Showing posts with label canol y dref. Show all posts
Showing posts with label canol y dref. Show all posts

Wednesday, 17 March 2010

Myfanwy a Helen Mary yn mynd â’r frwydr i arbed Clwb Bingo Llanelli i Lundain

Mae darpar ymgeisydd seneddol Plaid dros Lanelli, Myfanwy Davies a’r AC Helen Mary Jones, yn cefnogi’r chwaraewyr Bingo yng Nghlwb Bingo Argos yn Llanelli fel y gofynnant i’r Canghellor gymryd y cyfle olaf i ddileu codiad treth o 15 i 20% ar Fingo a allai beryglu dyfodol y clwb.

Yfory (18/03), bydd Myfanwy yn ymuno â chwaraewyr Bingo o Lanelli fel y cyflwynant dros 500 o lythyron wedi’u llofnodi oddi wrth bobl leol yn Llanelli i swyddogion y Trysorlys yn San Steffan. Mae’r llythyron, a baratowyd gan Myfanwy a Helen Mary, yn gofyn i’r canghellor ddefnyddio Cyllideb y Gwanwyn ar Fawrth 24ain, i ddileu’r codiad treth.

Mae chwaraewyr Bingo Llanelli yn bwriadu gwisgo fel cennin Pedr a pheli bingo enfawr a byddant yn protestio yn erbyn y codiad treth yn Sgwâr y Senedd o 2.15 prynhawn yfory. Gobeithiant gyflwyno’r llythyron i’r Trysorlys yn hwyrach yn y prynhawn.

Meddai Myfanwy: “Y peth olaf mae Llanelli eisiau yw colli Clwb yr Argos. Mae’n fan cyfarfod a chymdeithasu, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn ac mae’n darparu swyddi yn y canol tref. Fel llawer o fusnesau canol tref, mae’r cwsmeriaid sy’n mynychu Clwb yr Argos wedi lleihau ac ar adeg fel hon, mae’n haeddu cymorth oddi wrth y Llywodraeth - nid y codiad treth annheg hwn.
Rwy’n gobeithio y cymer y Canghellor y cyfle olaf hwn i ddangos ei fod yn deall cymunedau fel ein rhai ni.”

Meddai Helen Mary: “Mae’r dreth hon yn un annheg ar bleser pobl. Mewn amserau caled y gwelwch chi beth yw blaenoriaethau’r Llywodraeth. Mae gan y Llywodraeth Lafur a’i Haelod Seneddol lleol, a bleidleisiodd i gadw’r codiad treth yr haf diwethaf, flaenoriaethau sy’n wahanol iawn i’n rhai ni. Ond gobeithiwn y bydd y llythyron yn dangos i’r Canghellor y teimladau dwys yn erbyn y dreth.”

Meddai Nigel Griffiths, Rheolwr Clwb yr Argos: “Rydym yn gobeithio’n fawr iawn y bydd y Llywodraeth yn ailfeddwl ac yn penderfynu peidio â chodi’r dreth. Wedi’r cyfan, os llwydda i ddifetha’n busnesau, ni fydd yn gallu casglu’r dreth o gwbl.”

Tuesday, 9 March 2010

Myfanwy a Helen Mary yn cefnogi chwaraewyr bingo yn Llanelli yn yr ymgyrch yn erbyn treth annheg

Mae Myfanwy Davies Ymgeisydd Seneddol Plaid yn Llanelli a AC lleol Helen Mary Jones yn cefnogi ymgyrch chwaraewyr Bingo, yng nghlwb bingo'r Argos Llanelli ,wrth iddynt ofyn i’r canghellor i ail ystyried y codiad treth ar bingo - a fyddai’n gosod dyfodol y clwb mewn peryg. Bu Myfanwy yn ymweld â Chlwb Bingo’r Argos nos Lun Mawrth 1af i drosglwyddo llythyron, i’w harwyddo gan yr aelodau, i’w hanfon at y Canghellor.

