Byddai dros 17,000 o bensiynwyr yn Llanelli are eu hennill o dan addewid etholiadol Plaid Cymru i gynyddu pensiwn y wladwriaeth 30% medd yr AC lleol, Helen Mary Jones, ac ymgeisydd seneddol y Blaid, Myfanwy Davies.

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi amlinellu cynnig ei blaid yn yr etholiad cyffredinol sydd i ddod mewn araith allweddol yn Nhwm Cynon (18/01). Mae eu haddewid yn dod wrth i ffigurau ddangos bod £5.4 biliwn o fudd-daliadau i bobl hŷn heb eu hawlio yn y DU pob blwyddyn am fod pensiynwyr yn teimlo bod y broses o hawlio yn gymhleth ac yn ymwthiol.

Mae Plaid yn ymgyrchu dros Bensiwn at Fyw. Golygai bod pob pensiynwr yn cael pensiwn mwy – a fyddai y flwyddyn nesaf yn dod i £202 yr wythnos i bâr. Byddai’r addewid yn cael ei wireddu’n raddol, gan ddechrau gyda’r hynaf a’r mwyaf bregus dros 80 oed.

Dywedodd Helen Mary Jones, AC Llanelli:

"Gyda chynnydd brawychus o 74% mewn marwolaethau o achos y tywydd oer yng Nghymru y llynedd, mae’n rhaid i dlodi ymhlith pensiynwyr a gwarchod gwasanaethau cyhoeddus allweddol gymryd blaenoraieth dros daliadau ychwanegol i fancwyr, arfau niwclar a chardiau adnabod.

Mae’r Torϊaid eisiau cyflwyno trethu annheg. Mae Llafur Newydd eisiau cadw diwylliant porthi’r banciau ac aeth hygrededd y Lib Dems ar goll pan wnaeth Clegg gydnabod eu bod wedi bod yn gwneud addewidion na allent eu fforddio drwy’r amser.

"Mae ein polisi ni yn fforddiadwy gan y byddai’n cael ei gyflwyno yn raddol, gyda’r pensiynwyr hynaf a mwyaf bregus ar eu hennill gyntaf. Rym ni ym Mhlaid Cymru yn deall nad yw pensiynwyr sydd yn byw mewn tlodi yn gwneud cais am gredit pensiwn a ry’ ni’n gwybod bod nifer o bensiynwyr mewn tlodi yn wynebu costau gofal anferth.”

Ychwanegodd Myfanwy Davies:

"Byddai ein cynllun Pensiwn at Fyw yn sicrhau incwm teilwng i bensiynwyr yn dechrau gyda’r hynaf. Dyma’r peth iawn i’w wneud ond mae hefyd yn gam ymarferol i helpu’r bobl mwyaf bregus yn ein cymunedau ac i sianeli gwariant y mae mawr ei angen ar ein busnesau bychain lle mae pobl hŷn yn tueddu siopa.

Mae Llafur a’r Torϊaid am y gorau yn ceisio torri gwariant cyhoeddus holl bwysig tra ein bod yn dal i ddioddef canlyniadau’r dirwasgiad. Dyma economeg y gwallgofdy. Gwariant cyhoeddus yw’r unig beth sydd yn cadw’r economy i fynd fel ag y mae. Y mae’n rhaid i ni gefnogi y mwyaf bregus yn ein cymunedau trwy’r cyfnod caled”.

Monday, 11 January 2010

Mae’r frwydr i warchod Cartrefi Gofal yn cynyddu

Mae perthnasau preswylwyr y cartrefi am gynyddu'r ymgyrch i frwydro yn erbyn cau’r cartrefi gofal yn ardal Llanelli. Os bydd cynlluniau’r Cyngor Sir i gau Caemaen a St Pauls yn dod i rym bydd dros hanner cant o breswylwyr bregus yn wynebu cael eu troi allan o’u cartrefi,a bydd hyd yn oed mwy o swyddi yn cael eu colli yn yr ardal.

Yn ôl ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Cyngor Sir Caerfyrddin, gynlluniau drafft i gau pedwar cartref gofal yn Sir Gaerfyrddin, hyn oll yn rhan o’u cynllun i ariannu gwasanaethau gofal yn y cartref yn yr ardal.

Yn y cyfarfod cyhoeddus diweddaraf dydd Gwener, fe wnaeth ymgyrchwyr anfoddog unwaith eto fynegi eu gofid, ac fe gytunwyd ar drefnu eiriolwyr i’r preswylwyr. Gwnaeth grwpiau Caemaen a St Paul gytuno i ymuno mewn un grŵp gweithredu i sicrhau gwell canolbwyntio.

Mae Myfanwy a Helen Mary wedi cefnogi ymgyrchwyr drwy ddrafftio llythyron a fydd yn cael eu hanfon at wahanol Gynghorwyr oddi wrth aelodau’r grŵp yn y dyddiau nesaf. Bydd Helen Mary hefyd yn cyfarfod â’r Gweinidog Iechyd Edwina Hart a’r dirprwy weinidog dros wasanaethau cymdeithasol, Gwenda Thomas, yr wythnos hon i drafod y mater.

Mae nifer o deuluoedd y preswylwyr yn poeni’n ddirfawr am effeithiau difrifol ar iechyd y preswylwyr os bydd rhaid iddynt symud. Amcangyfrifir ymhlith y rhai a symudir o’u cartref, bod drawma trosglwyddo sef y gost emosiynol o symud o’r cartref yn erbyn eich ewyllus, yn arwain at farwolaeth 30% o breswylwyr.

Dywedodd Deryk Cundy, sydd a’i dad yn un o breswylwyr Caemaen:

"Rydym yn benderfynol o ymladd yn erbyn y cynlluniau gwarthus yma i gau Caemaen a St Paul. Dyma esiampl arall o’n henoed bregus yn dioddef o achos cynlluniau’r Cyngor i arbed arian. Sut fyddech chi’n teimlo petaech yn colli eich cartref am dalu eich rhent?

