Tuesday 6 July 2010

Blog Newydd!

Helo bawb! Rwy' wedi lansio blog newydd http://aberllwchwr.blogspot.com/ sy'n cymryd lle hwn am y tro. Yno byddaf yn rhoi'r byd yn ei le o safbwynt y De Orllewin. Bydd rhai sylwadau yn fwy cyffredinol na’i gilydd ond canolbwyntio ar wleidyddiaeth cig a gwaed sydd yn effeithio yn uniongyrchol ar bobl o’m cwmpas i yw'r bwriad.

Sunday 4 April 2010

Dafydd Wigley: Gall Myfanwy adennill miliynau coll Llanelli

‘Roedd Llywydd Anrhydeddus Plaid, Dafydd Wigley, yn Llanelli ddoe i drefnu sut y byddai ethol Dr. Myfanwy Davies yn AS y dref yn rhoi’r siawns i gymunedau Llanelli ennill y miliynau y mae ar Lywodraeth Llundain iddynt.

Mae Plaid wedi bod yn ymgyrchu am flynyddoedd dros gynhaliaeth deg i Gymru o San Steffan. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae dau ymchwiliad annibynnol wedi dod i’r casgliad bod Cymru’n derbyn llawer iawn rhy ychydig o arian. Dros10 mlynedd dylai cymunedau Llanelli fod £240 miliwn yn gyfoethocach.

Gyda’r rhan fwyaf o bolau piniwn nawr yn rhagweld Senedd grog, a disgwylir i’r Blaid a Phlaid Genedlaethol yr Alban ennill y nifer fwyaf erioed o seddau, byddai’r grŵp mewn sefyllfa allweddol i gael chwarae teg i Lanelli.

Cyfarfu Mr Wigley gynghorwyr lleol ac arweinyddion y gymuned ym mwyty La Caprice a bu’n siarad â masnachwyr ym Marchnad Llanelli ynglŷn â ffyrdd o dynnu pobl i ganol y dref.
Dywedodd Mr Wigley:
“Gyda’r polau piniwn i gyd yn argoeli y bydd senedd grog, mae’r etholiad hwn yn dwyn atgofion i fi. ‘Roeddwn lawer iau a llai hirben na Myfanwy y tro diwethaf i ni gael senedd grog ac yr oeddwn yn aelod o dîm trafod y Blaid”.
“Y pryd hynny, ‘roeddem ni wedi ennill iawndal oddi wrth y Llywodraeth i’r glowyr hynny oedd yn anabl fel canlyniad i’r llwch ar eu hysgyfaint”.
“Y tro hwn, gyda grŵp llawer mwy a gyda thrafodwyr pen caled, profiadol fel Myfanwy, byddwn yn gofyn am ariannu teg i Gymru fel tâl am ein cefnogaeth i’r Llywodraeth nesaf ar faterion fel y gyllideb”.
“Mae’n hen bryd bod Llanelli’n cael chwarae teg o Lundain ac yn hen bryd danfon AS i Lundain a fydd yn rhoi anghenion Llanelli yn gyntaf”.


Ychwanegodd Myfanwy:

“Ar yr union ddiwrnod y mae’r Blaid Lafur, er mwyn rhoi hwb i’w cyflwr egwan, wedi dod â Tony Blair yn ôl, a hwnnw’r mwyaf ei anfri o wleidyddion Prydain, mae wedi bod yn bleser mawr iawn i fi groesawu Dafydd Wigley i Lanelli”.
Os gall unrhyw un ddangos sut y gall cymunedau Cymru elwa o gael AS Plaid, Dafydd yw hwnnw”.

“Nawr ein bod yn edrych ymlaen at senedd grog, ‘rwyf am fedru brwydro i gael y gynhaliaeth sydd ei hangen ar Lanelli, y gynhaliaeth a wrthodwyd i ni am gynifer o flynyddoedd”.

