Thursday 19 February 2009

Myfanwy Davies yn galw am weithredu ar ddŵr gwastraff i greu swyddi gwyrdd a sicrhau arbedion i deuluoedd

Mae Dr. Myfanwy Davies, ymgeisydd seneddol y Blaid yn Llanelli, wedi ga;w am weithredu i fynd i’r afael â llygredd ym Moryd Byrri ac mae wedi amlinellu posibiliadau i greu swyddi gwyrdd a gostyngiadau mewn biliau dŵr i deuluoedd. Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Myfanwy ffigurau’n dangos cynnydd mewn llygredd carthion yn dilyn y penderfyniad gan Dŵr Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd i ryddhau carthion heb eu trin i Foryd Byrri dros gyfnod o 20 awr yn ystod glaw trwm. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi honni mai dŵr yn draenio o gaeau a nentydd oedd yn gyfrifol am golli’r Faner Las ym Mhen-bre drwy gydol haf gwlyb 2008. Fodd bynnag, mae data’r Asiantaeth yn dangos ansawdd dŵr da drwy gydol yr haf, gan awgrymu mai rhyddhau lefel eithriadol o garthion ym mis Medi oedd ar fai.

Mae Myfanwy wedi datgelu’r gwir gysylltiad rhwng llifogydd a llygredd yn ein moryd. Er gwaethaf honiadau Asiantaeth yr Amgylchedd mai hen arfer yw gollwng dŵr arwyneb drwy’r system garthffosiaeth, mae’r arfer wedi cael ei adnabod fel bygythiad mawr i gymunedau glan môr. Yn ei ymateb i strategaeth ddŵr Llywodraeth y DU ‘Future Water’, mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo i gael gwared ar yr arfer peryglus ac anghyfrifol hwn yn raddol, arfer sydd fe ymddengys wedi costio Baner Las Cefn Sidan.

Yn sgil pryderon hirdymor o ran ansawdd dŵr ym Moryd Byrri, mae Prifysgol Bangor wrthi’n cynnal ymchwil annibynnol ar ansawdd dŵr er mwyn dilysu ffigurau Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae Myfanwy yn galw ar Helen Mary Jones, AC y Blaid yn Llanelli, i ofyn i Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, bwyso am adeiladu gweithfeydd carthffosiaeth newydd i’r gorllewin o Lanelli os bydd y canlyniadau annibynnol hyn yn dangos cynnydd sylweddol mewn llygredd.

Mae Myfanwy hefyd wedi nodi, er y bydd croeso mawr iddynt, na fydd gweithfeydd trin dŵr newydd yn datrys problem draenio dŵr arwyneb gan fod cynifer o ddatblygiadau’n newid patrymau draenio heb gynnig atebion amgen. Mae wedi awgrymu bod angen i gartrefi newydd gydymffurfio â’r safonau cyfreithiol uchaf o ran caniatáu i ddŵr arwyneb ddraenio i lynoedd neu byllau artiffisial, a darparu gwelyau hesg ar gyfer hidlo naturiol. Mae canllawiau llywodraethol newydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau tai newydd ganiatáu ailddefnyddio ‘dŵr llwyd’, fel dŵr a ddefnyddir mewn peiriannau golchi, yn y system garthffosiaeth. Bydd y datblygiadau hyn yn lleihau biliau dŵr i deuluoedd yn sylweddol families ac mae’r potensial iddynt greu swyddi gwyrdd o ran creu pyllau a llynoedd a datblygu a chynnal gwelyau hesg.

Yn siarad o’i swyddfa yn Llanelli yesterday, meddai Myfanwy:

”Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o bobl i’r gorllewin o Lanelli, rwy’n ddrwgdybus iawn am safbwyntiau Asiantaeth yr Amgylchedd ar ansawdd dŵr. Serch hynny, rwy’n fodlon aros am yr adroddiad annibynnol cyn barnu cyflwr presennol ein moryd. Os bydd yr adroddiad annibynnol yn dangos cynnydd mewn llygredd carthion, wrth gwrs bydd angen codi safle trin dŵr newydd ym Mhorth Tywyn. Os mai dyna fydd yn digwydd, bydd Helen Mary yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau y caiff y safle ei adeiladu. Rwy’n croesawu’r newid mewn rheoliadau adeiladu sy’n golygu na fydd modd gollwng dŵr drwy’r system garthffosiaeth gan achosi trychineb amgylcheddol fel yr un a gostiodd y Faner Las.