Yn barod mae’r Cyngor yn newid defnydd Llys y Bryn, drwy newid llefydd gofal preswyl gyda 12 gwely adferiad, a symud 7 gwely seibiant a oedd yno, i gartref St Pauls. Mae hyn mewn gwirionedd yn lleihau llefydd gofal preswyl o 19 lle - dwyn drwy dwyll.

Mae’r Cyngor yn ceisio cael gwared â’r hyn fyddwn ni ei angen yn y dyfodol.

Hyd yn oed yn ôl ffigurau’r Cyngor fe fyddwn, o fewn 6 mlynedd, a 10% o’r henoed angen llefydd gofal. Yn Llanelli mae hyn yn gyfystyr a 103 o lefydd- os bydd y cartrefi gofal yn cau yn Llanelli fe fyddwn yn fyr o 162 o lefydd yn 2016 gyda chanlyniadau trychinebus i’r gymuned gyfan.

Credaf fod gan bawb yr hawl i lefelau uchel o ofal a diogelwch, yn awr ac yn y dyfodol, i mi, i chwi, eich teuluoedd a’ch ffrindiau. Mae’r bobl rydym yn ceisio’u gwarchod yn fregus, yn ddibynnol ar eraill ac sy’n methu a gofalu am ei hunain .

Mae gennym rhai Cartrefi Awdurdod Lleol gwych - gyda staff gofalgar sy’n rhoi gofal arbennig, sy’n brin iawn yn ein byd ni heddiw. Dyma ofal rydym yn gallu dibynnu arno i ddarparu amgylchedd diogel - yr hyn a ddisgwylir gan ein henoed ac sy’n hawl iddynt.

Pam dylai hyn gael ei ddwyn oddi arnom ?”


Dywedodd Helen Mary Jones, AC lleol Llanelli:

“Mae angen i’r Cyngor edrych ar ffyrdd llawer mwy creadigol o arbed arian yn hytrach na lleihau gwasanaethau sy’n angenrheidiol i’n henoed. Mae angen i Lanelli fod yn le nad yw pobl yn ofni mynd yn hen, gan wybod y bydd gofal iddynt yn y dyfodol. Byddaf yn cyfarfod â’r gweinidog Iechyd yn ogystal â’r dirprwy weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yr wythnos hon i drafod pa fath o gefnogaeth gall Llywodraeth y Cynulliad ei gynnig.”


Ychwanegodd Myfanwy Davies, Ymgeisydd Seneddol y Blaid yn Llanelli :

“Mae symud yr henoed o’u cartrefi yn peri gofid ac o bosib bydd rhai o’r henoed yma ddim yn goroesi’r symudiad. Ni ddylai ein henoed gael eu haberthu er mwyn syniadau hanner pan y Cyngor ynglŷn â phreifateiddio, a dyw’r Cyngor ddim hyd yn oed yn gwybod cost y rhaglenni newydd yma."

Sunday, 10 January 2010

Plaid wedi cythruddo gan gynlluniau’r Cyngor i dorri gwasanaethau pobl ifanc anabl

Mae AC lleol Llanelli Helen Mary Jones ac Ymgeisydd y Blaid am Sansteffan Myfanwy Davies wedi datgan eu hanfodlonrwydd gyda chynlluniau arfaethedig y Cyngor i wneud toriadau enfawr yng nghyllideb gwasanaethau dysgu’r anabl a gwasanaethau yn ymwneud ag ysgolion arbennig, fel ran o’u cynllun i wneud arbedion enfawr dros y tair blynedd nesaf .
Mae’r cynlluniau i dorri £460,000 y flwyddyn oddi ar wasanaethau i bobl ifanc anabl yn rhan o gyfres o gynigion gan y Cyngor Sir mewn ymateb i’r toriadau enfawr a orfodwyd gan Lywodraeth Llundain o ganlyniad i achub y banciau . Mae Helen Mary a Myfanwy yn poeni’n arw am effeithiau toriadau o’r fath ar y rhai sydd ag anableddau dysgu yn ardal Llanelli.

Dywedodd Helen Mary Jones, o’r Blaid :
"Mae’r cynlluniau yma i wneud toriadau yng nghyllideb anableddau dysgu yn hollol annerbyniol .Mae angen i’r Cyngor wneud arolwg cynhwysfawr ar wariant ac o hynny adnabod y gwasanaethau nad oes eu hangen . Mae gorddefnydd ar wasanaethau fel y mae, ac mae’n annheg taw ein pobl ifanc bregus sy’n dioddef . O ganlyniad i doriadau yng nghyllideb Cymru gan Lywodraeth Llafur Llundain mae’r gwasanaethau hanfodol i blant a’r henoed yn teimlo’r straen yn barod . Mae Myfanwy a finnau yn ymroddedig i warchod ein gwasanaethau hanfodol megis ysgolion ac ysbytai .”

Ychwanegodd Ymgeisydd Seneddol y Blaid, Myfanwy Davies:

“Mae'r rhain yn wasanaethau sy’n hollol hanfodol i’r bobl yn Llanelli. Ni ddylai pobl gydag anableddau dysgu a’u teuluoedd wneud heb y gefnogaeth a’r addysg angenrheidiol . Wrth gwrs, mae’n rhaid i’r Cyngor Sir wneud toriadau , ond ni allwn sefyll a gwylio tra eu bod yn gwneud toriadau mewn gwasanaethau i’r rhai mwyaf bregus a pharhau i wario ein harian ar bethau di- angen sy’n cynnwys noddi, marchnata a lletygarwch . Mae’r toriadau yma yn dangos yn glir Bod y Cyngor yng Nghaerfyrddin heb ystyried ein hanghenion yma yn Llanelli.”

