Showing posts with label trethu. Show all posts
Showing posts with label trethu. Show all posts

Tuesday, 23 March 2010

Myfanwy a Helen Mary’n cefnogi busnesau lleol gan ddweud, ‘Rhaid gohirio’r codiad mewn treth ar danwydd’

Mae Myfanwy Davies, Plaid Cymru a Helen Mary Jones wedi galw heddiw (23/03), cyn Cyllideb Dydd Mercher, am rewi‘r codiad sylweddol mewn treth ar danwydd.

Mae treth ar danwydd i godi 2.55 ceiniog am bob litr o Ebrill 2010 (1% yn uwch na chwyddiant). Bydd hyn yn costio £200 ychwanegol i deulu cyffredin ac achosi trafferthion pellach i fusnesau bach sydd eisoes yn gwingo dan drethi tanwydd uwch. Mae Plaid wedi haeru y dylid gohirio’r codiad treth sylweddol hwn.

Mae cyrff ymgyrchu fel Cymdeithas Gludiant Ffyrdd wedi dod allan mewn cefnogaeth i alwadau’r Blaid am reolydd treth tanwydd teg. Dan gynllun o’r fath byddai codiad annisgwyl mewn pris petrol yn arwain at rewi treth tanwydd.

Mae Aelodau Seneddol o’r Blaid a Phlaid Genedlaethol Yr Alban wedi gosod datganiad swyddogol ar y bwrdd yn annog rhewi treth tanwydd ac yn galw eto am sefydlu rheolydd treth tanwydd.

Dywedodd Arwyn Price o gwmni bysys Gwynne Price yn Nhrimsaran:

“Bu hwn yn fusnes i’n teulu ni ers 1956 a phrin y gwelwyd amser caletach. Derbyniais y prisiau disel newydd y bore ‘ma ac, hyd yn oed gyda disgownt-swmp, byddwn yn talu bron 10% yn fwy nag ym Mis Mehefin llynedd a hynny cyn y codiad treth".

"Mae’r Llywodraeth eisoes yn codi costau tanwydd yn uwch na graddfa chwyddiant. Pan fo cost tanwydd yn codi fel y mae, y peth lleiaf allan nhw ei wneud yw rhewi’r codiad yn y dreth. Oni wnân’ nhw ail feddwl yn Y Gyllideb yfory, fe fydd pethau hyd yn oed yn fwy anodd arnom ni”.

Ychwanegodd Myfanwy:

“Ein cymunedau ni yn Llanelli a’r cylch fydd yn teimlo gwasgfa’r codiad sylweddol hwn mewn pris tanwydd. Mae teuluoedd sydd yn gweithio’n galed yn ei chael hi’n anodd rhedeg car, ond mae’r trethi tanwydd rhyfeddol o uchel hyn yn cael effaith ar y prisiau yn ein siopau hefyd gyda chostau cludo bwyd a chynhyrchion eraill iddynt yn codi. Mae ein busnesau lleol, fel Cwmni Bysiau Gwynne Price a’n llu o gwmnïau tacsis, yn cyfrannu’n enfawr at ein heconomi lleol a bydd hi hyd yn oed yn fwy anodd iddynt gael y ddau ben llinyn ynghyd".

"Wedi blwyddyn o weld prisiau tanwydd yn saethu i fyny, mae’n gwbl anghyfrifol i ychwanegu at y baich sy’n wynebu busnesau lleol a theuluoedd sy’n gweithio. Unwaith eto, mae Llywodraeth Lafur heb unrhyw ddealltwriaeth o gymunedau fel ein un ni”.

Ychwanegodd Helen Mary Jones AC Llanelli:

“'Dyw hyn yn ddim byd ond cosbi pobl gyffredin am fethiant cyfundrefn fancio yr oedd llywodraeth Llundain wedi helpu ei chreu. Yn syml iawn, ymddengys nad yw ein ffrindiau yn Llundain yn deall effaith mae’r codi mewn prisiau tanwydd yn ei gael ar bobl gyffredin a’r cymunedau.”

Ychwanegodd Elfyn Llwyd AS, Arweinydd y Blaid yn San Steffan:

“Mae codiadau mewn treth ar danwydd yn parlysu diwydiant yn barod - ond mae hefyd yn faich annheg ar deuluoedd caled eu byd, busnesau bychain, ardaloedd gwledig yn arbennig a, hefyd, bydd hyn yn ergyd fawr iawn i sectorau megis y gwasanaethau brys".

"Parhawn i ymladd y codiad tanwydd hwn a pharhawn i annog dod i mewn â rheolydd treth tanwydd yn ystod Y Gyllideb i sicrhau sefydlogrwydd mewn pris yn ogystal â threthi tanwydd is.”

Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu dros gyfnod hir am beirianwaith newydd i gapio prisiau petrol. Gyda’r SNP cyflwynwyd cynnig i wella’r Mesur Cyllid i greu rheolydd Trethi Tanwydd yn 2008 ond pleidleisiodd Llafur yn ei erbyn.

Cefnogir rheolydd o’r fath gan leisiau blaengar diwydiant, megis Cymdeithas Gludiant Ffyrdd. Dan gynllun felly, byddai codiad annisgwyl mewn prisiau petrol yn arwain at rewi treth ar danwydd.

Wednesday, 17 March 2010

Myfanwy a Helen Mary yn mynd â’r frwydr i arbed Clwb Bingo Llanelli i Lundain

Mae darpar ymgeisydd seneddol Plaid dros Lanelli, Myfanwy Davies a’r AC Helen Mary Jones, yn cefnogi’r chwaraewyr Bingo yng Nghlwb Bingo Argos yn Llanelli fel y gofynnant i’r Canghellor gymryd y cyfle olaf i ddileu codiad treth o 15 i 20% ar Fingo a allai beryglu dyfodol y clwb.

Yfory (18/03), bydd Myfanwy yn ymuno â chwaraewyr Bingo o Lanelli fel y cyflwynant dros 500 o lythyron wedi’u llofnodi oddi wrth bobl leol yn Llanelli i swyddogion y Trysorlys yn San Steffan. Mae’r llythyron, a baratowyd gan Myfanwy a Helen Mary, yn gofyn i’r canghellor ddefnyddio Cyllideb y Gwanwyn ar Fawrth 24ain, i ddileu’r codiad treth.

Mae chwaraewyr Bingo Llanelli yn bwriadu gwisgo fel cennin Pedr a pheli bingo enfawr a byddant yn protestio yn erbyn y codiad treth yn Sgwâr y Senedd o 2.15 prynhawn yfory. Gobeithiant gyflwyno’r llythyron i’r Trysorlys yn hwyrach yn y prynhawn.

Meddai Myfanwy: “Y peth olaf mae Llanelli eisiau yw colli Clwb yr Argos. Mae’n fan cyfarfod a chymdeithasu, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn ac mae’n darparu swyddi yn y canol tref. Fel llawer o fusnesau canol tref, mae’r cwsmeriaid sy’n mynychu Clwb yr Argos wedi lleihau ac ar adeg fel hon, mae’n haeddu cymorth oddi wrth y Llywodraeth - nid y codiad treth annheg hwn.
Rwy’n gobeithio y cymer y Canghellor y cyfle olaf hwn i ddangos ei fod yn deall cymunedau fel ein rhai ni.”

Meddai Helen Mary: “Mae’r dreth hon yn un annheg ar bleser pobl. Mewn amserau caled y gwelwch chi beth yw blaenoriaethau’r Llywodraeth. Mae gan y Llywodraeth Lafur a’i Haelod Seneddol lleol, a bleidleisiodd i gadw’r codiad treth yr haf diwethaf, flaenoriaethau sy’n wahanol iawn i’n rhai ni. Ond gobeithiwn y bydd y llythyron yn dangos i’r Canghellor y teimladau dwys yn erbyn y dreth.”

Meddai Nigel Griffiths, Rheolwr Clwb yr Argos: “Rydym yn gobeithio’n fawr iawn y bydd y Llywodraeth yn ailfeddwl ac yn penderfynu peidio â chodi’r dreth. Wedi’r cyfan, os llwydda i ddifetha’n busnesau, ni fydd yn gallu casglu’r dreth o gwbl.”

Tuesday, 9 March 2010

Myfanwy a Helen Mary yn cefnogi chwaraewyr bingo yn Llanelli yn yr ymgyrch yn erbyn treth annheg

Mae Myfanwy Davies Ymgeisydd Seneddol Plaid yn Llanelli a AC lleol Helen Mary Jones yn cefnogi ymgyrch chwaraewyr Bingo, yng nghlwb bingo'r Argos Llanelli ,wrth iddynt ofyn i’r canghellor i ail ystyried y codiad treth ar bingo - a fyddai’n gosod dyfodol y clwb mewn peryg. Bu Myfanwy yn ymweld â Chlwb Bingo’r Argos nos Lun Mawrth 1af i drosglwyddo llythyron, i’w harwyddo gan yr aelodau, i’w hanfon at y Canghellor.

