Sunday 27 September 2009

Helen Mary a Myfanwy yn mwynhau’r Bore Coffi Mwyaf yn y Byd gyda Macmillan

Dydd Gwener diwethaf (25/09) fe wnaeth Helen Mary Jones ein AC lleol a Myfanwy Davies ddangos eu cefnogaeth i Gancr Macmillan drwy ymweld â’u bore coffi yn Ysgol Lakefield Llanelli. Gwnaeth y ddwy ymuno gyda disgyblion, rhieni ac athrawon fel rhan o’r Bore Coffi Mwyaf yn y Byd gan Macmillan.

Y Bore Coffi Mwya’n y Byd yw un o’r ffyrdd mwyaf adnabyddus gan Gancr Macmillan i godi arian yn flynyddol. Er ei fod yn weithred syml mae ganddo’r cymhelliad mwyaf apelgar sef rhannu paned o goffi a chodi arian yr un adeg tuag at ymchwil cancr. Mae’r cyllid yma yn cynnig cefnogaeth ymarferol, feddygol, emosiynol ac ariannol tuag at well gofal cancr.

Y llynedd cafwyd miloedd o foreau coffi ar draws Cymru, yn codi bron i £290,000. Roedd yr arian yma’n help i Macmillan i barhau i gefnogi gwasanaethau a phobl broffesiynol i weithio gyda phobl a affeithiwyd gan gancr ar draws Gymru gyfan.

Dywedodd Helen Mary Jones, o’r Blaid:

"Mae 2 filiwn o bobl yn y DU heddiw wedi’u heffeithio gan gancr. Gwn fod nifer o’m hetholwyr a phrofiad personol o’r problemau sy’n effeithio’r claf a’r teulu ar ôl diagnosis o gancr. Mae Cefnogaeth Cancr Macmillan yno i bobl , yn cynnig help a chefnogaeth, o’r funud iddynt dderbyn diagnosis . Mae cynnal bore coffi yn ffordd hawdd i sicrhau fod yr arian gan Macmillan i barhau gyda’u gwaith hanfodol a’r gobaith sy gen i yw fod llawer iawn o goffi wedi’u hyfed yn Llanelli heddiw !”

Ychwanegodd Myfanwy Davies ymgeisydd seneddol y Blaid yn Llanelli:

"Gwn o brofiad fy nheulu fy hun mor ddychrynllyd yw diagnosis o gancr a chymaint o wahaniaeth mae Nyrs Macmillan yn gallu gwneud i’r sefyllfa. Roeddwn wrth fy modd yn medru ymuno yn yr hwyl heddiw yn Ysgol Lakefield. Mae’n rhyfeddod fod mwynhau paned o goffi a sgwrsio gyda ffrindiau yn medru gwella cymaint i’r rheiny sy wedi’u heffeithio gan gancr.”
Dywedodd Rhian Kenny, athrawes a threfnydd Bore Coffi Mwya’r Byd yn Ysgol Lakefield:

“Rydym wrth ein bodd yn cefnogi achos mor werthfawr sy’n helpu cymaint o bobl yn Llanelli. Yn ychwanegol mae’n wych o beth ein bod yn gallu defnyddio cynnyrch masnach deg yn ein bore coffi ac ymuno’r gwaith da mae Macmillan a Masnach Deg yn gwneud. Rydym yn credu fod addysg tu allan i’r stafell ddosbarth, ond o fewn yr ysgol, yn fodd arbennig i godi ymwybyddiaeth plant o’r achosion gwych yma ac o’r gwaith arbennig a wneir o fewn y gymdeithas leol.”

Dywedodd Sue Reece sy’n rheolwr codi arian yn Ne Orllewin Cymru :

“Mae’r help rydym yn gynnig i bobl a chancr yn hollol hanfodol. Rydym am gefnogi pawb sydd angen help a dyna paham mae’n rhaid i ni ,eleni eto ,sicrhau ein bod yn codi hyd yn oed mwy o arian, drwy Fore Coffi Mwya’r Byd , nag erioed o’r blaen. Mae’n achlysur llawn hwyl ac yn hawdd iawn i fod yn rhan ohono, yn enwedig gan ei bod yn bosib trefnu’r achlysur i’ch anghenion eich hun. Mewn gwirionedd mae’n hawdd helpu Macmillan!”

Wednesday 16 September 2009

Myfanwy yn ennill cefnogaeth genedlaethol i fusnesau canol y dre

Mae Dr Myfanwy Davies, Ymgeisydd Seneddol y Blaid,Llanelli wedi ennill cefnogaeth genedlaethol i gynllun i helpu busnesau yng nghanol dref Llanelli. Mewn cynnig yng Nghynhadledd Genedlaethol y Blaid y penwythnos diwethaf, a dderbyniwyd gan neuadd orlawn, galwodd am adolygiad o’r cynllun graddfa cymhorthdal i helpu busnesau bach a effeithiwyd gan ddatblygiadau tu allan i’r dref. Hefyd galwodd ar Lywodraeth y Cynulliad i ddatblygu menter cyllid cymunedol i gynnig credyd i fusnesau lleol ac am strategaeth genedlaethol i lanw siopau gwag, hyrwyddo cynnyrch lleol a darparu tai addas mewn canolfannau trefol.