Wednesday, 2 December 2009

Helen Mary a Myfanwy wrth eu bodd fod cynlluniau i gau cartrefi preswyl wedi’u rhoi o’r neilltu

Mae Helen Mary Jones, AC Llanelli a Myfanwy Davies ymgeisydd seneddol y Blaid dros Lanelli, yn hynod o falch fod cynlluniau’r Cyngor i gau Cartrefi Gofal Caemaen a St Paul wedi eu rhoi o’r neilltu . Yr wythnos diwethaf fe wnaeth y ddwy, Helen Mary a Myfanwy addo’u cefnogaeth i’r grŵp gweithredu a fu mor weithgar yn ymladd yn erbyn y cynlluniau yma i gau’r cartrefi.

Roedd y Cyngor Sir am gau’r cartrefi yma er mwyn ariannu gwasanaethau newydd ‘gofal yn y cartref’ ond doedd dim darpariaeth am unrhyw ofal i’r preswylwyr tra bod y cynlluniau newydd yn cael eu trefnu a hefyd doedd dim manylion o’r costau na’r arbedion ar gael . Doedd dim manylion yn y cynlluniau ynglŷn â ble y byddai preswylwyr ,a oedd yn rhy wan i dderbyn gofal yn y cartref ,yn mynd; ac roedd sylwadau rhai swyddogion am leoedd gweigion mewn cartrefi preifat yn codi ofnau ymhlith y preswylwyr y byddent ,yn y pen draw, yn cael eu hanfon allan o ofal y Cyngor.

Ddoe teithiodd Myfanwy i Gaerfyrddin mewn fflyd o ddau fws o brotestwyr o gartref Caemaen i helpu i lobio cynghorwyr wrth iddynt gyrraedd am gyfarfod o Bwyllgor Archwiliad y Cyngor Sir . Yn ystod y cyfarfod fe wnaeth aelodau o’r grŵp Plaid Cymru dynnu sylw ,dro ar ôl tro ,at y gwendidau yn yr adroddiad a rhybuddio hefyd am ymgais y Cyngor i geisio preifateiddio gofal drwy dwyll. Roedd y protestwyr wrth ei bodd gan i’r grŵp Plaid fynnu pleidlais i wrthod y cynlluniau fel cyfanwaith. Bydd grŵp gorchwyl a gorffen yn ystyried y cynlluniau newydd mewn manylder.

Dywedodd Helen Mary Jones o’r Blaid:
“Rydw i wrth fy modd bod Pwyllgor Archwiliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cyngor wedi gwrthod y cynnig i gau cartrefi St Paul a Caemaen. Beth bynnag, rydw i’n pryderi y bydd trafodaethau'r grŵp gorchwyl a gorffen yn cyrraedd yr un penderfyniad ond tu cefn i ddrysau caeedig.

Fe fu ymgyrch wych yn y gymuned i gefnogi’r gofal a ddarperir yn Nghaemaen a St Paul , ac mae Myfanwy a finnau wedi bod yn hollol gefnogol o’r gwaith caled a fu . Byddaf yn parhau i gefnogi’r rheiny sy’n ymgyrchu i gadw’r ddarpariaeth yma i’r bobl sydd ei eisiau a’i angen.”

Ychwanegodd Myfanwy :
“Doedd cynlluniau’r cyngor heb eu gwir hystyried ac roedd yn hollol iawn i aelodau Plaid o’r Pwyllgor Archwiliad i wrthod y cynlluniau yn unol â hyn . Mae yn hollol anghywir i wneud arbedion ar draul ein pobl fwyaf bregus ond mae’n debyg nad oedd y Cyngor, hyd yn oed, wedi cyfrif y gost a heb ystyried chwaeth sut y byddai preswylwyr yn derbyn gofal tra bod y llety newydd yn cael ei adeiladu .
Mae symud yr henoed o’u cartrefi yn peri gofid ac o bosib bydd rhai ddim yn goroesi’r symudiad . Rydw i wrth fy modd ein bod wedi ennill y frwydr gyntaf yn y rhyfel yma. Ni aberthir ein henoed er mwyn syniadau hanner- pan y Cyngor am breifateiddio”

Wednesday, 25 November 2009

Helen Mary a Myfanwy yn ymosod yn llym ar yr ymgynghoriad ffug ar gynllun y Cyngor ar gyfer henoed Llanelli.

Yn dilyn cyfarfod gorlawn yng Nghartref Preswyl Caemaen neithiwr, condemniodd Helen Mary Jones AC a Myfanwy Davies ymgeisydd etholiad San Steffan y Blaid y ffordd cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal gan swyddogion ac yn galw ar Pat Jones, aelod y Bwrdd Gweithredol dros ofal cymdeithasol, i gymryd y cyfrifoldeb am ei phenderfyniad a’r modd cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal.

Yn “Llanelli Star” yr wythnos diwethaf cafwyd adroddiad yn sôn am gynlluniau’r cyngor i gau cartrefi preswyl Caemaen a St Paul’s yn Llanelli. O ganlyniad i’r newyddion ceisiodd a chafodd Myfanwy a Helen sicrwydd mewn llythyr o eiddo Bruce McLearnon, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor Sir, bod pob opsiwn yn dal yn agored a bod penderfyniad i gau’r cartrefi heb ei wneud eto.

Er hynny, neithiwr cadarnhaodd Bruce McLearnon, gyda chefnogaeth Sheila Porter sy’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Integredig, mai cau Caemaen oedd y cynllun roedd ef yn ei ffafrio gan ddarparu gwasanaethau cefnogol i unigolion yn eu cartrefi, gwasanaeth a adwaenir fel “gofal ychwanegol”. Siaradodd Ms Porter - a gyflogwyd gan y Cyngor yn ddiweddar sydd wedi datblygu rhaglenni “gofal ychwanegol” yn Bromley - yn frwd, os nad yn ymosodol, dros ei safbwynt llawer gwaith gan daweli’r preswylwyr a’r teuluoedd oedd yn bresennol er mwyn hyrwyddo’r dull dadleuol hwn o ofal sydd wedi profi’n fethiant yn Lloegr.

