Mae Myfanwy Davies, Plaid Cymru a Helen Mary Jones wedi galw heddiw (23/03), cyn Cyllideb Dydd Mercher, am rewi‘r codiad sylweddol mewn treth ar danwydd.
Mae treth ar danwydd i godi 2.55 ceiniog am bob litr o Ebrill 2010 (1% yn uwch na chwyddiant). Bydd hyn yn costio £200 ychwanegol i deulu cyffredin ac achosi trafferthion pellach i fusnesau bach sydd eisoes yn gwingo dan drethi tanwydd uwch. Mae Plaid wedi haeru y dylid gohirio’r codiad treth sylweddol hwn.
Mae cyrff ymgyrchu fel Cymdeithas Gludiant Ffyrdd wedi dod allan mewn cefnogaeth i alwadau’r Blaid am reolydd treth tanwydd teg. Dan gynllun o’r fath byddai codiad annisgwyl mewn pris petrol yn arwain at rewi treth tanwydd.
Mae Aelodau Seneddol o’r Blaid a Phlaid Genedlaethol Yr Alban wedi gosod datganiad swyddogol ar y bwrdd yn annog rhewi treth tanwydd ac yn galw eto am sefydlu rheolydd treth tanwydd.
Dywedodd Arwyn Price o gwmni bysys Gwynne Price yn Nhrimsaran:
“Bu hwn yn fusnes i’n teulu ni ers 1956 a phrin y gwelwyd amser caletach. Derbyniais y prisiau disel newydd y bore ‘ma ac, hyd yn oed gyda disgownt-swmp, byddwn yn talu bron 10% yn fwy nag ym Mis Mehefin llynedd a hynny cyn y codiad treth".
"Mae’r Llywodraeth eisoes yn codi costau tanwydd yn uwch na graddfa chwyddiant. Pan fo cost tanwydd yn codi fel y mae, y peth lleiaf allan nhw ei wneud yw rhewi’r codiad yn y dreth. Oni wnân’ nhw ail feddwl yn Y Gyllideb yfory, fe fydd pethau hyd yn oed yn fwy anodd arnom ni”.
Ychwanegodd Myfanwy:
“Ein cymunedau ni yn Llanelli a’r cylch fydd yn teimlo gwasgfa’r codiad sylweddol hwn mewn pris tanwydd. Mae teuluoedd sydd yn gweithio’n galed yn ei chael hi’n anodd rhedeg car, ond mae’r trethi tanwydd rhyfeddol o uchel hyn yn cael effaith ar y prisiau yn ein siopau hefyd gyda chostau cludo bwyd a chynhyrchion eraill iddynt yn codi. Mae ein busnesau lleol, fel Cwmni Bysiau Gwynne Price a’n llu o gwmnïau tacsis, yn cyfrannu’n enfawr at ein heconomi lleol a bydd hi hyd yn oed yn fwy anodd iddynt gael y ddau ben llinyn ynghyd".
"Wedi blwyddyn o weld prisiau tanwydd yn saethu i fyny, mae’n gwbl anghyfrifol i ychwanegu at y baich sy’n wynebu busnesau lleol a theuluoedd sy’n gweithio. Unwaith eto, mae Llywodraeth Lafur heb unrhyw ddealltwriaeth o gymunedau fel ein un ni”.
Ychwanegodd Helen Mary Jones AC Llanelli:
“'Dyw hyn yn ddim byd ond cosbi pobl gyffredin am fethiant cyfundrefn fancio yr oedd llywodraeth Llundain wedi helpu ei chreu. Yn syml iawn, ymddengys nad yw ein ffrindiau yn Llundain yn deall effaith mae’r codi mewn prisiau tanwydd yn ei gael ar bobl gyffredin a’r cymunedau.”
Ychwanegodd Elfyn Llwyd AS, Arweinydd y Blaid yn San Steffan:
“Mae codiadau mewn treth ar danwydd yn parlysu diwydiant yn barod - ond mae hefyd yn faich annheg ar deuluoedd caled eu byd, busnesau bychain, ardaloedd gwledig yn arbennig a, hefyd, bydd hyn yn ergyd fawr iawn i sectorau megis y gwasanaethau brys".
"Parhawn i ymladd y codiad tanwydd hwn a pharhawn i annog dod i mewn â rheolydd treth tanwydd yn ystod Y Gyllideb i sicrhau sefydlogrwydd mewn pris yn ogystal â threthi tanwydd is.”
Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu dros gyfnod hir am beirianwaith newydd i gapio prisiau petrol. Gyda’r SNP cyflwynwyd cynnig i wella’r Mesur Cyllid i greu rheolydd Trethi Tanwydd yn 2008 ond pleidleisiodd Llafur yn ei erbyn.
Cefnogir rheolydd o’r fath gan leisiau blaengar diwydiant, megis Cymdeithas Gludiant Ffyrdd. Dan gynllun felly, byddai codiad annisgwyl mewn prisiau petrol yn arwain at rewi treth ar danwydd.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment