Mae Myfanwy Davies Ymgeisydd Seneddol Plaid yn Llanelli a AC lleol Helen Mary Jones yn cefnogi ymgyrch chwaraewyr Bingo, yng nghlwb bingo'r Argos Llanelli ,wrth iddynt ofyn i’r canghellor i ail ystyried y codiad treth ar bingo - a fyddai’n gosod dyfodol y clwb mewn peryg. Bu Myfanwy yn ymweld â Chlwb Bingo’r Argos nos Lun Mawrth 1af i drosglwyddo llythyron, i’w harwyddo gan yr aelodau, i’w hanfon at y Canghellor.
Yr haf diwethaf cyhoeddodd y llywodraeth Lafur gynnydd difrifol yn y dreth ar Bingo, tra bod trethi ar ffurf eraill o hap chwarae yn aros yr un fath. Teithiodd chwaraewyr bingo Llanelli i lawr i Sansteffan i brotestio yn erbyn hyn. Fe wnaeth Myfanwy ac ASau Plaid Cymru gyfarfod â ‘r protestwyr gan gynnig cefnogaeth. Yn wahanol i’r hyn wnaeth AS Llafur Llanelli, sef pleidleisio dros godi’r dreth tro ar ôl tro, mae Aelodau Seneddol y Blaid wedi pleidleisio yn erbyn y dreth annheg yma ar hyd yr adeg.
Fodd bynnag mae’r dreth ar Bingo yn dal i gynyddu o 15-20% ac fe fydd hyn yn effeithio’n arw ar glybiau megis yr Argos yn Llanelli. Mae gan y Canghellor un cyfle olaf i ail edrych ar y sefyllfa sef yn y Gyllideb yn y Gwanwyn, ac felly mae Myfanwy a Helen Mary am sicrhau ei fod yn deall pryderon y gwrthwynebwyr yn glir cyn ei fod yn gwneud unrhyw benderfyniadau .
Dywedodd Myfanwy: “Y peth diwethaf sydd ei angen ar Lanelli yw colli Clwb yr Argos. Mae yn fan cyfarfod a chymdeithasu, yn enwedig i’r bobl hŷn, ac mae’n rhoi gwaith yng nghanol y dref. Yn debyg i nifer o fusnesau canol y dref mae Clwb yr Argos wedi gweld llai o gwsmeriaid yn dod yno, ac ar adeg fel hyn mae angen help gan y llywodraeth - nid y dreth annheg yma.
Pam y dylai casinos yn Llundain gael eu trethi ar y raddfa wreiddiol a dyfodol clwb yr Argos bod mewn perygl? Rwyf i’n gobeithio y bydd y Canghellor yn cymryd y cyfle olaf yma i ddangos ei fod yn deall pobl a chymunedau fel ni.”
Dywedodd Helen Mary : “Mae hyn yn dreth hollol annheg ar fwynhad pobl. Mewn amseroedd caled fel hyn mae yn bosib gweld yn union beth yw blaenoriaethau llywodraeth. Mae gan y Llywodraeth Lafur a’i AS lleol, a bleidleisiodd i gadw codiad yn y dreth, blaenoriaethau hollol wahanol i ni. Ond, y gobaith yw, y bydd y llythyron i’r Canghellor yn dangos yn glir cymaint yw’r teimladau ynglŷn â hyn ac y bydd yn ail-ystyried gosod y baich ychwanegol yma ar un o fusnesau allweddol ein tref”.
Dywedodd Nigel Griffiths, Rheolwr Clwb Bingo yr Argos: “Mae'r rhain wedi bod yn amseroedd anodd iawn, yn enwedig yn ystod mis Ionawr, lle roeddem yn gweld tipyn llai o’n cwsmeriaid arferol. Gobeithiwn yn fawr y bydd y Canghellor yn ail feddwl ynglŷn â chodi’r dreth. Wedi’r cyfan, os bydd yn llwyddo i gau ein busnesau ni, fydd e’ ddim yn gallu casglu’r dreth beth bynnag”.
Mae copϊau o’r llythyr wedi eu gadael yng Nghlwb yr Argos a byddant yn cael eu cyflwyno i Elfyn Llwyd, Arweinydd Grwp Senoddol Plaid Cymru pan y mae’n ymweld â Llanelli Dydd Llun nesaf (15ed).
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment