Showing posts with label cartrefi preswyl. Show all posts
Showing posts with label cartrefi preswyl. Show all posts

Monday, 11 January 2010

Mae’r frwydr i warchod Cartrefi Gofal yn cynyddu

Mae perthnasau preswylwyr y cartrefi am gynyddu'r ymgyrch i frwydro yn erbyn cau’r cartrefi gofal yn ardal Llanelli. Os bydd cynlluniau’r Cyngor Sir i gau Caemaen a St Pauls yn dod i rym bydd dros hanner cant o breswylwyr bregus yn wynebu cael eu troi allan o’u cartrefi,a bydd hyd yn oed mwy o swyddi yn cael eu colli yn yr ardal.

Yn ôl ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Cyngor Sir Caerfyrddin, gynlluniau drafft i gau pedwar cartref gofal yn Sir Gaerfyrddin, hyn oll yn rhan o’u cynllun i ariannu gwasanaethau gofal yn y cartref yn yr ardal.

Yn y cyfarfod cyhoeddus diweddaraf dydd Gwener, fe wnaeth ymgyrchwyr anfoddog unwaith eto fynegi eu gofid, ac fe gytunwyd ar drefnu eiriolwyr i’r preswylwyr. Gwnaeth grwpiau Caemaen a St Paul gytuno i ymuno mewn un grŵp gweithredu i sicrhau gwell canolbwyntio.

Mae Myfanwy a Helen Mary wedi cefnogi ymgyrchwyr drwy ddrafftio llythyron a fydd yn cael eu hanfon at wahanol Gynghorwyr oddi wrth aelodau’r grŵp yn y dyddiau nesaf. Bydd Helen Mary hefyd yn cyfarfod â’r Gweinidog Iechyd Edwina Hart a’r dirprwy weinidog dros wasanaethau cymdeithasol, Gwenda Thomas, yr wythnos hon i drafod y mater.

Mae nifer o deuluoedd y preswylwyr yn poeni’n ddirfawr am effeithiau difrifol ar iechyd y preswylwyr os bydd rhaid iddynt symud. Amcangyfrifir ymhlith y rhai a symudir o’u cartref, bod drawma trosglwyddo sef y gost emosiynol o symud o’r cartref yn erbyn eich ewyllus, yn arwain at farwolaeth 30% o breswylwyr.

Dywedodd Deryk Cundy, sydd a’i dad yn un o breswylwyr Caemaen:

"Rydym yn benderfynol o ymladd yn erbyn y cynlluniau gwarthus yma i gau Caemaen a St Paul. Dyma esiampl arall o’n henoed bregus yn dioddef o achos cynlluniau’r Cyngor i arbed arian. Sut fyddech chi’n teimlo petaech yn colli eich cartref am dalu eich rhent?

Yn barod mae’r Cyngor yn newid defnydd Llys y Bryn, drwy newid llefydd gofal preswyl gyda 12 gwely adferiad, a symud 7 gwely seibiant a oedd yno, i gartref St Pauls. Mae hyn mewn gwirionedd yn lleihau llefydd gofal preswyl o 19 lle - dwyn drwy dwyll.

Mae’r Cyngor yn ceisio cael gwared â’r hyn fyddwn ni ei angen yn y dyfodol.

Hyd yn oed yn ôl ffigurau’r Cyngor fe fyddwn, o fewn 6 mlynedd, a 10% o’r henoed angen llefydd gofal. Yn Llanelli mae hyn yn gyfystyr a 103 o lefydd- os bydd y cartrefi gofal yn cau yn Llanelli fe fyddwn yn fyr o 162 o lefydd yn 2016 gyda chanlyniadau trychinebus i’r gymuned gyfan.

Credaf fod gan bawb yr hawl i lefelau uchel o ofal a diogelwch, yn awr ac yn y dyfodol, i mi, i chwi, eich teuluoedd a’ch ffrindiau. Mae’r bobl rydym yn ceisio’u gwarchod yn fregus, yn ddibynnol ar eraill ac sy’n methu a gofalu am ei hunain .

Mae gennym rhai Cartrefi Awdurdod Lleol gwych - gyda staff gofalgar sy’n rhoi gofal arbennig, sy’n brin iawn yn ein byd ni heddiw. Dyma ofal rydym yn gallu dibynnu arno i ddarparu amgylchedd diogel - yr hyn a ddisgwylir gan ein henoed ac sy’n hawl iddynt.

Pam dylai hyn gael ei ddwyn oddi arnom ?”


Dywedodd Helen Mary Jones, AC lleol Llanelli:

“Mae angen i’r Cyngor edrych ar ffyrdd llawer mwy creadigol o arbed arian yn hytrach na lleihau gwasanaethau sy’n angenrheidiol i’n henoed. Mae angen i Lanelli fod yn le nad yw pobl yn ofni mynd yn hen, gan wybod y bydd gofal iddynt yn y dyfodol. Byddaf yn cyfarfod â’r gweinidog Iechyd yn ogystal â’r dirprwy weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yr wythnos hon i drafod pa fath o gefnogaeth gall Llywodraeth y Cynulliad ei gynnig.”


Ychwanegodd Myfanwy Davies, Ymgeisydd Seneddol y Blaid yn Llanelli :

“Mae symud yr henoed o’u cartrefi yn peri gofid ac o bosib bydd rhai o’r henoed yma ddim yn goroesi’r symudiad. Ni ddylai ein henoed gael eu haberthu er mwyn syniadau hanner pan y Cyngor ynglŷn â phreifateiddio, a dyw’r Cyngor ddim hyd yn oed yn gwybod cost y rhaglenni newydd yma."

Wednesday, 2 December 2009

Helen Mary a Myfanwy wrth eu bodd fod cynlluniau i gau cartrefi preswyl wedi’u rhoi o’r neilltu

Mae Helen Mary Jones, AC Llanelli a Myfanwy Davies ymgeisydd seneddol y Blaid dros Lanelli, yn hynod o falch fod cynlluniau’r Cyngor i gau Cartrefi Gofal Caemaen a St Paul wedi eu rhoi o’r neilltu . Yr wythnos diwethaf fe wnaeth y ddwy, Helen Mary a Myfanwy addo’u cefnogaeth i’r grŵp gweithredu a fu mor weithgar yn ymladd yn erbyn y cynlluniau yma i gau’r cartrefi.

Roedd y Cyngor Sir am gau’r cartrefi yma er mwyn ariannu gwasanaethau newydd ‘gofal yn y cartref’ ond doedd dim darpariaeth am unrhyw ofal i’r preswylwyr tra bod y cynlluniau newydd yn cael eu trefnu a hefyd doedd dim manylion o’r costau na’r arbedion ar gael . Doedd dim manylion yn y cynlluniau ynglŷn â ble y byddai preswylwyr ,a oedd yn rhy wan i dderbyn gofal yn y cartref ,yn mynd; ac roedd sylwadau rhai swyddogion am leoedd gweigion mewn cartrefi preifat yn codi ofnau ymhlith y preswylwyr y byddent ,yn y pen draw, yn cael eu hanfon allan o ofal y Cyngor.

Ddoe teithiodd Myfanwy i Gaerfyrddin mewn fflyd o ddau fws o brotestwyr o gartref Caemaen i helpu i lobio cynghorwyr wrth iddynt gyrraedd am gyfarfod o Bwyllgor Archwiliad y Cyngor Sir . Yn ystod y cyfarfod fe wnaeth aelodau o’r grŵp Plaid Cymru dynnu sylw ,dro ar ôl tro ,at y gwendidau yn yr adroddiad a rhybuddio hefyd am ymgais y Cyngor i geisio preifateiddio gofal drwy dwyll. Roedd y protestwyr wrth ei bodd gan i’r grŵp Plaid fynnu pleidlais i wrthod y cynlluniau fel cyfanwaith. Bydd grŵp gorchwyl a gorffen yn ystyried y cynlluniau newydd mewn manylder.

Dywedodd Helen Mary Jones o’r Blaid:
“Rydw i wrth fy modd bod Pwyllgor Archwiliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cyngor wedi gwrthod y cynnig i gau cartrefi St Paul a Caemaen. Beth bynnag, rydw i’n pryderi y bydd trafodaethau'r grŵp gorchwyl a gorffen yn cyrraedd yr un penderfyniad ond tu cefn i ddrysau caeedig.

Fe fu ymgyrch wych yn y gymuned i gefnogi’r gofal a ddarperir yn Nghaemaen a St Paul , ac mae Myfanwy a finnau wedi bod yn hollol gefnogol o’r gwaith caled a fu . Byddaf yn parhau i gefnogi’r rheiny sy’n ymgyrchu i gadw’r ddarpariaeth yma i’r bobl sydd ei eisiau a’i angen.”

Ychwanegodd Myfanwy :
“Doedd cynlluniau’r cyngor heb eu gwir hystyried ac roedd yn hollol iawn i aelodau Plaid o’r Pwyllgor Archwiliad i wrthod y cynlluniau yn unol â hyn . Mae yn hollol anghywir i wneud arbedion ar draul ein pobl fwyaf bregus ond mae’n debyg nad oedd y Cyngor, hyd yn oed, wedi cyfrif y gost a heb ystyried chwaeth sut y byddai preswylwyr yn derbyn gofal tra bod y llety newydd yn cael ei adeiladu .
Mae symud yr henoed o’u cartrefi yn peri gofid ac o bosib bydd rhai ddim yn goroesi’r symudiad . Rydw i wrth fy modd ein bod wedi ennill y frwydr gyntaf yn y rhyfel yma. Ni aberthir ein henoed er mwyn syniadau hanner- pan y Cyngor am breifateiddio”

Wednesday, 25 November 2009

Helen Mary a Myfanwy yn ymosod yn llym ar yr ymgynghoriad ffug ar gynllun y Cyngor ar gyfer henoed Llanelli.