Yr haf diwethaf cyhoeddodd y llywodraeth Lafur gynnydd difrifol yn y dreth ar Bingo, tra bod trethi ar ffurf eraill o hap chwarae yn aros yr un fath. Teithiodd chwaraewyr bingo Llanelli i lawr i Sansteffan i brotestio yn erbyn hyn. Fe wnaeth Myfanwy ac ASau Plaid Cymru gyfarfod â ‘r protestwyr gan gynnig cefnogaeth. Yn wahanol i’r hyn wnaeth AS Llafur Llanelli, sef pleidleisio dros godi’r dreth tro ar ôl tro, mae Aelodau Seneddol y Blaid wedi pleidleisio yn erbyn y dreth annheg yma ar hyd yr adeg.

Fodd bynnag mae’r dreth ar Bingo yn dal i gynyddu o 15-20% ac fe fydd hyn yn effeithio’n arw ar glybiau megis yr Argos yn Llanelli. Mae gan y Canghellor un cyfle olaf i ail edrych ar y sefyllfa sef yn y Gyllideb yn y Gwanwyn, ac felly mae Myfanwy a Helen Mary am sicrhau ei fod yn deall pryderon y gwrthwynebwyr yn glir cyn ei fod yn gwneud unrhyw benderfyniadau .

Dywedodd Myfanwy: “Y peth diwethaf sydd ei angen ar Lanelli yw colli Clwb yr Argos. Mae yn fan cyfarfod a chymdeithasu, yn enwedig i’r bobl hŷn, ac mae’n rhoi gwaith yng nghanol y dref. Yn debyg i nifer o fusnesau canol y dref mae Clwb yr Argos wedi gweld llai o gwsmeriaid yn dod yno, ac ar adeg fel hyn mae angen help gan y llywodraeth - nid y dreth annheg yma.

Pam y dylai casinos yn Llundain gael eu trethi ar y raddfa wreiddiol a dyfodol clwb yr Argos bod mewn perygl? Rwyf i’n gobeithio y bydd y Canghellor yn cymryd y cyfle olaf yma i ddangos ei fod yn deall pobl a chymunedau fel ni.”

Dywedodd Helen Mary : “Mae hyn yn dreth hollol annheg ar fwynhad pobl. Mewn amseroedd caled fel hyn mae yn bosib gweld yn union beth yw blaenoriaethau llywodraeth. Mae gan y Llywodraeth Lafur a’i AS lleol, a bleidleisiodd i gadw codiad yn y dreth, blaenoriaethau hollol wahanol i ni. Ond, y gobaith yw, y bydd y llythyron i’r Canghellor yn dangos yn glir cymaint yw’r teimladau ynglŷn â hyn ac y bydd yn ail-ystyried gosod y baich ychwanegol yma ar un o fusnesau allweddol ein tref”.

Dywedodd Nigel Griffiths, Rheolwr Clwb Bingo yr Argos: “Mae'r rhain wedi bod yn amseroedd anodd iawn, yn enwedig yn ystod mis Ionawr, lle roeddem yn gweld tipyn llai o’n cwsmeriaid arferol. Gobeithiwn yn fawr y bydd y Canghellor yn ail feddwl ynglŷn â chodi’r dreth. Wedi’r cyfan, os bydd yn llwyddo i gau ein busnesau ni, fydd e’ ddim yn gallu casglu’r dreth beth bynnag”.

Mae copϊau o’r llythyr wedi eu gadael yng Nghlwb yr Argos a byddant yn cael eu cyflwyno i Elfyn Llwyd, Arweinydd Grwp Senoddol Plaid Cymru pan y mae’n ymweld â Llanelli Dydd Llun nesaf (15ed).

Thursday, 2 July 2009

Myfanwy a Hywel Williams AS yn ymuno gyda phrotestwyr Bingo o Lanelli yn San Steffan

Heddiw ymunodd Hywel Williams AS Plaid Cymru ag ymgeisydd seneddol y Blaid yn Llanelli Dr Myfanwy Davies, gyda chwaraewyr bingo, mewn ymgyrch yn erbyn y trethi annheg ar Bingo.

Teithiodd y grŵp, dan arweiniad Nigel Griffiths, 330 o filltiroedd i ymladd dros ddyfodol eu clwb bingo drwy brotestio yn Dean’s Yard gyferbyn â San Steffan.

Gwisgai’r protestwyr fasgiau Alistair Darling gan gario nifer o blacardau. Roedd rhai hefyd yn amgylchu’r sgwâr yn eu ‘Bws Bingo’, gan ymuno mewn gêm o fingo ar y borfa i hyrwyddo’r achos.

