Wednesday 17 March 2010

Myfanwy a Helen Mary yn mynd â’r frwydr i arbed Clwb Bingo Llanelli i Lundain

Mae darpar ymgeisydd seneddol Plaid dros Lanelli, Myfanwy Davies a’r AC Helen Mary Jones, yn cefnogi’r chwaraewyr Bingo yng Nghlwb Bingo Argos yn Llanelli fel y gofynnant i’r Canghellor gymryd y cyfle olaf i ddileu codiad treth o 15 i 20% ar Fingo a allai beryglu dyfodol y clwb.

Yfory (18/03), bydd Myfanwy yn ymuno â chwaraewyr Bingo o Lanelli fel y cyflwynant dros 500 o lythyron wedi’u llofnodi oddi wrth bobl leol yn Llanelli i swyddogion y Trysorlys yn San Steffan. Mae’r llythyron, a baratowyd gan Myfanwy a Helen Mary, yn gofyn i’r canghellor ddefnyddio Cyllideb y Gwanwyn ar Fawrth 24ain, i ddileu’r codiad treth.

Mae chwaraewyr Bingo Llanelli yn bwriadu gwisgo fel cennin Pedr a pheli bingo enfawr a byddant yn protestio yn erbyn y codiad treth yn Sgwâr y Senedd o 2.15 prynhawn yfory. Gobeithiant gyflwyno’r llythyron i’r Trysorlys yn hwyrach yn y prynhawn.

Meddai Myfanwy: “Y peth olaf mae Llanelli eisiau yw colli Clwb yr Argos. Mae’n fan cyfarfod a chymdeithasu, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn ac mae’n darparu swyddi yn y canol tref. Fel llawer o fusnesau canol tref, mae’r cwsmeriaid sy’n mynychu Clwb yr Argos wedi lleihau ac ar adeg fel hon, mae’n haeddu cymorth oddi wrth y Llywodraeth - nid y codiad treth annheg hwn.
Rwy’n gobeithio y cymer y Canghellor y cyfle olaf hwn i ddangos ei fod yn deall cymunedau fel ein rhai ni.”

Meddai Helen Mary: “Mae’r dreth hon yn un annheg ar bleser pobl. Mewn amserau caled y gwelwch chi beth yw blaenoriaethau’r Llywodraeth. Mae gan y Llywodraeth Lafur a’i Haelod Seneddol lleol, a bleidleisiodd i gadw’r codiad treth yr haf diwethaf, flaenoriaethau sy’n wahanol iawn i’n rhai ni. Ond gobeithiwn y bydd y llythyron yn dangos i’r Canghellor y teimladau dwys yn erbyn y dreth.”

Meddai Nigel Griffiths, Rheolwr Clwb yr Argos: “Rydym yn gobeithio’n fawr iawn y bydd y Llywodraeth yn ailfeddwl ac yn penderfynu peidio â chodi’r dreth. Wedi’r cyfan, os llwydda i ddifetha’n busnesau, ni fydd yn gallu casglu’r dreth o gwbl.”

No comments:

Post a Comment