Wednesday 25 March 2009

Myfanwy yn gweithio gyda Breakthro’ Llanelli i gael addewid ariannol gan y Cyngor Sir

Wedi i aelodau grŵp Breakthro’ Llanelli fynegi pryderon, bu Dr Myfanwy Davies, ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd Llanelli yn San Steffan, a noddwr Breakthro’, yn cefnogi aelodau’r pwyllgor wrth iddynt gwrdd â Robin Moulster, Uwch Brif Swyddog Anableddau Dysgu ddydd Gwener. Mae’r grŵp, sy’n cefnogi gweithgareddau cymdeithasol i blant ac oedolion ag anableddau dysgu, hefyd yn eu helpu i integreiddio mewn cymdeithas. Y llynedd, gofynnodd Cyngor Sair Caerfyrddin i’r grŵp wahanu’i weithgareddau i blant ac oedolion, gan ddyblu costau staffio heb unrhyw incwm ychwanegol. Cododd Myfanwy y mater o arian i’r grŵp a gofynnodd am gyfarfod gydag uwch swyddog yn y Cyngor Sir. Yn y cyfarfod, a gynhaliwyd o’r diwedd ddydd Gwener diwethaf, bu Myfanwy ac aelodau’r pwyllgor yn disgrifio’r ystod o weithgareddau y mae Breakthro yn eu cynnal a’u gwerth i’r plant a’r oedolion. Hefyd esboniwyd y bydd cwymp o £5,000 mewn cyllid yn golygu na fyddai modd i’r grŵp barhau ar ôl eleni. Roedd Myfanwy ac aelodau’r pwyllgor wrth eu bodd wedi i Mr.Moulster addo £1,500 o gyllid ar unwaith, gan addo ceisio dod o hyd i weddill yr arian.

Yn siarad o’i swyddfa ymgyrchu yn Llanelli, meddai Myfanwy:

“Rwyf wrth fy modd bod y Cyngor wedi penderfynu cefnogi gwaith pwysig Breakthro’ yn Llanelli. Efallai nad yw gweithgareddau cymdeithasol yn ymddangos yn flaenoriaeth, ond maent yn gyfle i lawer o’r bobl ifanc hyn gael bywyd cymdeithasol. Hefyd mae gan y bobl ifanc dasgau yn Breakthro’ fel trefnu amserlenni, casglu arian a dysgu sgiliau fel Djo ac eistedd ar bwyllgorau. Mae’r sgiliau y mae’r bobl ifanc yn eu dysgu yn eu helpu i integreddio, ac mae unrhyw un sydd wedi’u gweld yn codi arian yng nghanol y dref yn gallu gweld eu bod yn hapus ac yn hyderus yng nghwmni’i gilydd.”

“Mae gwaith i’w wneud o hyd i gael gweddill yr arian. Byddwn yn parhau i godi arian ar gyfer y gweithgareddau, ond byddwn yn gweithio gyda’r Cyngor Sir ac eraill i sicrhau bod digon o arian i dalu cyflog rhan amser i’n trefnydd sy’n gweithio am ddim ar hyn o bryd.”

Sunday 15 March 2009

Myfanwy’n galw ar Lywodraeth San Steffan i gael gwared ar y cynllun cardiau adnabod i achub ysgolion ac ysbytai

Wrth ymateb i’r newyddion y gallai Cymru wynebu toriadau o £500 miliwn mewn gwariant cyhoeddus flwyddyn nesaf, mae Dr Myfanwy Davies, ymgeisydd y Blaid yn Llanelli ar gyfer San Steffan, wedi cefnogi’r athrawes leol Aerona Edwards i alw ar Lywodraeth San Steffan i roi’r gorau i’r cynllun dadleuol i gyflwyno cardiau adnabod. Mae Myfanwy a Mrs Edwards yn galw ar lywodraeth Gordon Brown i ailddosbarthu’r arian i amddiffyn gwasanaethau sylfaenol fel addysg ac iechyd.

Yn siarad o’i swyddfa ymgyrchu yn Llanelli, meddai Myfanwy:

“Mae’r cynllun cardiau adnabod yn fwy na dim ond rhoi cerdyn adnabod diogel. Bydd yn fwy pellgyrhaeddol nag unrhyw beth sy’n bodoli mewn gwledydd eraill a bydd yn rhoi pwerau digynsail i’r Ysgrifennydd Gwladol dros weithredoedd unigolyn. Mae’n amlwg mai cael gwared ar y cynllun yw’r peth iawn i’w wneud.

“Mae ymateb dryslyd y Llywodraeth i’r argyfwng ariannol yn golygu hefyd y bydd toriadau anferthol i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru flwyddyn nesaf. O ystyried bod ffigurau’r Llywodraeth yn dangos y byddai’r cynllun cardiau adnabod yn costio £5.5 biliwn, byddai cael gwared arno’n rhoi’r arian y mae mawr ei angen i amddiffyn ein swyddi a’n gwasanaethau cyhoeddus, fel ysgolion ac ysbytai.”

