Friday 22 January 2010

Byddai pensiynwyr yn Llanelli are eu hennill dan gynlluniau’r Blaid am “Bensiwn at Fyw”

Byddai dros 17,000 o bensiynwyr yn Llanelli are eu hennill o dan addewid etholiadol Plaid Cymru i gynyddu pensiwn y wladwriaeth 30% medd yr AC lleol, Helen Mary Jones, ac ymgeisydd seneddol y Blaid, Myfanwy Davies.

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi amlinellu cynnig ei blaid yn yr etholiad cyffredinol sydd i ddod mewn araith allweddol yn Nhwm Cynon (18/01). Mae eu haddewid yn dod wrth i ffigurau ddangos bod £5.4 biliwn o fudd-daliadau i bobl hŷn heb eu hawlio yn y DU pob blwyddyn am fod pensiynwyr yn teimlo bod y broses o hawlio yn gymhleth ac yn ymwthiol.

Mae Plaid yn ymgyrchu dros Bensiwn at Fyw. Golygai bod pob pensiynwr yn cael pensiwn mwy – a fyddai y flwyddyn nesaf yn dod i £202 yr wythnos i bâr. Byddai’r addewid yn cael ei wireddu’n raddol, gan ddechrau gyda’r hynaf a’r mwyaf bregus dros 80 oed.

Dywedodd Helen Mary Jones, AC Llanelli:

"Gyda chynnydd brawychus o 74% mewn marwolaethau o achos y tywydd oer yng Nghymru y llynedd, mae’n rhaid i dlodi ymhlith pensiynwyr a gwarchod gwasanaethau cyhoeddus allweddol gymryd blaenoraieth dros daliadau ychwanegol i fancwyr, arfau niwclar a chardiau adnabod.

Mae’r Torϊaid eisiau cyflwyno trethu annheg. Mae Llafur Newydd eisiau cadw diwylliant porthi’r banciau ac aeth hygrededd y Lib Dems ar goll pan wnaeth Clegg gydnabod eu bod wedi bod yn gwneud addewidion na allent eu fforddio drwy’r amser.

"Mae ein polisi ni yn fforddiadwy gan y byddai’n cael ei gyflwyno yn raddol, gyda’r pensiynwyr hynaf a mwyaf bregus ar eu hennill gyntaf. Rym ni ym Mhlaid Cymru yn deall nad yw pensiynwyr sydd yn byw mewn tlodi yn gwneud cais am gredit pensiwn a ry’ ni’n gwybod bod nifer o bensiynwyr mewn tlodi yn wynebu costau gofal anferth.”

Ychwanegodd Myfanwy Davies:

"Byddai ein cynllun Pensiwn at Fyw yn sicrhau incwm teilwng i bensiynwyr yn dechrau gyda’r hynaf. Dyma’r peth iawn i’w wneud ond mae hefyd yn gam ymarferol i helpu’r bobl mwyaf bregus yn ein cymunedau ac i sianeli gwariant y mae mawr ei angen ar ein busnesau bychain lle mae pobl hŷn yn tueddu siopa.

Mae Llafur a’r Torϊaid am y gorau yn ceisio torri gwariant cyhoeddus holl bwysig tra ein bod yn dal i ddioddef canlyniadau’r dirwasgiad. Dyma economeg y gwallgofdy. Gwariant cyhoeddus yw’r unig beth sydd yn cadw’r economy i fynd fel ag y mae. Y mae’n rhaid i ni gefnogi y mwyaf bregus yn ein cymunedau trwy’r cyfnod caled”.

No comments:

Post a Comment