“Bydd rhai pobl annoeth wastad yn cyfleu mai rhywbeth sy’n costio swyddi yw pryder ynghylch yr amgylchedd. Dyw hynny ddim yn wir. Mae canllawiau llywodraeth y DU eisoes yn annog datblygiadau tai ar hyd Moryd Byrri i ddarparu cyfleusterau draenio ychwanegol. Pe cai rheoliadau adeiladu eu datganoli i’r Cynulliad, byddai modd gwneud llawer mwy i ddiogelu’r foryd a gostwng biliau dŵr i deuluoedd. Mae gennym y potensial yma i ddatblygu swyddi gwyrdd i adeiladu safle trin dŵr, creu pyllau a llynoedd a datblygu gwelyau hesg. Bydd yr holl ddatblygiadau hyn yn cyfoethogi’n hamgylchedd ac yn helpu i sicrhau ei fod yn lân am flynyddoedd i ddod.

Mae modd gweld ymateb Dŵr Cymru i bapur DEFRA yn galw am atal rhyddhau dŵr arwyneb drwy’r system garthffosiaeth yn: http://www.dwrcymru.co.uk/English/library/publications/surface%20water%20management%20strategy/english.pdf

Saturday 7 February 2009

Plaid yn sicrhau £1 miliwn ar gyfer tai fforddiadwy yn Sir Gâr

Mae Dr. Myfanwy Davies, ymgeisydd y Blaid sy’n brwydro ar gyfer sedd Llanelli yn San Steffan, wedi croesawu’r newyddion o hwb o £15 miliwn i dai fforddiadwy ledled Cymru, gyda £907,228 i’w ddyrannu i gymdeithasau tai yn Sir Gâr. Bydd 300 o dai fforddiadwy newydd yn cael eu hadeiladu ledled Cymru gan ddefnyddio’r arian hwn, gyda mwy na 6,000 o dai fforddiadwy eraill yn cael eu creu dros y blynyddoedd nesaf ar ben hyn. Cafodd yr hwb ariannol ei gyhoeddi yr wythnos hon gan Jocelyn Davies, Dirprwy Weinidog y Blaid dros Dai.

Yn siarad o swyddfa’r ymgyrch yn Llanelli, meddai Myfanwy:
“Mae hyn yn hwb sydd i’w groesawu i ddai fforddiadwy ledled Sir Gâr, ac mae mwy ar y gweill gan fod yr arian hwn ar ben y Grant Tai Fforddiadwy. Mae’r Blaid yn Llywodraeth Cymru yn darparu tai fforddiadwy i bobl Cymru, sy’n hanfodol yn yr hinsawdd economaidd presennol. Bydd y cyllid hwn hefyd yn helpu diwydiant adeiladu Cymru”

Meddai Jocelyn Davies, y Dirprwy Weinidog dros Dai:
“Mae cymdeithasau tai wedi cael yr arian newydd hwn i’w galluogi i ddelio â’r sefyllfa economaidd bresennol. Mae wedi’u galluogi i brynu tai a lleiniau sydd heb eu gwerthu oddi wrth gontractwyr preifat. Mae hyn wedi rhoi llif arian i’r diwydiant adeiladu, gan gadw pobl mewn gwaith a chefnogi swyddi.”

Diwedd / Ends
Nodiadau i Olygyddion
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Rhydwyn Ifan ar 07703574822


Manylion buddsoddiad y Gronfa Grant Tai Fforddiadwy:
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dyrannu £42 miliwn ychwanegol i’r Gronfa Grant Tai Fforddiadwy er mwyn hybu’r gwaith o godi tai fforddiadwy. Caiff yr arian eri wario drwy’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru dros dair blynedd.
Caiff £15 miliwn ei wario yn 2008/09. Dyma’r manylion lleol:

Awdurdod lleol Dyraniad o’r Gronfa
Abertawe £1,172,013
Blaenau Gwent £361,013
Bro Morgannwg £606,942
Caerdydd £1,556,142
Caerffili £840,723
Casnewydd £694,421
Castell-nedd Port Talbot £708,427
Ceredigion £387,902
Conwy £596,687
Gwynedd £652,313
Merthyr Tudful £283,765
Pen-y-bont ar Ogwr £656,291
Powys £677,571
Rhondda Cynon Taf £1,161,770
Sir Benfro £636,562
Sir Ddinbych £484,742
Sir y Fflint £720,359
Sir Fynwy £441,410
Sir Gaerfyrddin £907,228
Torfaen £444,175
Wrecsam £649,141
Ynys Môn £360,401

Wednesday 4 February 2009

Ymgeisydd y Blaid yn Llanelli yn galw am gynnydd i’r hawl am ofal plant am ddim

Yr wythnos hon, mae Dr Myfanwy Davies, ymgeisydd y Blaid yn Llanelli ar gyfer San Steffan, wedi galw ar lywodraeth y DU i gynyddu’r hawl i ofal plant am ddim i gynnwys pob plentyn dwy oed. Gwnaeth Myfanwy yr alwad i gefnogi’r alwad gan y Daycare Trust am ofal plant am ddim i blant dwy oed.