“O ran cyflwyno pwerau uniongyrchol ac anatebol dros ei dinasyddion, mae’r llywodraeth hon wedi dangos ei bod yn fwy dinistriol nag y bu llywodraeth Thatcher erioed. Mae’n rhaid rhoi’r gorau i roi’u blaenoriaethau cul yn gyntaf a chymryd camau nawr i amddiffyn y gwasanaethau cyhoeddus y mae pob un ohonom eu hangen ac yn eu haeddu.”

Meddai Aerona Edwards, cyn athrawes ysgol uwchradd o Cleviston Park, Llangennech:
“Mae’n anodd dychmygu effaith toriadau o £500 miliwn ar ysgolion yng Nghymru. Mae toriadau mewn addysg yn peryglu cyfleoedd plant mewn bywyd ac yn effeithio fwyaf ar y plant mwyaf bregus. Mae llywodraeth Gordon Brown wedi cyfaddef na fydd cardiau adnabod yn atal terfysgwyr. Mae’r cynllun yn gwbl ddiangen ac ni fydd yn gweithio. Hoffwn alw ar Gordon Brown i’w ailystyried gan fod angen dirfawr am yr angen i’n hysgolion.”

Datganiad cychwynnol Helen Mary Jones i’r wasg ar doriadau gwariant yng Nghymru: http://www.plaidcymru.org/content.php?nID=101;ID=1128;lID=1
Bydd y cynllun cardiau adnabod yn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol ganslo neu’i gwneud yn ofynnol i ildio cerdyn adnabod, heb hawl i apelio, unrhyw bryd. I gael mwy o wybodaeth, gweler: http://www.no2id.net/

Thursday 5 March 2009

Elfyn Llwyd AS i gwrdd â Swyddogion y Llynges Brydeinig yn Llanelli i drafod cymorth i bobl sy’n gwasanaethu

Mae Dr. Myfanwy Davies, ymgeisydd seneddol y Blaid ar gyfer Llanelli, wedi gwahodd Elfyn Llwyd AS Meirionnydd Nant Conwy ac arweinydd y Blaid Seneddol i gwrdd â chynrychiolwyr y Llynges Brydeinig Frenhinol yn Llanelli ddydd Gwener 6 Mawrth.

Cynhelir y cyfarfod am 2pm yn ystafell 4 yn Neuadd y Dref. Disgwylir y bydd Aerona Stupe, cyfarwyddwr rhanbarthol y Llynges Brydeinig Frenhinol, yn bresennol, ynghyd â chadeirydd a swyddogion cangen Llanelli.

Yn ddiweddar, mae Mr. Llwyd wedi codi pryderon ynghylch y cymorth a roddir i bobl sy’n gwasanaethu, ac ar ôl iddynt adael y lluoedd arfog.

Yn dilyn nifer o achosion o ddedfrydu cyn-aelodau’r lluoedd arfog am droseddau yng Nghymru, ceisiodd Mr. Llwyd gael ffigurau ar nifer cyn-aelodau’r lluoedd arfog yn y carchar, ac ni chafodd ateb boddhaol. Yna bu mewn cysylltiad â’r Gymdeithas Genedlaethol Swyddogion Prawf (NAPO) i gynnal arolwg o’i haelodau. Mae tystiolaeth yr arolwg yn awgrymu bod miloedd o gyn aelodau’r lluoedd arfog a fu’n gwasanaethau yn y Gwlff neu yn Afghanistan wedi cael eu dedfrydu i garchar am droseddau ar ôl eu rhyddhau o’r fyddin*. Mae’r canfyddiadau wedi achosi pryder gwirioneddol gan eu bod yn awgrymu bod hyd at 8,500 o gyn filwyr yn y ddalfa yn y DU, sef bron 10% o holl garcharwyr Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gyda mwy na 7000 ohonynt yn y ddalfa yng Nghymru a Lloegr. Mae cefndir yr achosion yn dangos i fwyafrif y cyn-filwyr ddioddef anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD) ar ryw bwynt ac mai prin yw’r rhai oedd wedi derbyn unrhyw gwnsela neu gymorth ar ôl eu rhyddhau o’r fyddin.

Mae Elfyn Llwyd, sydd wedi ymgyrchu yn y gorffennol ar Syndrom Rhyfel y Gwlff, wedi llwyddo i gael trafodaeth ar gymorth i bobl sy’n gwasanethu wrth iddynt wasanaethu ac ar ôl hynny. Yn sgil y drafodaeth yn Neuadd San Steffan ar 21 Hydref 2008, cafodd mwy o seicolegwyr eu hanfon i Afghanistan ac Irac, ac mae’r Llywodraeth yn edrych ar ffyrdd o ofalu am aelodau’r lluoedd arfog ar ôl iddynt ddychwelyd adref.

Meddai Mr Llwyd:

"Ar ôl gweld nifer o achosion lle’r oedd aelodau’r lluoedd arfog yn troseddu er mwyn ceisio cael help, cyflwynais gwestiwn seneddol a gafodd ateb gweddol di-ddim. Doeddwn i ddim yn hapus â hynny gan fy mod wedi gweld cyn aelodau’r lluoedd arfog yn cael eu dedfrydu’n bryderus o reolaidd yn y llysoedd yn y Gogledd am ymosodiadau difrifol.