Drwy’r cyfarfod pwysleisiodd y Cyfarwyddwr taw’r angen i gwtogi costau oedd prif gymhelliad y cynllun. Mynegodd y preswylwyr a’r teuluoedd yn y cyfarfod gorlawn eu gwrthwynebiad cryf i’r cynllun cau gyda’r preswylwyr yn dangos eu dymuniad i aros yn Caemaen drwy bleidleisio’n unfrydol i wneud hynny.

Dywedodd Helen Mary Jones o Blaid Cymru: “Cafodd Myfanwy a minnau sicrwydd bod yr holl opsiynau yn dal yn bosib. O ran Cyngor Sir Caerfyrddin mae’n eglur nad ydynt ac mae hefyd yn glir taw resymau ariannol sydd du cefn i’r penderfyniadau hyn. Mae’n wir fod llai o arian ar gael a dylai rhai o’r aelodau seneddol a bleidleisiodd i achub y banciau archwilio’u cydwybod, er bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn dal i fedru canfod arian ar gyfer prosiectau rhodresgar a chyhoeddusrwydd iddo’i hun. Nid yw’n dderbyniol bod swyddogion yn camarwain teuluoedd a phreswylwyr drwy awgrymu bod Caemaen yn mynd yn groes i safonau gofal am nad oes cyfleusterau “en-suite” yno. Nid yw hynny’n wir. Yn ystod y cyfarfod roedd swyddogion yn rhyw led awgrymu mai bwriad eu cynlluniau oedd ceisio gwarchod urddas yr henoed rhywfodd. Sut bynnag, dangosodd y preswylwyr oedd yn bresennol eu barn unfrydol drwy godi dwylo’n gytûn. Pa faint o urddas y mae gwrthod eu dymuniadau yn gosod arnom ni?”

Ychwanegodd Myfanwy:
“Ar ôl cael sicrwydd gan Mr McLearnon aeth Helen Mary a minnau i’r cyfarfod â meddyliau agored. Erbyn hyn mae’n glir bod swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin eisoes wedi gwneud eu meddyliau i fyny. Yn wir, pan ofynnodd preswylwyr a theuluoedd p’un ai oedd eu gwrthwynebiad hwy wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i farn y Cyfarwyddwr, na oedd ei ateb. Mae hyn yn brawf trawiadol bod angen i Gynghorydd Llafur Porth Tywyn, Pat Jones, sy’n arwain yn y maes Gofal Cymdeithasol sefyll i fyny a chymryd cyfrifoldeb am ei phenderfyniad ac am ymddygiad ei swyddogion.”
“Yn gyffredinol rwy’n cefnogi cynlluniau i gadw pobl yn eu cartrefi ac yn annibynnol pan fydd cefnogaeth briodol iddynt, ond mater o dristwch yw mai prin yw’r enghreifftiau o’r fath gynlluniau yn gweithio. Clywsom neithiwr fel nad oedd preswylwyr yn Caemaen wedi medru aros yn eu cartrefi gyda chefnogaeth y gofal cartref cyfredol gyda rhai wedi dioddef esgeulustod difrifol o ganlyniad i’r gwasanaeth gofal cartref. Yn sicr, nid yw’n dderbyniol i symud yr henoed yn erbyn eu hewyllys.”

Mae Myfanwy a Helen wedi addo cefnogi’r grŵp gweithredol fydd yn brwydro yn erbyn y cynlluniau i gau’r cartrefi.


DIWEDD

Monday, 12 October 2009

Na i'r toriadau i'n hysgolion a'n hysbytai medd Myfanwy, Helen Mary ac arweinwyr cynghorwyr y Blaid

Mae Dr Myfanwy Davies, ymgeisydd San Steffan y Blaid yn Llanelli wedi datgelu fod ymchwil annibynnol Holtham yn dangos y bydd llywodraeth Llundain yn torri £227m sydd ei angen arnom yn Llanelli dros y 10 mlynedd nesaf.

Dywed Myfanwy:

"Roeddwn o hyd o'r farn fod trefn ariannu Cymru yn annheg. Ond mae ymchwil syfrdannol i ffigyrau llywodraeth Llundain ei hun yn dangos y byddwn yn colli
dros £220 miliwn dros y ddeng mlynedd nesaf - arian cwbl hanfodol i'n cymunedau yn Llanelli."

Fe gawsom lond bola o'r Blaid Lafur yn torri arian Cymru er mwyn taflu arian bonws at fancwyr Dinas Llundain. A bydd y toriadau yma yn ddwfn er fod ein llywodraeth ni yng Nghaerdydd yn gwenud eu gorau. Ni all Caerdydd fforddio defnyddio eu harian wrth gefn dro ar ol tro. Felly flwyddyn nesaf bydd y toriadau yn waeth byth.

Digon yw digon meddwn ni! Nid ein gwaith ni ydy tywallt arian i goffrau ffrindiau cefnog Peter Mandleson. Cadwch eich dwylo brwnt oddiar arian ein ysbytai a'n hysgolion. "

Ychwanegodd,

" Daw'r toriadau yma er i gomisiwn annibynnol Holtham ddweud na ddylid cyffwrdd ag ariannu Cymru hyd nes y byddwn yn cael yr cyllid sydd angen arnom i gynnal gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Ond mae Cymru yn cael llai o Lundain oherwydd yr holl aran sydd wedi mynd i bocedi bancwyr Dinas Llundain.

Ac yn bryderus iawn dywed y Toriaid y byddant yn torri arian Cymru yn union yr un modd a Llafur Llundain."


Mae Myfanwy ac arweinydd grwp cynghorwyr y Blaid yn galw ar Lafur Llundain i wrando ar yr holl gyngor annibynnol a rhwystro'r toriadau hyd nes bydd Cymru yn cael chwarae teg.


Dywed y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, Arweinydd Grwp Plaid Group ar y Cyngor Sir:

"Fel cynghorwyr rydym yn cefnogi Myfanwy pob cam o'r fordd. Mae hi'n gwbl annheg fod Llafur San Steffan yn torri cymaint ar arian Cymru.Cofiwch hyn pan fydd etholiad cyffredinnol ar y gweill!"