Roedd Hywel Williams, Aelod Plaid Cymru dros Arfon wedi rhybuddio eisoes y byddai y penderfyniad i gynyddu’r dreth o 15% i 22% yn siŵr o arwain at ddirywiad mewn clybiau bingo .

Cafodd ymgyrch gan yr SNP,gyda chefnogaeth y Blaid, i wyrdroi'r penderfyniad ei drechu’n ddiweddar gan Aelodau Seneddol Llafur. Mae ffyrdd eraill o hapchwarae megis y casino a poker ar -lein yn dal ar dreth o 15%.

Dywedodd Hywel Williams AS Plaid Cymru :

“Mae’r modd mae’r llywodraeth yn ymdrin â’r sector bingo yn anghredadwy o annheg. Yn y gyllideb cyhoeddodd y Llywodraeth eu bod wedi tynnu allan y TAW ar ffioedd cyfranogiad i chwaraewyr bingo ond ar yr un pryd yn codi treth o 22 %. Nid yw hyn yn gwneud unrhyw synnwyr yn weithredol”

“Mae tegwch trethi yn hanfodol yn ystod y dirwasgiad ac mae’r dreth yma ar Neuaddau Bingo trwyddedig yn beryglus, gan ei fod yn targedu calon ein cymunedau, yn arbennig menywod hŷn a rheini o gartrefi incwm isel. Mae Neuaddau Bingo yn cynnig amgylchedd diogel a chyfeillgar i’r holl gymuned i gwrdd a chymdeithasu”

“Mae’r protestwyr wedi hyrwyddo eu hachos heddiw yn wych .Gobeithio y bydd y llywodraeth yn gweld bod y clybiau bingo a’u hetholwyr yn dioddef oherwydd baich y dreth yma”

Ychwanegodd Dr Myfanwy Davies :

“Ers imi allu cofio mae Bingo wedi bod yn rhan o fywyd Llanelli a’r peth olaf sydd ei angen ar ganol y dre yw cau’r Clwb yn Stryd Murray .”

“Mae hwn yn dreth hollol annheg a gwirion ar fwynhad pobl . Mae bingo yn cael ei drethu unwaith yn barod a does dim cyfiawnhad ar drin bingo yn wahanol i poker ar- lein neu unrhyw ffurf arall o hapchwarae.”.

“Rydym wedi dod yma heddiw i ddangos i’r aelodau seneddol hynny a bleidleisiodd dros y dreth yma nad yw’n bosib anwybyddu llais yr etholwyr”

Monday, 15 June 2009

Myfanwy a Helen Mary yn ymladd i achub Clwb Bingo Llanelli

Mae Dr Myfanwy Davies, ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn Llanelli a Helen Mary Jones AC Plaid Cymru Llanelli wedi beirniadu y dreth ddwbl ar glybiau bingo, a bleidleisiwyd drosto gan Aelodau Seneddol yn Llundain yr wythnos diwethaf . Cyhuddodd Myfanwy lywodraeth Gordon Brown o osod clybiau bingo tref Llanelli mewn peryg.

Daw’r rhybudd yma ar ôl i aelodau seneddol Cymraeg Llafur drechu cynnig gan yr SNP a’r Plaid Cymru i wyrdroi'r raddfa dreth o 15% i 22%. Cedwir lefelau treth ffyrdd eraill o hap- chwarae megis casino neu poker ar- lein ar raddfa o 15%.

Dywedodd Myfanwy :

“Mae Clybiau Bingo yn rhan bwysig o fywyd cymdeithasol tref Llanelli. Mae nhw’n cynnig adloniant diogel ac yno mae gwragedd yn fwyaf arbennig yn ymgasglu i gwrdd â ffrindiau. Mae hyn yn dreth hollol annheg ar fingo, tra bod treth ar ffyrdd eraill o hap- chware yn aros yr un fath . Mae’n gam hollol annheg”.

Mae’n rhybuddio ::

“Efallai bydd y clwb bingo yn Llanelli yn gorfod cau yn yr wythnosau nesaf . Fe fydda i ar y cyd gyda Helen Mary Jones, yn cefnogi cwsmeriaid a staff yn y clwb bingo sydd yn poeni’n fawr am y sefyllfa”.

Dywedodd Helen Mary

“Mae llawer iawn o gefnogaeth i ostwng y dreth ar fingo o 22% i 15% , a’i osod yn gyfartal â phob math arall o hapchwarae. Mae hyn oll am degwch i un o’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd a fwynheir gan bobl ymhob cymuned”

Bydd Myfanwy a Helen Mary yn siarad â staff a chwsmeriaid yng Nghwb Bingo Arogs yn Llanelli yn yr wythnosau nesaf .