”Does dim esgus os mai diffyg adnoddau sydd ar fai. Ar adeg pan mae milwyr sy’n gwasanaethu’n gorfod ymladd ag offer annigonol, bydd methu mynd i’r afael â’r broblem hon yn fwy o dystiolaeth bod y Llywodraeth wedi torri’i haddewid i’r lluoedd arfog yn y ffordd fwyaf difrifol.”

Yn siarad o’i swyddfa yn Llanelli ddydd Mawrth, meddai Myfanwy Davies:

“Mae’n destun pryder mawr, ar adeg pan mae’r lluoedd arfod yn recriwtio o’n cymunedau, nad ydynt yn cael y gefnogaeth fwyaf sylfaenol sydd ei hangen ar y dynion a’r menywod sy’n ymgymryd â’r gwaith anodd a pheryglus hwn. Pe bai’r driniaeth gywir ar gael i’r aelodau hyn o’r lluoedd arfog sy’n dioddef, rwy’n argyhoeddedig na fyddai cannoedd os nad miloedd ohonynt wedi torri’r gyfraith. Mae’r llywodraeth yn eu gadael nhw a’u teuluoedd i lawr yn ddifrifol.

“Mae gwaith Elfyn i fynd i’r afael â’r mater hwn a chael mwy o gefnogaeth seicolegol wedi denu clod gan bawb, ac rwy’n falch iawn ei fod yn dod i Lanelli i gwrdd â chynrychiolwyr y Llynges Brydeinig.”

Sunday 1 March 2009

Myfanwy yn galw am ddeialog gyda Swyddogion y Sir ar fodloni anghenion oedolion awtistig a chynllunio gwasanaethau newydd

Mae Dr. Myfanwy Davies, ymgeisydd seneddol y Blaid ar gyfer Llanelli, wedi galw ar Helen Mary Jones, AC y Blaid ar gyfer Llanelli, i sicrhau bod Sir Gâr yn gofalu am ei hunigolion awtistig ac yn deall anghenion plant awtistig er mwyn cynllunio gwasanaethau. Ym mis Ebrill y llynedd, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i gyflwyno cynllun gweithredu strategol i helpu’r oddeutu 30,000 o bobl yng Nghymru y mae awtistiaeth yn effeithio arnynt yn uniongyrchol neu’n anuiongyrchol.

Nod Cynllun Gweithredy Strategol Anhwylder Sbectrwm Awtistig Llywodraeth Cynulliad Cymru y sicrhau bod adrannau addysg, tai a gwasanaethau cymdeithasol cynghorau sir yn cydweithio i wella bywydau pobl ag awtistiaeth. Ariannwyd y cynllun yn yn y flwyddyn gyntaf (2008/09) drwy £1.8 miliwn i’w rannu rhwng ein 22 cyngor.

Yn ystod y blynyddoedd cynnar, mae disgwyl i gynghorau sir asesu’r angen am asanaethau awtistiaeth yn eu hardaloedd a rhoi cyfrif llawn am yr holl wasanaethau sydd ar gael i bobl ag awtistiaeth o fod yn blentyn i fod yn oedolyn. Mewn ymateb i ymgyrch y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol i godi ymwybyddiaeth am yr asesiad mapio ac anghenion, mae Myfanwy wedi galw ar Helen Mary i gwrdd â swyddogion y cyngor i drafod yr asesiad yn y sir.

Yn siarad o’i swyddfa ymgyrchu yn Llanelli, meddai Myfanwy:

“Rwy’n falch iawn bod Helen wedi cytuno i alw cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr y cyngor er mwyn iddynt nodi’r cynnydd ar fapio gwasanaethau cyfredol ac asesu’r angen am wasanaethau newydd. Mae angen i deuluoedd wybod am hynt y gwaith a sut gallant gyfrannu at y prosesau hyn a fydd mor bwysig o ran cynllunio gwasanaethau yn y dyfodol.

“Mae rhieni’n arbennig o bryderus am gyllido gwasanaethau i oedolion awtistig. Mae prosiectau rhagorol yn y sir sy’n galluogi oedolion ag awtistiaeth i fyw bywydau annibynnol a llawn. Er enghraifft, mae cynlluniau tai â chymorth dwys yn rhoi lefel uchel o gymorth, ond yn galluogi oedolion i gadw’u budd-daliadau er mwyn parhau’n annibynnol drwy dalu’u rhent a chyfrannu at dâl gofalwyr.”

“Fodd bynnag, ochr yn ochr â’r enghreifftiau hyn mae siom ymysg teuluoedd plant awtistig nad yw pobl ifanc sy’n rhy hwn i ddefnyddio gwasanaethau cymdeithasol plant yn cael yr un gwasanaethau cymorth fel mater o drefn.”

Mae Helen Mary wedi gofyn i gwrdd â Bruce McLernon, Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol a Thai Sir Gâr.