"Pa beth bynnag a fyddant yn ei ddweud mor agos â hyn at etholiad, mae’r ddwy brif blaid yn cynllunio toriadau. Trwy gael ariannu teg yn unig, medrem amddiffyn ein hysgolion, ysbytai a chartrefi gofal a chynorthwyo twf ein heconomi leol”.

Tuesday 30 March 2010

Mae Myfanwy a Helen Mary’n croesawu’r newid llwyr ynglŷn â chefnogaeth i’r hŷn a’r anabl yn dilyn pwysau gan Y Blaid

Mae Dr. Myfanwy Davies, darpar ymgeisydd Y Blaid yn Llanelli, a Helen Mary Jones, AC lleol Y Blaid, wedi croesawu’r newid llwyr gan y Blaid Lafur ynglŷn â’r gefnogaeth i bobl hŷn anabl. Cyn hyn bu’r Lwfans Gweini a’r Lwfans Byw i’r Anabl dan fygythiad er mwyn talu am gynlluniau Llywodraeth yn Lloegr.

Mae’r Llywodraeth wedi addo nawr na fwriedir eu newid mwyach yn y Senedd nesaf.

‘Roedd Myfanwy a Helen Mary wedi cefnogi ymgyrchwyr anabledd a phensiynau lleol wrth frwydro yn erbyn y bygythiad ac wedi gweithio’n glos gyda’u cyd weithwyr yn Y Blaid yn San Steffan i wrthwynebu’r newidiadau hyn a fyddai wedi golygu bod miloedd o bobl hŷn a bregus yn Llanelli ar gyfartaledd rhwng £65 a £75 yr wythnos yn waeth eu byd.

Dywedodd Dr. Davies:


“Nid cyn pryd mae’r newid llwyr hwn yn digwydd - er y byddai rhai’n dueddol o gwestiynu ei amseriad yn union cyn etholiad cyffredinol”.

Ar draws Llanelli mae 4,000 o bobl yn dibynnu ar Lwfans Gweini tra bo 8,000 yn dibynnu ar Lwfans Byw i’r Anabl.


“Mae’r bobl hyn i gyd naill ai’n anabl neu dros 65 mlwydd oed, y grwpiau lleiaf abl i fyw ar eu pennau eu hunain a gofalu amdanynt eu hunain.

Mae’r cynigion a wnaeth Llafur yr haf diwethaf yn rhoi pwysau anferth ar ein pobl fwyaf bregus. Mae’n gwbl anghywir bod cymaint ohonynt a’u teuluoedd wedi gorfod byw gyda’r ansicrwydd ynglyn â sut y medrent fyw’n annibynnol pe bai’r gynhaliaeth hon yn cael ei dwyn oddi arnynt”.

“’Roedd yn annerbyniol bod y Llywodraeth wedi awgrymu’r toriadau creulon hyn yn y lle cyntaf”.

“Dydyn nhw ddim yn gwneud ffafr â’n pobl fwyaf bregus trwy symud y bygythiad a ddaeth oddi wrthynt hwy eu hunain”.

Ychwanegodd Helen Mary:

“’Rydym wedi ymladd y newidiadau hyn byth oddi ar iddynt gael eu hawgrymu gyntaf a buom yn cefnogi grwpiau iawnderau’r anabl a phensiynwyr yn lleol trwy roi pwysau ar y Llywodraeth i newid eu meddwl”.

“Mae’n amlwg bod y pwysau cyfunol wedi helpu’r Llywodraeth tuag at y trawsnewidiad munud olaf hwn”.

“Ni ddylai fod angen i ni amddiffyn cynhaliaeth y mwyaf bregus ond, tro ar ôl tro, bu rhaid i ni wneud hynny. Mae angen i benderfyniadau ynglyn â chynhaliaeth i’n pobl fwyaf bregus gael eu gwneud gan y Cynulliad yng Nghaerdydd fel y gallwn osgoi’r trallod i gynifer o bobl hŷn ac anabl a ddeuai trwy’r toriadau creulon hyn a fwriadwyd gan Lafur yn y lle cyntaf”.