Ychwanegodd AC Llanelli Helen Mary Jones:

"Llwyddodd Llywodraeth Cymru i liniaru rhywfaint ar y toriadau ciaidd eleni trwy ddefnyddio arian wrth gefn. Ond ni allwn wneud hyn pob blwyddyn. Rhaid i bleidiau Llundain ymrwymo i weithredu yn syth i sicrhau fod cymunedau Cymru yn derbyn yr arian maent ei angen, yr arian mae ganddynt hawl iddo. Yn y cyfamser galwn am atal unrhyw doriadau sydd yn yr arfaethi gyllid Cymru i ganiatau i lywodraeth Cymru fuddsoddi yn ein cymunedau er lles pobl Cymru gyfan."


DIWEDD / ENDS

Nodiadau i olygyddion

Dywed Comisiwn Annibynnol Holtham fod tan-gyllido cynyddol dros y ddegawd nesaf am arwain at golli £8.5bn o gyllid Cymru.

Golyga hyn golli £2,900 y pen.

Felly, gyda phoblogaeth o 78,300 yn Llanelli, gallai hyn olygu colli £227m o ran yr etholaeth - os na fydd gweithredu i newid Fformiwla Barnett sydd bellach wrth gwrs wedi colli ei henw da yn gyfangwbl

Wednesday, 12 August 2009

Myfanwy a Mari Davies yn cefnogi trigolion Pwll sy’n ymladd am atebion i’r llifogydd

Yn dilyn y trallod ar ôl y llifogydd yn y Pwll y mis yma , mae Dr Myfanwy Davies ymgeisydd Sansteffan Plaid Cymru dros Lanelli a’i mam ,Cynghorydd Hengoed Cyng. Mari Davies wedi ymweld â phentrefwyr yn Y Gerddi/Nurseries a Theras Bassett yn y Pwll.

Consyrn y trigolion yw reolaeth yr afon Dulais, gan fod gwely’r afon wedi codi cymaint oherwydd methiant i symud y llaid a’r cerrig oddi yno . Hefyd mae pryder ynglŷn ag ansawdd y llaid a’r clawdd tywod wrth gefn y Gerddi/Nurseries gan i hwn gael ei rhwygo'r mis yma gan y llifogydd enfawr Pryderon eraill a godwyd gan drigolion Teras Bassett yw dargyfeirio’r Afon Dulais sydd nawr yn llifo yn union du cefn i’w tai ..
Dywedodd Trudi Williams sy’n llefarydd i’r grŵp -

“Pan symudais yma ces ar wybod fod llifogydd gwael yn digwydd unwaith mewn 70 o flynyddoedd ond rydym wedi profi llifogydd tair gwaith yn y ddeng mlynedd diwethaf .Yn ystod yr holl amser hynny nid yw’r llaid a’r cerrig wedi’u symud a’r unig adeg y daw pobl o Adran yr Amgylchedd yma yw ar adeg llif. Maen nhw yn cydnabod eu cyfrifoldeb am reoli’r afon , felly gadewch i ni weld peth reolaeth . Rydym am i’r afon gael ei chlirio i greu lle i lif yr afon , oherwydd mae’r bwâu o dan y bont bron o dan ddŵr ar ddiwrnod sych . Pan fydd glaw trwm mae wedi cyrraedd y man lle bydd yna or-lif. Rydw i’n byw mewn ofn pob tro y bydd tywydd garw oherwydd mae’n amhosib dweud pa mor ddrwg y bydd pethau.”

Dywedodd Myfanwy Davies :

“Mae’n amlwg fod rhaid i’r Asiantaeth symud y baw a’r cerrig o’r afon Dulais . Rydw i’n arswydo eu bod wedi gadael gwely afon i lanw mor beryglus pan wyddom fod yr ardal yn dioddef llifogydd .Fe fyddai’n mynnu gweithredu cyflym i glirio’r gweddillion cyn y glaw trwm nesaf ”.
“Mae’n siomedig dros ben fod yr Asiantaeth yn ceisio osgoi cyfrifoldeb am yr amddiffynfeydd llifogydd tu cefn i’r Gerddi/Nurseries. Fe fyddai’n cydweithio gyda Helen Mary Jones i geisio sefydlu pwy yn union sy’n berchen ar glawdd yr afon er mwyn sicrhau bod yna ddigon o adnoddau ar gael i adeiladu amddiffynfa llifogydd priodol ”.

“Cefais weld lluniau o ddargyfeirio’r Afon Dulais ,tu ôl I Deras Basset ,ar ôl glawogydd trwm , mae’n amlwg fod y troad 90 gradd yn arafu llif y dŵr ac yn llawer mwy tebygol o achosi llifogydd. Deallaf fod cynrychiolwyr o’r Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cytuno i atgyfnerthu’r wal tu cefn i’r Gerddi ond dyw’r trigolion perthnasol ddim yn gwybod pa oblygiadau y bydd y gwaith adeiladu yn creu ymhellach i fyny’r afon .Rydw i wedi ysgrifennu at Jane Davidson AC, Gweinidog yr Amgylchedd gan ofyn iddi am ymchwiliad i mewn i’r perygl arfaethedig o lifogydd mewn mannau lle mae’r afon wedi’i dargyfeirio gan yr Asiantaeth . Mae’n amlwg bod yna oblygiadau mewn ardaloedd eraill o ddargyfeirio afonydd. Rydw i am ofyn i’r Gweinidog i sicrhau bod yr Asiantaeth yn gweithredu dyletswydd statudol sylfaenol o reoli’r afon tu cefn i’r Gerddi .Hefyd rydw i wedi gofyn i Helen Mary Jones alw cyfarfod gyda Ms Davidson a’r trigolion lleol mor fuan ag sydd yn bosib”.
Dywedodd y Cyng. Mari Davies :
“Nid yw’n dderbyniol fod Asiantaeth yr Amgylchedd yn ceisio osgoi eu dyletswydd sylfaenol o reoli’r afon i’r gogledd o Heol Pwll . Os taw cyfrifoldeb trigolion Y Gerddi yw clawdd yr afon , ac mae hynny’n ddadleuol, pam nad oeddent wedi’u hysbysu o hynny a’u cynghori ar yr hyn i wneud i amddiffyn eu cartrefi? Rydym angen gwybod os oedd asesiad risg wedi’i wneud o’r Afon Dulais cyn y dargyfeirio i’r De o Heol Pwll . Mae Myfanwy yn hollol iawn i godi’r cwestiynau yma gyda Helen Mary a’r Gweinidog .”
Diwedd / Ends