Yr haf diwethaf cyhoeddodd y llywodraeth Lafur gynnydd difrifol yn y dreth ar Bingo, tra bod trethi ar ffurf eraill o hap chwarae yn aros yr un fath. Teithiodd chwaraewyr bingo Llanelli i lawr i Sansteffan i brotestio yn erbyn hyn. Fe wnaeth Myfanwy ac ASau Plaid Cymru gyfarfod â ‘r protestwyr gan gynnig cefnogaeth. Yn wahanol i’r hyn wnaeth AS Llafur Llanelli, sef pleidleisio dros godi’r dreth tro ar ôl tro, mae Aelodau Seneddol y Blaid wedi pleidleisio yn erbyn y dreth annheg yma ar hyd yr adeg.

Fodd bynnag mae’r dreth ar Bingo yn dal i gynyddu o 15-20% ac fe fydd hyn yn effeithio’n arw ar glybiau megis yr Argos yn Llanelli. Mae gan y Canghellor un cyfle olaf i ail edrych ar y sefyllfa sef yn y Gyllideb yn y Gwanwyn, ac felly mae Myfanwy a Helen Mary am sicrhau ei fod yn deall pryderon y gwrthwynebwyr yn glir cyn ei fod yn gwneud unrhyw benderfyniadau .

Dywedodd Myfanwy: “Y peth diwethaf sydd ei angen ar Lanelli yw colli Clwb yr Argos. Mae yn fan cyfarfod a chymdeithasu, yn enwedig i’r bobl hŷn, ac mae’n rhoi gwaith yng nghanol y dref. Yn debyg i nifer o fusnesau canol y dref mae Clwb yr Argos wedi gweld llai o gwsmeriaid yn dod yno, ac ar adeg fel hyn mae angen help gan y llywodraeth - nid y dreth annheg yma.

Pam y dylai casinos yn Llundain gael eu trethi ar y raddfa wreiddiol a dyfodol clwb yr Argos bod mewn perygl? Rwyf i’n gobeithio y bydd y Canghellor yn cymryd y cyfle olaf yma i ddangos ei fod yn deall pobl a chymunedau fel ni.”

Dywedodd Helen Mary : “Mae hyn yn dreth hollol annheg ar fwynhad pobl. Mewn amseroedd caled fel hyn mae yn bosib gweld yn union beth yw blaenoriaethau llywodraeth. Mae gan y Llywodraeth Lafur a’i AS lleol, a bleidleisiodd i gadw codiad yn y dreth, blaenoriaethau hollol wahanol i ni. Ond, y gobaith yw, y bydd y llythyron i’r Canghellor yn dangos yn glir cymaint yw’r teimladau ynglŷn â hyn ac y bydd yn ail-ystyried gosod y baich ychwanegol yma ar un o fusnesau allweddol ein tref”.

Dywedodd Nigel Griffiths, Rheolwr Clwb Bingo yr Argos: “Mae'r rhain wedi bod yn amseroedd anodd iawn, yn enwedig yn ystod mis Ionawr, lle roeddem yn gweld tipyn llai o’n cwsmeriaid arferol. Gobeithiwn yn fawr y bydd y Canghellor yn ail feddwl ynglŷn â chodi’r dreth. Wedi’r cyfan, os bydd yn llwyddo i gau ein busnesau ni, fydd e’ ddim yn gallu casglu’r dreth beth bynnag”.

Mae copϊau o’r llythyr wedi eu gadael yng Nghlwb yr Argos a byddant yn cael eu cyflwyno i Elfyn Llwyd, Arweinydd Grwp Senoddol Plaid Cymru pan y mae’n ymweld â Llanelli Dydd Llun nesaf (15ed).

Thursday, 22 October 2009

Tŷ Llanelly yn derbyn hwb ariannol o £2m

Mae'r prosiect £6m i adfer Tŷ Llanelly wedi derbyn hwb ariannol o £2m oddi wrth Lywodraeth Cymru a yrrir gan Plaid. Mae Helen Mary Jones AC a Myfanwy Davies o Plaid Llanelli wedi croesawu'r newyddion a dywedasant y byddai'n rhoi hwb enfawr i'r prosiect.