Daw sylwadau Myfanwy wrth i’r Daycare Trust gyhoeddi canfyddiadau yr wythfed arolwg gofal plant blynyddol. Canfu’r arolwg mai cost flynyddol lle arferol mewn meithrinfa i blentyn dan ddwy oed yng Nghymru yw £7,592.

Bu Myfanwy, sydd â chefndir mewn iechyd a gofal cymdeithasol, yn pwysleisio gwaith llywodraeth Cymru’n Un i wella mynediad i ofal plant fforddiadwy.

Meddai Dr. Myfanwy Davies:
“Mae angen gofal plant o safon uchel i ddatblygu’n plant a rhoi tawelwch meddwl i rieni. Mae darparu gofal plant yn rhan gynyddol o’r economi, ond mae’r arolwg a gyhoeddwyd gan y Daycare Trust yn dangos bod talu am ofal plant yn faich ariannol anferthol ar lawer o deuluoedd. Mae llywodraeth Cymru’n Un yn cydnabod y broblem hon ac mae wedi buddsoddi i wneud gofal plant yn fwy fforddiadwy.

Mae newidiadau a gynigiwyd yn ddiweddar i fudd-daliadau rhieni sengl yn golygu y bydd llywodraeth y DU yn ei gwneud yn anoddach i rieni gael gofal plant. Mae hyn yn gam yn y cyfeiriad anghywir yn enwedig gan fod angen buddsoddi mewn gofal plant i oresgyn y dirwasgiad. Dyma pryd mae angen i rieni gadw’u swyddi a defnyddio’u hyfforddiant fwy nag erioed. Mae’n hollbwysig bod llywodraeth y DU yn dilyn arweiniad Cymru ac yn gwella’i strategaeth gofal plant i gefnogi darpariaeth fforddiadwy i bawb.

Gall diffyg gofal plant fforddiadwy fod yn rhwystr mawr i bobl ledled Cymru sydd am ddychwelyd i’r gwaith, yn enwedig menywod. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn siarad â mam yn Llanelli sy’n ei chael yn anodd talu am ofal plant, ac sy’n pryderu y bydd yn rhaid iddi roi’r gorau i’w swydd. Mae llywodraeth Cymru’n Un yn y Cynulliad yn gweithio i leihau’r pwysau, ond yn anffodus nid oes modd iddi fynd i’r afael â’r mater yn llawn. Rwyf felly’n cefnogi galwad y Daycare Trust i lywodraeth y DU gynyddu gofal plant am ddim i gynnwys pob plentyn dwy oed.”

Gan ychwanegu at sylwadau Myfanwy, dywedodd Helen Funnell fod cost gofal plant yn cael effaith ddifrifol ar ragolygon gwaith pobl ledled Cymru:
“Fel mam, rwy’n ymwybodol iawn bod magu plant yn ddrud iawn y dyddiau hyn. Gall cost gofal plant ich cyfyngu’n ddifrifol. Rwy’n falch bod llywodraeth Cymru’n Un yn gwneud popeth yn ei gallu i ymestyn gofal plant fforddiadwy yng Nghymru fel y gall rhieni fynd i’r gwaith i helpu i dalu biliau’r tŷ.”

Ymgeisydd y Blaid yn galw am gyfarfod gyda’r Gweinidog ar Ansawdd y Dŵr ym Moryd Byrri

Mewn ymateb i’r newyddion hynod siomedig bod traeth Cefn Sidan wedi colli’i statws Baner Las, mae Dr Myfanwy Davies, ymgeisydd Plaid Cymru yn Llanelli ar gyfer San Steffan, wedi galw i’r Cynulliad weithredu i wella ansawdd dŵr.