Thursday, 2 July 2009

Myfanwy a Hywel Williams AS yn ymuno gyda phrotestwyr Bingo o Lanelli yn San Steffan

Heddiw ymunodd Hywel Williams AS Plaid Cymru ag ymgeisydd seneddol y Blaid yn Llanelli Dr Myfanwy Davies, gyda chwaraewyr bingo, mewn ymgyrch yn erbyn y trethi annheg ar Bingo.

Teithiodd y grŵp, dan arweiniad Nigel Griffiths, 330 o filltiroedd i ymladd dros ddyfodol eu clwb bingo drwy brotestio yn Dean’s Yard gyferbyn â San Steffan.

Gwisgai’r protestwyr fasgiau Alistair Darling gan gario nifer o blacardau. Roedd rhai hefyd yn amgylchu’r sgwâr yn eu ‘Bws Bingo’, gan ymuno mewn gêm o fingo ar y borfa i hyrwyddo’r achos.

Roedd Hywel Williams, Aelod Plaid Cymru dros Arfon wedi rhybuddio eisoes y byddai y penderfyniad i gynyddu’r dreth o 15% i 22% yn siŵr o arwain at ddirywiad mewn clybiau bingo .

Cafodd ymgyrch gan yr SNP,gyda chefnogaeth y Blaid, i wyrdroi'r penderfyniad ei drechu’n ddiweddar gan Aelodau Seneddol Llafur. Mae ffyrdd eraill o hapchwarae megis y casino a poker ar -lein yn dal ar dreth o 15%.

Dywedodd Hywel Williams AS Plaid Cymru :

“Mae’r modd mae’r llywodraeth yn ymdrin â’r sector bingo yn anghredadwy o annheg. Yn y gyllideb cyhoeddodd y Llywodraeth eu bod wedi tynnu allan y TAW ar ffioedd cyfranogiad i chwaraewyr bingo ond ar yr un pryd yn codi treth o 22 %. Nid yw hyn yn gwneud unrhyw synnwyr yn weithredol”

“Mae tegwch trethi yn hanfodol yn ystod y dirwasgiad ac mae’r dreth yma ar Neuaddau Bingo trwyddedig yn beryglus, gan ei fod yn targedu calon ein cymunedau, yn arbennig menywod hŷn a rheini o gartrefi incwm isel. Mae Neuaddau Bingo yn cynnig amgylchedd diogel a chyfeillgar i’r holl gymuned i gwrdd a chymdeithasu”

“Mae’r protestwyr wedi hyrwyddo eu hachos heddiw yn wych .Gobeithio y bydd y llywodraeth yn gweld bod y clybiau bingo a’u hetholwyr yn dioddef oherwydd baich y dreth yma”

Ychwanegodd Dr Myfanwy Davies :

“Ers imi allu cofio mae Bingo wedi bod yn rhan o fywyd Llanelli a’r peth olaf sydd ei angen ar ganol y dre yw cau’r Clwb yn Stryd Murray .”

“Mae hwn yn dreth hollol annheg a gwirion ar fwynhad pobl . Mae bingo yn cael ei drethu unwaith yn barod a does dim cyfiawnhad ar drin bingo yn wahanol i poker ar- lein neu unrhyw ffurf arall o hapchwarae.”.

“Rydym wedi dod yma heddiw i ddangos i’r aelodau seneddol hynny a bleidleisiodd dros y dreth yma nad yw’n bosib anwybyddu llais yr etholwyr”

Monday, 15 June 2009

Myfanwy a Helen Mary yn ymladd i achub Clwb Bingo Llanelli

Mae Dr Myfanwy Davies, ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn Llanelli a Helen Mary Jones AC Plaid Cymru Llanelli wedi beirniadu y dreth ddwbl ar glybiau bingo, a bleidleisiwyd drosto gan Aelodau Seneddol yn Llundain yr wythnos diwethaf . Cyhuddodd Myfanwy lywodraeth Gordon Brown o osod clybiau bingo tref Llanelli mewn peryg.

Daw’r rhybudd yma ar ôl i aelodau seneddol Cymraeg Llafur drechu cynnig gan yr SNP a’r Plaid Cymru i wyrdroi'r raddfa dreth o 15% i 22%. Cedwir lefelau treth ffyrdd eraill o hap- chwarae megis casino neu poker ar- lein ar raddfa o 15%.

Dywedodd Myfanwy :

“Mae Clybiau Bingo yn rhan bwysig o fywyd cymdeithasol tref Llanelli. Mae nhw’n cynnig adloniant diogel ac yno mae gwragedd yn fwyaf arbennig yn ymgasglu i gwrdd â ffrindiau. Mae hyn yn dreth hollol annheg ar fingo, tra bod treth ar ffyrdd eraill o hap- chware yn aros yr un fath . Mae’n gam hollol annheg”.

Mae’n rhybuddio ::

“Efallai bydd y clwb bingo yn Llanelli yn gorfod cau yn yr wythnosau nesaf . Fe fydda i ar y cyd gyda Helen Mary Jones, yn cefnogi cwsmeriaid a staff yn y clwb bingo sydd yn poeni’n fawr am y sefyllfa”.