Yn dilyn cyfarfod gorlawn yng Nghartref Preswyl Caemaen neithiwr, condemniodd Helen Mary Jones AC a Myfanwy Davies ymgeisydd etholiad San Steffan y Blaid y ffordd cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal gan swyddogion ac yn galw ar Pat Jones, aelod y Bwrdd Gweithredol dros ofal cymdeithasol, i gymryd y cyfrifoldeb am ei phenderfyniad a’r modd cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal.

Yn “Llanelli Star” yr wythnos diwethaf cafwyd adroddiad yn sôn am gynlluniau’r cyngor i gau cartrefi preswyl Caemaen a St Paul’s yn Llanelli. O ganlyniad i’r newyddion ceisiodd a chafodd Myfanwy a Helen sicrwydd mewn llythyr o eiddo Bruce McLearnon, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor Sir, bod pob opsiwn yn dal yn agored a bod penderfyniad i gau’r cartrefi heb ei wneud eto.

Er hynny, neithiwr cadarnhaodd Bruce McLearnon, gyda chefnogaeth Sheila Porter sy’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Integredig, mai cau Caemaen oedd y cynllun roedd ef yn ei ffafrio gan ddarparu gwasanaethau cefnogol i unigolion yn eu cartrefi, gwasanaeth a adwaenir fel “gofal ychwanegol”. Siaradodd Ms Porter - a gyflogwyd gan y Cyngor yn ddiweddar sydd wedi datblygu rhaglenni “gofal ychwanegol” yn Bromley - yn frwd, os nad yn ymosodol, dros ei safbwynt llawer gwaith gan daweli’r preswylwyr a’r teuluoedd oedd yn bresennol er mwyn hyrwyddo’r dull dadleuol hwn o ofal sydd wedi profi’n fethiant yn Lloegr.

Drwy’r cyfarfod pwysleisiodd y Cyfarwyddwr taw’r angen i gwtogi costau oedd prif gymhelliad y cynllun. Mynegodd y preswylwyr a’r teuluoedd yn y cyfarfod gorlawn eu gwrthwynebiad cryf i’r cynllun cau gyda’r preswylwyr yn dangos eu dymuniad i aros yn Caemaen drwy bleidleisio’n unfrydol i wneud hynny.

Dywedodd Helen Mary Jones o Blaid Cymru: “Cafodd Myfanwy a minnau sicrwydd bod yr holl opsiynau yn dal yn bosib. O ran Cyngor Sir Caerfyrddin mae’n eglur nad ydynt ac mae hefyd yn glir taw resymau ariannol sydd du cefn i’r penderfyniadau hyn. Mae’n wir fod llai o arian ar gael a dylai rhai o’r aelodau seneddol a bleidleisiodd i achub y banciau archwilio’u cydwybod, er bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn dal i fedru canfod arian ar gyfer prosiectau rhodresgar a chyhoeddusrwydd iddo’i hun. Nid yw’n dderbyniol bod swyddogion yn camarwain teuluoedd a phreswylwyr drwy awgrymu bod Caemaen yn mynd yn groes i safonau gofal am nad oes cyfleusterau “en-suite” yno. Nid yw hynny’n wir. Yn ystod y cyfarfod roedd swyddogion yn rhyw led awgrymu mai bwriad eu cynlluniau oedd ceisio gwarchod urddas yr henoed rhywfodd. Sut bynnag, dangosodd y preswylwyr oedd yn bresennol eu barn unfrydol drwy godi dwylo’n gytûn. Pa faint o urddas y mae gwrthod eu dymuniadau yn gosod arnom ni?”

Ychwanegodd Myfanwy:
“Ar ôl cael sicrwydd gan Mr McLearnon aeth Helen Mary a minnau i’r cyfarfod â meddyliau agored. Erbyn hyn mae’n glir bod swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin eisoes wedi gwneud eu meddyliau i fyny. Yn wir, pan ofynnodd preswylwyr a theuluoedd p’un ai oedd eu gwrthwynebiad hwy wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i farn y Cyfarwyddwr, na oedd ei ateb. Mae hyn yn brawf trawiadol bod angen i Gynghorydd Llafur Porth Tywyn, Pat Jones, sy’n arwain yn y maes Gofal Cymdeithasol sefyll i fyny a chymryd cyfrifoldeb am ei phenderfyniad ac am ymddygiad ei swyddogion.”
“Yn gyffredinol rwy’n cefnogi cynlluniau i gadw pobl yn eu cartrefi ac yn annibynnol pan fydd cefnogaeth briodol iddynt, ond mater o dristwch yw mai prin yw’r enghreifftiau o’r fath gynlluniau yn gweithio. Clywsom neithiwr fel nad oedd preswylwyr yn Caemaen wedi medru aros yn eu cartrefi gyda chefnogaeth y gofal cartref cyfredol gyda rhai wedi dioddef esgeulustod difrifol o ganlyniad i’r gwasanaeth gofal cartref. Yn sicr, nid yw’n dderbyniol i symud yr henoed yn erbyn eu hewyllys.”

Mae Myfanwy a Helen wedi addo cefnogi’r grŵp gweithredol fydd yn brwydro yn erbyn y cynlluniau i gau’r cartrefi.


DIWEDD