Dywedodd AC Plaid dros Lanelli Helen Mary Jones:



"Bydd y £2m o arian a gyhoeddwyd heddiw yn hwb enfawr i adfer Tŷ Llanelly. Mae Plaid mewn Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi asedau diwylliannol lleol ac fel un o dai mwyaf hanesyddol Llanelli, mae Tŷ Llanelly yn llawn haeddu'r gefnogaeth yma. Mae'r hwb ariannol sydd i'w groesawu'n dystiolaeth bellach bod Plaid Cymru wedi ymrwymo i gyflawni'r gorau dros Lanelli."


Dywedodd Myfanwy Davies ymgeisydd seneddol y Blaid yn Llanelli:


"Rwy wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru'n Un a yrrir gan Plaid wedi cyflawni'r buddsoddiad enfawr yma dros Lanelli. Yn rhy aml, mae pobl yn dirmygu canol ein tref, ond mae cymaint gyda ni i fod yn falch ohono. Mae Tŷ Llanelly yn em gudd sy'n dyddio yn ôl i wreiddiau'r dref ac mae'n bwysig inni i gyd. Ar ôl iddo gael ei adfer, bydd yn dod ag ymwelwyr a siopwyr i mewn i weld faint sydd gan ein tref i'w gynnig.”"

Tuesday, 20 October 2009

Ieuan Wyn Jones yn cefnogi diwydiant a busnesau bach Llanelli

Heddiw (15/10/0) mi wnaeth Helen Mary Jones AC ac ymgeisydd seneddol Plaid Cymru, Dr Myfanwy Davies groesawu'r Dirprwy Prif Weinidog a Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth i Lanelli.

Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru gymryd hoe o’i amserlen brysur i gwrdd â masnachwyr lleol a phobl busnes a stondinwyr ym marchnad y dref . Mi ymwelodd Mr Jones hefyd â ffatri gwneud rhannau i geir, Calsonic Kansei. Mae’r ffatri wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y Cynulliad dan arweiniad y Blaid ac o ganlyniad i hyn fe ddiogelwyd dros 200 o swyddi a creuwyd 40 o swyddi newydd .

Bydd y £3.2 miliwn o’r buddsoddiad arbennig gan Gronfa Buddsoddiad Unigol Lywodraeth Cymru’n Un yn canolbwyntio ar gyflwyno cynhyrchion newydd o gludiant i’r genhedlaeth nesaf yn cynnwys technolegau cymysg ac EV sydd angen cydrannau ysgafnach a mwy effeithiol .

Roedd arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones hefyd yn awyddus iawn i ddangos ei gefnogaeth i Myfanwy Davies yn ei hymgyrch i fod y fenyw cyntaf i fod yn Aelod Seneddol yn enw Plaid Cymru .


Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones :

“Mae’n hanfodol ein bod yn cael rhywun tebyg i Myfanwy yn Sansteffan a fydd yn llais cryf dros ein cymunedau yng Nghymru .Mae cymaint o benderfyniadau pwysig sy’n effeithio ar Gymru yn cael eu penderfynu yno , a dyna paham yr wyf i yma heddiw i gefnogi Myfanwy yn ei hymgyrch i fod y fenyw gyntaf i fod yn AS i Blaid Cymru.”

”Yn ystod fy ymweliad fe ges hefyd y cyfle i wrando ar farn pobl busnes lleol ar yr hyn y maent yn credu sy’n bosib ei wneud i sicrhau dyfodol llewyrchus i economi’r ardal .”


Dywedodd Helen Mary Jones o’r Blaid:

"Roeddwn yn falch iawn o groesawu Ieuan Wyn Jones i Lanelli heddiw ac iddo ddangos ei gefnogaeth i ymgyrch Myfanwy.