Dywedodd Helen Mary

“Mae llawer iawn o gefnogaeth i ostwng y dreth ar fingo o 22% i 15% , a’i osod yn gyfartal â phob math arall o hapchwarae. Mae hyn oll am degwch i un o’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd a fwynheir gan bobl ymhob cymuned”

Bydd Myfanwy a Helen Mary yn siarad â staff a chwsmeriaid yng Nghwb Bingo Arogs yn Llanelli yn yr wythnosau nesaf .

Monday, 11 May 2009

Cynnig gan Myfanwy a Dafydd Wigley i lanhau slebogeiddiwch San Steffan

Yn sgil dadleniad costau Aelodau Seneddol yr wythnos diwethaf mae Dr Myfanwy Davies, Ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru Llanelli, wedi gwneud cais am sustem dryloyw o gostau i adfer ffydd y bobl yn y llywodraeth.

Mae Myfanwy Davies yn galw am reolau newydd sy’n glir, chryf ac yn agored i archwiliad gan y cyhoedd .Byddai’r rheolau newydd yn cyflwyno sustem gyfrifyddol hollol agored a byddai’r aelodau seneddol yn medru cyflogi'r staff sydd angen arnynt ac yn eu galluogi i deithio yn ôl ac ymlaen o Lundain i’w hetholaethau.

Yn siarad o swyddfa ei hymgyrch yn Llanelli, dywedodd Myfanwy :

“Does dim esgus dros y camddefnydd o’r sustem rydym wedi’i weld yn y dyddiau diwethaf. I mi'r peth gwaethaf yn yr ymddygiad hwn , gan rhai Aelodau Seneddol, yw’r ffaith bod hyn oll yn gwneud i bobl deimlo nad yw eu pleidlais yn cyfrif, yn enwedig ar adeg bod angen Aelodau Seneddol i sefyll dros ein cymunedau ac i fod yn atebol i bobl cyffredin ”.

“Dros y penwythnos roeddwn yn siarad gyda phobl yn Nhrimsaran ac rydw i’n poeni fod rhai pobl yn teimlo nad oes unrhyw ddiben mewn pleidleisio mewn etholiadau ac efallai na fyddent yn pleidleisio o gwbl. Dyma’r union bobl y dylai fod yn defnyddio’u pleidlais i sicrhau atebolrwydd gwleidyddion.”

“Mae sustem llawer cliriach o gefnogi gwaith ein cynrychiolwyr etholedig ar waith yng Nghymru yn Y Cynulliad Cenedlaethol. Yn ddelfrydol, hoffwn weld sustem yn debyg i’r un a geir yn Sweden - yno mae treuliau’r holl aelodau ar gael i’r cyhoedd weld. Rydym wedi derbyn diwylliant cyfrinachol cudd yn San Steffan ac mae hyn yn fygythiad clir i ddemocratiaeth.”

Ychwanegodd Dafydd Wigley cyn AS Arfon a chyn arweinydd y Blaid :

‘Mae’r sustemau yn y cynulliad, er bod angen tynhau arnynt, yn llawer mwy llym na’r rhai yn Nhŷ’r Cyffredin .Byddai San Steffan yn elwa o ddysgu o’r Cynulliad yn y materion hyn’

End/Diwedd

Nodiadau i’r golygydd:
Yn ôl yr 'Audit of Political Engagement' a gyhoeddwyd gan Hansard mis Ebrill dim ond teian o boblogaeth y DU sydd yn credu bod sustem llywodraeth San Steffan yn cyflawni ei diben yn dda neu yn dda dros ben.

Yr wythnos diwethaf yn dilyn dadleniad cyntaf treuliau ASau roedd 89% o’r rheini a holwyd gan ICM ar gyfer y News of the World yn rhybuddio bod enw da San Steffan yn cael ei bardduo.

Ar hyn o bryd, mae Dafydd Wigley yn ymwneud â’r Panel Adolygu Annibynnol sydd yn ymchwilio i dal a chostau ACau o dan gadeiryddiaeth Sir Roger Jones

Wednesday, 22 April 2009

Y Blaid yn talu teyrnged i wirfoddolwyr a gollodd eu bywydau yn brwydo yn erbyn ffasgaeth

Ddydd Mercher diwethaf, nodwyd 70 mlynedd ers Rhyfel Cartref Sbaen lle bu pobl o Gymru, gan gynnwys Llanelli, yn gwirfoddoli frwydo yn erbyn ffasgaeth yn Sbaen. Mae Helen Mary Jones, yr AC lleol, a Dr Myfanwy, ymgeisydd y Blaid yn Llanelli ar gyfer San Steffan, wedi bod yn bwrw golwg ar draddodiad balch Llanelli o ran gwrthsefyll ffasgaeth.

Meddai Helen Mary Jones:
“Roedd cymryd rhan yn yr orymdaith a rali yn erbyn y BNP rai wythnosau yn ôl yn atgoffa am draddodiad balch Llanelli o wrthsefyll ffasgaeth, gartref a thramor. Aeth nifer fawr o Gymry, gan gynnwys rhai o Lanelli, i’r cyfandir i ymladd mewn frwydr oedd yn amlwg iddyn nhw yn frwydr dros ryddid pob un ohonom.”

Dechreuodd Rhyfel Cartref Sbaen ar ôl i rannau o’r fyddin geisio coup d’etat yn erbyn llywodraeth Ail Weriniaeth Sbaen. Roedd y rhyfel yn ddinistriol tu hwnt i Sbaen, gan bara o 17 Gorffennaf 1936 tan 1 Ebrill 1939 gyda buddugoliaeth y gwrthryfelwyr a sefydlu unbeniaeth y Ffasgydd General Francisco Franco am y 36 mlynedd nesaf.