Mae Myfanwy wedi cael ffigurau swyddogol ar gyfer yr ansawdd dŵr ym Moryd Byrri a gyhoeddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n dangos cynnydd anferthol mewn llygredd ar ddiwedd mis Medi. Cynyddodd nifer y bacteria carthffosiaeth i bob 100 ml o ddŵr o 200 i fwy na 22,000, cynnydd o 11,000%. Mae’r dyddiadau llygru yn cyd-fynd â rhyddhau carthion o bympiau Porth Tywyn dros gyfnod o 20 awr yn ystod glaw arbennig o drwm yng nghanol mis Medi. Cadarnhawyd hyd y gollyngiad carthion gan Dr Kiel, cynrychiolydd Dŵr Cymru, yng nghyfarfod Cyngor Tref Porth Tywyn ar 18 Tachwedd y llynedd. O ystyried maint y pympiau presennol, byddai cannoedd o dunelli o garthion wedi cael eu rhyddhau bryd hynny. Yn ogystal, ar ddechrau mis Tachwedd, cadarnhaodd Dr Keil fod carthion wedi cael eu pwmpio’n syth i’r moryd am 36 awr, y cyfnod hiraf erioed.

Bu cynghorwyr ym Mhorth Tywyn a Phen-bre yn lleisio pryderon am yr ansawdd dŵr cyn colli’r Faner Las. Mae colli’r statws wedi cynyddu anesmwythdod lleol am driniaeth dŵr ac effaith datblygiadau tai ar raddfa eang ar weithfeydd trin dŵr annigonol sy’n cael eu gorddefnyddio.

Mae Myfanwy yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i sicrhau bod y dŵr yn cael ei wneud yn ddiogel eto ac mae wedi gofyn am gyfres o gyfarfodydd gyda’r Gweinidog i drafod y mater pwysig hwn. Mae Helen Mary Jones wedi trefnu i gwrdd â’r Gweinidog dros yr Amgylchedd ar 11 Chwefror lle bydd yn nodi’r pryderon hyn. Mae Dŵr Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chomisiwn Cefn Gwlad Cymru wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth i gydweithio i wella ansawdd dŵr. Bydd y cyfarfod yn canolbwyntio ar sut gellir defnyddio’r cytundeb hwn i sicrhau bod Dŵr Cymru yn datblygu gweithfeydd trin dŵr digonol ar Foryd Byrri.

Daw galwad Myfanwy wythnos ar ôl iddi drefnu cyfarfod yn Llanelli i drafod cyflwr y foryd gyda Jill Evans, ASE y Blaid.



Yn siarad o’r swyddfa ymgyrchu yn Llanelli, meddai Myfanwy:

“Mae’r sefyllfa lle cafwyd cynnydd o 11,000% yn y bacteria carthion yn y foryd ym msi Medi yn gwbl annerbyniol. Rwy’n falch iawn y bydd Helen Mary Jones yn cwrdd â’r Gweinidog ar 11 Chwefror i drafod sut i ddelio â’r broblem ar fyrder.

Roedd y systemau carthffaosiaeth a fabwysiadodd Dŵr Cymru eisoes yn hen, ond does dim esgus dros beidio â buddsoddi mewn gweithfeydd newydd. Mae’r ffeithiau’n dangos mai’r gweithfeydd carthffosiaeth annigonol ar yr ochr hon i’r foryd oedd yn gyfrifol am y llygru. Ond os bydd y ffeithiau’n dangos bod problemau mewn lleoedd eraill, bydd angen codi gweithfeydd newydd fel rhan o’r un prosiect. Byddai codi gweithfeydd trin dŵr newydd yn brosiect mawr iawn ac mae’n amserol iawn i’r diwydiant adeiladu lleol. Allwn ni ddim gadael i dryhcineb fel y llygru ym mis Medi ddigwydd eto.”

Meddai’r Cyng Malcolm Davies:

“Rwy’n falch bod Myfanwy wedi mynd i’r afael â’r mater hwn ac mae’n defnyddio’r holl dystiolaeth gyhoeddus sydd ar gael i ddangos pa mor beryglus yw’r sefyllfa hon bellach. Rydym wedi clywed geiriau gwag ers gormod o amser am gyflwr y foryd. Nid mater o feio unrhyw asiantaeth benodol yw hyn; mae’n bryd i bob un ohonynt gydweithio i rwystro trychineb amgylcheddol arall fel yr un a gostiodd y Faner Las.”

Meddai’r Cyng Robin Burn:

“Mae pa mor gyflym y mae datblygiadau preswyl newydd yn codi ym Mhorth Tywyn yn destun pryder i mi. Byddaf yn gweithio gyda’m cyd-aelodau ar y Cyngor i sicrhau y caiff datblygiadau amhriodol eu hatal wrth i ansawdd dŵr gael ei wella. Dydw i ddim o blaid gwaharddiad llwyr ar godi tai, gan fod angen codi tai fforddiadwy o bobl leol, ond allwn ni ddim parhau i godi tai yn fyrbwyll heb ystyried y gost amgylcheddol.”