Yn ei haraith yn y gynhadledd dywedodd Myfanwy:

“Mae methiant Cyngor Sir Caerfyrddin I atal datblygiad enfawr tu allan i’r dref ynghyd a cholled o gannoedd o swyddi cynhyrchu yn gwaedu canol ein tref yn sych ”.

Wrth siarad yn Llanelli ddydd Mercher ychwanegodd Myfanwy:

“Mae trethi busnes erbyn hyn yn faich ar ein marchnatwyr yng nghanol y dref . Rydw i’n hynod o falch ein bod wedi ennill cefnogaeth genedlaethol i edrych ar flaenoriaethu eu hanghenion. Hefyd fe enillon gefnogaeth i alw am strategaeth i lanw siopau gwag yng nghanol y dref ac fe fydd Aelodau Cynulliad y Blaid yn awr yn medru brwydro am gynlluniau cyllid cymunedol i ariannu busnesau newydd dichonadwy ac i gefnogi marchnatwyr sydd yno’n barod sydd angen credyd er mwyn iddynt dyfu . Rydw i’n ymwybodol o nifer o fusnesau sefydledig sy’n cael trafferth i dyfu gan i’r union fanciau sydd wedi’u hachub gan arian cyhoeddus,wrthod credyd iddynt” .

Ychwanegodd Helen Mary Jones AC Llanelli Plaid :

“Mae’r penderfyniad yma yn rhoi llwyfan clir i ni frwydro am fwy o gefnogaeth gan y Cynulliad i fusnesau bychain yn Llanelli ac i edrych ar sut yn union y gallwn helpu busnesau da lleol i symud ymlaen a thyfu ”.

Tuesday 8 September 2009

Myfanwy a Helen Mary yn ymladd gwarth y Sir ynglŷn â ffermydd cŵn bach

Mae ffermydd cŵn bach yn Sir Gaerfyrddin yn cadw cwn mewn cyflwr brwnt a chreulon meddai Dr Myfanwy Davies, ymgeisydd Sansteffan dros y Blaid. Yn dilyn ffilm ddiweddar ar Sianel 5 yn dangos amgylchiadau annerbyniol ar ffermydd cwn a dderbyniodd ymweliad ac yna drwydded gan Gyngor Sir Gaerfyrddin mae Myfanwy wedi ymuno gyda Helen Mary Jones AC Plaid Llanelli, i dynhau ar reolaeth y Sir o ffermydd cŵn bach .

Mae Myfanwy wedi ysgrifennu at Helen Mary yn gofyn iddi godi’r mater gydag Elin Jones , Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth y Cynulliad. Eglurodd Myfanwy yn ei llythyr :

“Rydw i’n poeni nad yw arferion archwilio'r Cyngor Sir yn ddigonol ac mae angen archwiliad ,yn enwedig wrth gofio hanes Sir Gaerfyrddin fel canolfan drwyddedig ( a hefyd rhai heb drwydded) i ffermydd cŵn bach. Mewn ymateb i’r rhaglen mae’r Cyngor wedi awgrymu y byddent yn fodlon adolygu‘r amgylchiadau trwyddedu pe bai Gwenidogion Llywodraeth y Cynulliad yn codi’r mater gda hwynt”.

Yn siarad yr wythnos yma , ychwanegodd Myfanwy

“ Rydw i’n falch iawn i glywed fod archfarchnad anifeiliaid anwes a fu’n prynu cŵn bach o’r ffermydd hyn wedi cytuno stopio eu defnyddio fel ffynhonnell mwyach. Rydw I’n siomedig yn ymateb y cyngor. Mae yn arswydus fod arolygwyr y Sir wedi ymweld â’r ffermydd hyn ac wedi caniatáu’r ffermydd a welwyd yn y ffilm. Rydw i’n gobeithio y bydd yr ymateb y bydd Helen Mary yn derbyn gan Elin Jones yn help i egluro’r safonau er lles anifeiliaid y dylai’r cyngor bod yn eu gweithredu esioes”.

Ychwanegodd Helen Mary Jones :

“Ers i mi drafod gyda Myfanwy rwy’ wedi gweld recordiad o’r eitem ar newyddion Sianel 5. Mae’r eitem yn codi nifer o faterion pryderus ynglŷn â safonau lles anifeiliaid yn y Sir . Rydw i’n falch fod Myfanwy wedi codi hyn gyda mi ac fe fyddai’n trafod y mater gydag Elin Jones o fewn yr wythnosau nesaf i sicrhau fod y safonau a ddilynir yn glir ac os oes angen newid, i sicrhau gofal i gwn a chŵn bach, yn wahanol i’r lefelau o esgeulustod a welwyd ar y ffilm .”