Mae ei ymweliad yn dangos yn glir sut mae’r Blaid yn y llywodraeth wedi ymrwymo i wrando ar gymunedau a busnesau , ac fel Gweinidog yr Economi , roedd yn beth aruthrol o dda ei fod yn gallu cwrdd â rhai o’n masnachwyr lleol heddiw a thrafod eu pryderon . Mae Llywodraeth Cymru’n Un yn gwneud gwaith arbennig o amddiffyn ein cymunedau yn erbyn dirwasgiad , ond mae’r pwerau yn gyfyngedig. Rydym ni yma yn Llanelli angen llais cryf ac annibynnol yn Llundain, llais a fydd yn sefyll yn gryf drosom ni. Roedd yn wych o beth i gael arweinydd y Blaid yma heddiw yn dangos ei gefnogaeth i Myfanwy a’i ymddiriedaeth ynddi.”

Ychwanegodd Myfanwy :

“Mae’r buddsoddiad newydd yn Calsonic yn newyddion gwych ac rwyf wrth fy modd bod Ieuan wedi dod lawr yma i ymweld â’r gwaith. Mae pobl Llanelli yn poeni’n arw hefyd am fusnesau bychain yng nghanol y dref .Roeddwn yn falch o gael y gefnogaeth gan Gynhadledd y Blaid am gamau ymarferol i helpu ein busnesau yng nghanol y dref ,megis edrych ar y trethi busnes.Roeddwn yn gwybod bod ein pobl fusnes lleol yn awyddus iawn i gael trafodaeth agored gydag Ieuan ynglŷn â’u problemau. Roeddwn yn ddiolchgar dros ben ei fod yn gallu cynnig atebion i’w pryderon.”

Wednesday, 16 September 2009

Myfanwy yn ennill cefnogaeth genedlaethol i fusnesau canol y dre

Mae Dr Myfanwy Davies, Ymgeisydd Seneddol y Blaid,Llanelli wedi ennill cefnogaeth genedlaethol i gynllun i helpu busnesau yng nghanol dref Llanelli. Mewn cynnig yng Nghynhadledd Genedlaethol y Blaid y penwythnos diwethaf, a dderbyniwyd gan neuadd orlawn, galwodd am adolygiad o’r cynllun graddfa cymhorthdal i helpu busnesau bach a effeithiwyd gan ddatblygiadau tu allan i’r dref. Hefyd galwodd ar Lywodraeth y Cynulliad i ddatblygu menter cyllid cymunedol i gynnig credyd i fusnesau lleol ac am strategaeth genedlaethol i lanw siopau gwag, hyrwyddo cynnyrch lleol a darparu tai addas mewn canolfannau trefol.

Yn ei haraith yn y gynhadledd dywedodd Myfanwy:

“Mae methiant Cyngor Sir Caerfyrddin I atal datblygiad enfawr tu allan i’r dref ynghyd a cholled o gannoedd o swyddi cynhyrchu yn gwaedu canol ein tref yn sych ”.

Wrth siarad yn Llanelli ddydd Mercher ychwanegodd Myfanwy:

“Mae trethi busnes erbyn hyn yn faich ar ein marchnatwyr yng nghanol y dref . Rydw i’n hynod o falch ein bod wedi ennill cefnogaeth genedlaethol i edrych ar flaenoriaethu eu hanghenion. Hefyd fe enillon gefnogaeth i alw am strategaeth i lanw siopau gwag yng nghanol y dref ac fe fydd Aelodau Cynulliad y Blaid yn awr yn medru brwydro am gynlluniau cyllid cymunedol i ariannu busnesau newydd dichonadwy ac i gefnogi marchnatwyr sydd yno’n barod sydd angen credyd er mwyn iddynt dyfu . Rydw i’n ymwybodol o nifer o fusnesau sefydledig sy’n cael trafferth i dyfu gan i’r union fanciau sydd wedi’u hachub gan arian cyhoeddus,wrthod credyd iddynt” .

Ychwanegodd Helen Mary Jones AC Llanelli Plaid :

“Mae’r penderfyniad yma yn rhoi llwyfan clir i ni frwydro am fwy o gefnogaeth gan y Cynulliad i fusnesau bychain yn Llanelli ac i edrych ar sut yn union y gallwn helpu busnesau da lleol i symud ymlaen a thyfu ”.