Tuesday 23 March 2010

Myfanwy a Helen Mary’n cefnogi busnesau lleol gan ddweud, ‘Rhaid gohirio’r codiad mewn treth ar danwydd’

Mae Myfanwy Davies, Plaid Cymru a Helen Mary Jones wedi galw heddiw (23/03), cyn Cyllideb Dydd Mercher, am rewi‘r codiad sylweddol mewn treth ar danwydd.

Mae treth ar danwydd i godi 2.55 ceiniog am bob litr o Ebrill 2010 (1% yn uwch na chwyddiant). Bydd hyn yn costio £200 ychwanegol i deulu cyffredin ac achosi trafferthion pellach i fusnesau bach sydd eisoes yn gwingo dan drethi tanwydd uwch. Mae Plaid wedi haeru y dylid gohirio’r codiad treth sylweddol hwn.

Mae cyrff ymgyrchu fel Cymdeithas Gludiant Ffyrdd wedi dod allan mewn cefnogaeth i alwadau’r Blaid am reolydd treth tanwydd teg. Dan gynllun o’r fath byddai codiad annisgwyl mewn pris petrol yn arwain at rewi treth tanwydd.

Mae Aelodau Seneddol o’r Blaid a Phlaid Genedlaethol Yr Alban wedi gosod datganiad swyddogol ar y bwrdd yn annog rhewi treth tanwydd ac yn galw eto am sefydlu rheolydd treth tanwydd.

Dywedodd Arwyn Price o gwmni bysys Gwynne Price yn Nhrimsaran:

“Bu hwn yn fusnes i’n teulu ni ers 1956 a phrin y gwelwyd amser caletach. Derbyniais y prisiau disel newydd y bore ‘ma ac, hyd yn oed gyda disgownt-swmp, byddwn yn talu bron 10% yn fwy nag ym Mis Mehefin llynedd a hynny cyn y codiad treth".

"Mae’r Llywodraeth eisoes yn codi costau tanwydd yn uwch na graddfa chwyddiant. Pan fo cost tanwydd yn codi fel y mae, y peth lleiaf allan nhw ei wneud yw rhewi’r codiad yn y dreth. Oni wnân’ nhw ail feddwl yn Y Gyllideb yfory, fe fydd pethau hyd yn oed yn fwy anodd arnom ni”.

Ychwanegodd Myfanwy:

“Ein cymunedau ni yn Llanelli a’r cylch fydd yn teimlo gwasgfa’r codiad sylweddol hwn mewn pris tanwydd. Mae teuluoedd sydd yn gweithio’n galed yn ei chael hi’n anodd rhedeg car, ond mae’r trethi tanwydd rhyfeddol o uchel hyn yn cael effaith ar y prisiau yn ein siopau hefyd gyda chostau cludo bwyd a chynhyrchion eraill iddynt yn codi. Mae ein busnesau lleol, fel Cwmni Bysiau Gwynne Price a’n llu o gwmnïau tacsis, yn cyfrannu’n enfawr at ein heconomi lleol a bydd hi hyd yn oed yn fwy anodd iddynt gael y ddau ben llinyn ynghyd".

"Wedi blwyddyn o weld prisiau tanwydd yn saethu i fyny, mae’n gwbl anghyfrifol i ychwanegu at y baich sy’n wynebu busnesau lleol a theuluoedd sy’n gweithio. Unwaith eto, mae Llywodraeth Lafur heb unrhyw ddealltwriaeth o gymunedau fel ein un ni”.

Ychwanegodd Helen Mary Jones AC Llanelli:

“'Dyw hyn yn ddim byd ond cosbi pobl gyffredin am fethiant cyfundrefn fancio yr oedd llywodraeth Llundain wedi helpu ei chreu. Yn syml iawn, ymddengys nad yw ein ffrindiau yn Llundain yn deall effaith mae’r codi mewn prisiau tanwydd yn ei gael ar bobl gyffredin a’r cymunedau.”