Meddai Dr Myfanwy Davies, ymgeisydd Plaid Cymru yn Llanelli ar gyfer San Steffan:

“Rydym yn arbennoig o falch o’r ffaith bod cofeb swyddogol y tu allan i swyddfa Plaid Cymru yn Llanelli sy’n coffáu’t gwirfoddolwyr dewr a adawodd yr ardal i ymladd a marw yn Sbaen yn y rhyfel yn erbyn ffasgaeth. Yn anffodus, mae’r frwydr yn erbyn ffasgaeth yn parhau heddiw, ac mae hyd yn oed yn anoddach gyda ffasgwyr fel y BNP yn ceisio portreadu’u hunain fel plaid wleidyddol normal. Nid oes lle yn ein cymunedau i’w polisïau o atgasedd.

”Mae agwedd y BNP at bobl anabl fel baich ar gymdeithas a’r ffaith eu bod yn gwadu’r hawliau mwyaf sylfaenol i fenywod, gan gynnwys eu hamddiffyn rhag treisio a thrais yn y cartref, yn golygu nad oes modd eu derbyn fel rhan o wleidyddiaeth arferol. Alla’ i ddim dychmygu sut beth, fel person anabl neu fenyw sy’n cael ei chamdrin, fyddai gorfod troi at gynghorydd neu gynrychiolydd o’r BNP i gael help gyda phroblem.”

Mae cofeb genedlaethol i’r gwirfoddolwyr o Gymru a frwydrodd yn Rhyfel Cartref Sbaen y tu allan i Lyfrgell Glowyr De Cymru, ond nid oes cofeb sy’n enwi pob person dewr a aeth dramor i ymladd dros ddemocratiaeth.

Meddai Helen Mary Jones:
“Mae’n briodol a theilwng ein bod yn cofio, fel y byddwn yn gwneud bob blwyddyn, am y milwyr hynny a frwydrodd yn ddewr yn erbyn ffasgaeth yn yr Ail Ryfel Byd. Ond hefyd dylem gofio’r gwirfoddolwyr a welodd yr hyn oedd ar y gorwel, ac a aeth i wrthsefyll ffasgaeth yn Sbaen. Yn ddiweddar, cododd Leanne Wood, fy nghyd-aelod o’r Blaid, yr angen i godi cofeb genedlaethol yn y Senedd i goffáu’r rheini a frwydrodd ac a fu farw yn y rhyfel. Rwy’n llwyr gefnogi’r alwad hon.”

Mae Helen Mary a Myfanwy yn awyddus i atgoffa pobl ein bod mewn dyled am ein rhyddid, nid yn unig i’r milwyr a fu fawr yn yr Ail Ryfel Byd, ond hefyd y gwirfoddolwyr a gollodd eu bywydau yn Rhyfel Cartref Sbaen. Ni ddylent byth fynd yn anghof.

Saturday, 7 February 2009

Plaid yn sicrhau £1 miliwn ar gyfer tai fforddiadwy yn Sir Gâr

Mae Dr. Myfanwy Davies, ymgeisydd y Blaid sy’n brwydro ar gyfer sedd Llanelli yn San Steffan, wedi croesawu’r newyddion o hwb o £15 miliwn i dai fforddiadwy ledled Cymru, gyda £907,228 i’w ddyrannu i gymdeithasau tai yn Sir Gâr. Bydd 300 o dai fforddiadwy newydd yn cael eu hadeiladu ledled Cymru gan ddefnyddio’r arian hwn, gyda mwy na 6,000 o dai fforddiadwy eraill yn cael eu creu dros y blynyddoedd nesaf ar ben hyn. Cafodd yr hwb ariannol ei gyhoeddi yr wythnos hon gan Jocelyn Davies, Dirprwy Weinidog y Blaid dros Dai.

Yn siarad o swyddfa’r ymgyrch yn Llanelli, meddai Myfanwy:
“Mae hyn yn hwb sydd i’w groesawu i ddai fforddiadwy ledled Sir Gâr, ac mae mwy ar y gweill gan fod yr arian hwn ar ben y Grant Tai Fforddiadwy. Mae’r Blaid yn Llywodraeth Cymru yn darparu tai fforddiadwy i bobl Cymru, sy’n hanfodol yn yr hinsawdd economaidd presennol. Bydd y cyllid hwn hefyd yn helpu diwydiant adeiladu Cymru”

Meddai Jocelyn Davies, y Dirprwy Weinidog dros Dai:
“Mae cymdeithasau tai wedi cael yr arian newydd hwn i’w galluogi i ddelio â’r sefyllfa economaidd bresennol. Mae wedi’u galluogi i brynu tai a lleiniau sydd heb eu gwerthu oddi wrth gontractwyr preifat. Mae hyn wedi rhoi llif arian i’r diwydiant adeiladu, gan gadw pobl mewn gwaith a chefnogi swyddi.”

Diwedd / Ends
Nodiadau i Olygyddion
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Rhydwyn Ifan ar 07703574822


Manylion buddsoddiad y Gronfa Grant Tai Fforddiadwy:
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dyrannu £42 miliwn ychwanegol i’r Gronfa Grant Tai Fforddiadwy er mwyn hybu’r gwaith o godi tai fforddiadwy. Caiff yr arian eri wario drwy’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru dros dair blynedd.
Caiff £15 miliwn ei wario yn 2008/09. Dyma’r manylion lleol:

Awdurdod lleol Dyraniad o’r Gronfa
Abertawe £1,172,013
Blaenau Gwent £361,013
Bro Morgannwg £606,942
Caerdydd £1,556,142
Caerffili £840,723
Casnewydd £694,421
Castell-nedd Port Talbot £708,427
Ceredigion £387,902
Conwy £596,687
Gwynedd £652,313
Merthyr Tudful £283,765
Pen-y-bont ar Ogwr £656,291
Powys £677,571
Rhondda Cynon Taf £1,161,770
Sir Benfro £636,562
Sir Ddinbych £484,742
Sir y Fflint £720,359
Sir Fynwy £441,410
Sir Gaerfyrddin £907,228
Torfaen £444,175
Wrecsam £649,141
Ynys Môn £360,401