Mae’r ffigurau llygru ar gael yn y cyfeiriad canlynol:
http://maps.environment-agency.gov.uk/wiyby/queryController?topic=coastalwaters&ep=2ndtierquery&lang=_e&layerGroups=1&x=240000.0&y=199800.0&extraClause=SAMPLING_POINT~'37700'&extraClause=SAMPLE_YEAR~2008&textonly=off&latestValue=&latestField=

Datganiad ar yr economi

Diolch i Lafur Newydd yn rhoi pen rhyddid i’r bancwyr, mae’r dirwasgiad yn debygol o bara am flwyddyn o leiaf. Mae nifer y tai sy’n cael eu hadfeddiannu wedi dyblu ers yr haf. Mae cannoedd o swyddi dan fygythiad yn Llanelli. Mae Helen Mary Jones AC Plaid Cymru Llanelli yn gweithio’n galed i gadw swyddi gweithgynhyrchu yn Llanelli, ac mae Ieuan Wyn Jones yn sicrhau bod Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud popeth yn ei gallu. Ond mae’r dyfodol yn ansicr i lawer ohonom.

Mae Myfanwy yn galw am fwy o gamau i helpu Llanelli drwy’r cyfnod anodd hwn.
Canol Trefi Llanelli a Phort Tywyn: Mae modd gadael siopau’n wag pan fydd tenantiaid yn wynebu problemau cyfreithiol o ran gadael eu prydles. Rhaid i’r Cyngor Sir weithredu i gael cleientiaid newydd mewn siopau gwag yn Llanelli a Phort Tywyn.

Bydd Myfanwy yn cefnogi cais realistig i gael arian i Upper Park Street a bydd yn ymgyrchu am newidiadau i’r Cynllun Datblygu Lleol i adlewyrchu anghenion pobl ym Mhorth Tywyn.

Busnesau: Mae Ieuan Wyn Jones wedi cyflwyno’r cynllun ‘ReAct’ i roi arian i fusnesau sy’n cyflogi pobl sydd newydd golli’u swydd.

Mae modd helpu cwmnïau gydag archebion ar eu llyfrau ar gyfer y dyfodol, ond sydd heb waith nawr, i gadw gweithwyr drwy’r cynllun ‘ProAct’. Mae Myfanwy wedi galw ar Mr Jones i sicrhau bod holl gwmnïau Llanelli yn gwybod sut i wneud cais.
Ynghyd ag Adam Price AS a Jill Evans ASE, mae Myfanwy yn ymgyrchu i newid cyfraith gystadleuaeth yr UE fel bod Llywodraeth y Cynulliad yn gallu rhoi benthyciadau i fusnesau Cymru islaw cyfradd y farchnad.

Tai Fforddiadwy: Mae Myfanwy yn galw ar y Cyngor i sicrhau bod pobl yn Llanelli yn gallu cael help drwy gynllun achub morgeisi Jocelyn Davies, Gweinidog y Blaid, a gwneud y defnydd gorau o bron £1 miliwn y mae Jocelyn Davies wedi’i ddarparu ar gyfer mwy o dai fforddiadwy yn Sir Gâr.

Help i Deuluoedd: Gyda Helen Mary, mae Myfanwy wedi galw ar Lywodraeth y DU i ariannu gofal plant fforddiadwy i bob rhiant.
Mae Myfanwy wedi ymuno ag ASau’r Blaid i alw am derfyn ar brisiau ynni a chyfraddau rhatach i’r rheini sy’n ei chael yn anodd talu, yn enwedig teuluoedd ifanc a phensiynwyr.

Yn siarad o’i swyddfa ymgyrchu yn Llanelli, meddai: “Mae’r Blaid yn y Cynulliad yn cymryd camau ymarferol i helpu pobl gyffredin a busnesau. Mae’n bryd i’r Blaid Lafur yn Llundain fuddsoddi lle mae’r angen yn hytrach na thaflu arian at y banciau. Mae angen gweithredu nawr i ddiogelu swyddi go iawn a pharatoi ar gyfer y dyfodol. Ac mae angen cyfreithiau newydd i sicrhau nad oes modd i fancwyr barus wneud y fath beth i’n cymunedau eto.”