Ychwanegodd Elfyn Llwyd AS, Arweinydd y Blaid yn San Steffan:

“Mae codiadau mewn treth ar danwydd yn parlysu diwydiant yn barod - ond mae hefyd yn faich annheg ar deuluoedd caled eu byd, busnesau bychain, ardaloedd gwledig yn arbennig a, hefyd, bydd hyn yn ergyd fawr iawn i sectorau megis y gwasanaethau brys".

"Parhawn i ymladd y codiad tanwydd hwn a pharhawn i annog dod i mewn â rheolydd treth tanwydd yn ystod Y Gyllideb i sicrhau sefydlogrwydd mewn pris yn ogystal â threthi tanwydd is.”

Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu dros gyfnod hir am beirianwaith newydd i gapio prisiau petrol. Gyda’r SNP cyflwynwyd cynnig i wella’r Mesur Cyllid i greu rheolydd Trethi Tanwydd yn 2008 ond pleidleisiodd Llafur yn ei erbyn.

Cefnogir rheolydd o’r fath gan leisiau blaengar diwydiant, megis Cymdeithas Gludiant Ffyrdd. Dan gynllun felly, byddai codiad annisgwyl mewn prisiau petrol yn arwain at rewi treth ar danwydd.

Wednesday 17 March 2010

Myfanwy a Helen Mary yn mynd â’r frwydr i arbed Clwb Bingo Llanelli i Lundain

Mae darpar ymgeisydd seneddol Plaid dros Lanelli, Myfanwy Davies a’r AC Helen Mary Jones, yn cefnogi’r chwaraewyr Bingo yng Nghlwb Bingo Argos yn Llanelli fel y gofynnant i’r Canghellor gymryd y cyfle olaf i ddileu codiad treth o 15 i 20% ar Fingo a allai beryglu dyfodol y clwb.

Yfory (18/03), bydd Myfanwy yn ymuno â chwaraewyr Bingo o Lanelli fel y cyflwynant dros 500 o lythyron wedi’u llofnodi oddi wrth bobl leol yn Llanelli i swyddogion y Trysorlys yn San Steffan. Mae’r llythyron, a baratowyd gan Myfanwy a Helen Mary, yn gofyn i’r canghellor ddefnyddio Cyllideb y Gwanwyn ar Fawrth 24ain, i ddileu’r codiad treth.

Mae chwaraewyr Bingo Llanelli yn bwriadu gwisgo fel cennin Pedr a pheli bingo enfawr a byddant yn protestio yn erbyn y codiad treth yn Sgwâr y Senedd o 2.15 prynhawn yfory. Gobeithiant gyflwyno’r llythyron i’r Trysorlys yn hwyrach yn y prynhawn.

Meddai Myfanwy: “Y peth olaf mae Llanelli eisiau yw colli Clwb yr Argos. Mae’n fan cyfarfod a chymdeithasu, yn enwedig ar gyfer pobl hŷn ac mae’n darparu swyddi yn y canol tref. Fel llawer o fusnesau canol tref, mae’r cwsmeriaid sy’n mynychu Clwb yr Argos wedi lleihau ac ar adeg fel hon, mae’n haeddu cymorth oddi wrth y Llywodraeth - nid y codiad treth annheg hwn.
Rwy’n gobeithio y cymer y Canghellor y cyfle olaf hwn i ddangos ei fod yn deall cymunedau fel ein rhai ni.”

Meddai Helen Mary: “Mae’r dreth hon yn un annheg ar bleser pobl. Mewn amserau caled y gwelwch chi beth yw blaenoriaethau’r Llywodraeth. Mae gan y Llywodraeth Lafur a’i Haelod Seneddol lleol, a bleidleisiodd i gadw’r codiad treth yr haf diwethaf, flaenoriaethau sy’n wahanol iawn i’n rhai ni. Ond gobeithiwn y bydd y llythyron yn dangos i’r Canghellor y teimladau dwys yn erbyn y dreth.”

Meddai Nigel Griffiths, Rheolwr Clwb yr Argos: “Rydym yn gobeithio’n fawr iawn y bydd y Llywodraeth yn ailfeddwl ac yn penderfynu peidio â chodi’r dreth. Wedi’r cyfan, os llwydda i ddifetha’n busnesau, ni fydd yn gallu casglu’r dreth o gwbl.”

Tuesday 9 March 2010

Myfanwy a Helen Mary yn cefnogi chwaraewyr bingo yn Llanelli yn yr ymgyrch yn erbyn treth annheg

Mae Myfanwy Davies Ymgeisydd Seneddol Plaid yn Llanelli a AC lleol Helen Mary Jones yn cefnogi ymgyrch chwaraewyr Bingo, yng nghlwb bingo'r Argos Llanelli ,wrth iddynt ofyn i’r canghellor i ail ystyried y codiad treth ar bingo - a fyddai’n gosod dyfodol y clwb mewn peryg. Bu Myfanwy yn ymweld â Chlwb Bingo’r Argos nos Lun Mawrth 1af i drosglwyddo llythyron, i’w harwyddo gan yr aelodau, i’w hanfon at y Canghellor.

Yr haf diwethaf cyhoeddodd y llywodraeth Lafur gynnydd difrifol yn y dreth ar Bingo, tra bod trethi ar ffurf eraill o hap chwarae yn aros yr un fath. Teithiodd chwaraewyr bingo Llanelli i lawr i Sansteffan i brotestio yn erbyn hyn. Fe wnaeth Myfanwy ac ASau Plaid Cymru gyfarfod â ‘r protestwyr gan gynnig cefnogaeth. Yn wahanol i’r hyn wnaeth AS Llafur Llanelli, sef pleidleisio dros godi’r dreth tro ar ôl tro, mae Aelodau Seneddol y Blaid wedi pleidleisio yn erbyn y dreth annheg yma ar hyd yr adeg.

Fodd bynnag mae’r dreth ar Bingo yn dal i gynyddu o 15-20% ac fe fydd hyn yn effeithio’n arw ar glybiau megis yr Argos yn Llanelli. Mae gan y Canghellor un cyfle olaf i ail edrych ar y sefyllfa sef yn y Gyllideb yn y Gwanwyn, ac felly mae Myfanwy a Helen Mary am sicrhau ei fod yn deall pryderon y gwrthwynebwyr yn glir cyn ei fod yn gwneud unrhyw benderfyniadau .

Dywedodd Myfanwy: “Y peth diwethaf sydd ei angen ar Lanelli yw colli Clwb yr Argos. Mae yn fan cyfarfod a chymdeithasu, yn enwedig i’r bobl hŷn, ac mae’n rhoi gwaith yng nghanol y dref. Yn debyg i nifer o fusnesau canol y dref mae Clwb yr Argos wedi gweld llai o gwsmeriaid yn dod yno, ac ar adeg fel hyn mae angen help gan y llywodraeth - nid y dreth annheg yma.

Pam y dylai casinos yn Llundain gael eu trethi ar y raddfa wreiddiol a dyfodol clwb yr Argos bod mewn perygl? Rwyf i’n gobeithio y bydd y Canghellor yn cymryd y cyfle olaf yma i ddangos ei fod yn deall pobl a chymunedau fel ni.”

Dywedodd Helen Mary : “Mae hyn yn dreth hollol annheg ar fwynhad pobl. Mewn amseroedd caled fel hyn mae yn bosib gweld yn union beth yw blaenoriaethau llywodraeth. Mae gan y Llywodraeth Lafur a’i AS lleol, a bleidleisiodd i gadw codiad yn y dreth, blaenoriaethau hollol wahanol i ni. Ond, y gobaith yw, y bydd y llythyron i’r Canghellor yn dangos yn glir cymaint yw’r teimladau ynglŷn â hyn ac y bydd yn ail-ystyried gosod y baich ychwanegol yma ar un o fusnesau allweddol ein tref”.

Dywedodd Nigel Griffiths, Rheolwr Clwb Bingo yr Argos: “Mae'r rhain wedi bod yn amseroedd anodd iawn, yn enwedig yn ystod mis Ionawr, lle roeddem yn gweld tipyn llai o’n cwsmeriaid arferol. Gobeithiwn yn fawr y bydd y Canghellor yn ail feddwl ynglŷn â chodi’r dreth. Wedi’r cyfan, os bydd yn llwyddo i gau ein busnesau ni, fydd e’ ddim yn gallu casglu’r dreth beth bynnag”.

Mae copϊau o’r llythyr wedi eu gadael yng Nghlwb yr Argos a byddant yn cael eu cyflwyno i Elfyn Llwyd, Arweinydd Grwp Senoddol Plaid Cymru pan y mae’n ymweld â Llanelli Dydd Llun nesaf (15ed).

Monday 22 February 2010

Myfanwy a Helen Mary yn gwthio yn San Steffan a Chaerdydd am atebion hirdymor

Mae Myfanwy Davies, Darpar Ymgeisydd Seneddol y Blaid i Lanelli, a’r AC lleol Helen Mary Jones, wedi bod yn gwthio am atebion hirdymor i’r problemau llifogydd yn Llanelli. Mae preswylwyr yn aml yn dioddef o lifogydd gan fod y sustem garthffosiaeth heb ddigon o allu i ddraenio’r dŵr glaw ychwanegol yn ystod tywydd gwael.

Cyfarfu Myfanwy a Helen Mary ag uwch-reolwyr Dŵr Cymru ar yr 17eg o Dachwedd a dywedwyd wrthynt fod gan y cwmni gynlluniau i fuddsoddi i fyny at £6 miliwn o bunnoedd mewn adeiladu ffosydd draenio dŵr storm yn Llanelli. Byddai’r cynlluniau hyn yn gwella’r draeniad, yn ystod ac ar ôl glaw trwm. Fodd bynnag, yn hwyrach yn y mis ar 26ain o Dachwedd, cyhoeddodd Ofwat gyfyngiadau ar brisiau dŵr sydd yn debygol o fod wedi effeithio ar y cynlluniau ac ar Ionawr 14eg, rhyddhawyd ffigwr o £2.7 miliwn gan Ddŵr Cymru ar gyfer buddsoddiad yn y cynllun draenio dŵr storm yn Llanelli.

Mae Dŵr Cymru yn gwmni dielw felly mae’r elw a wneir i’w ddefnyddio i gynnal y rhwydwaith mewnol ac i atal llifogydd. Tra gellir arbed arian drwy weithio’n fwy effeithiol, y mae yna bryderon difrifol ynglŷn ag effaith y penderfyniad ar brisiau dŵr gan Ofwat ar y cynlluniau hynod bwysig hyn i Lanelli.

Cysylltodd Myfanwy gydag Elfyn Llwyd AS, arweinydd Grŵp Seneddol Plaid Cymru i ofyn iddo godi’r mater gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, Peter Hain. Gofynnodd Mr Llwyd iddo a oedd yn cytuno y dylid caniatáu i Ddŵr Cymru fuddsoddi mewn rhwydwaith mewnol, megis y gwaith atal llifogydd a drefnwyd i Lanelli ond sydd yn debygol o fod wedi ei gwtogi yn sgil penderfyniad Ofwat ynglŷn â gwerth am arian.

Ni wnaeth AS Llafur Llanelli Nia Griffiths, a oedd yn bresennol, unrhyw sylw ar y drafodaeth.



Meddai Myfanwy : “Rydw i’n falch iawn fod Mr. Llwyd wedi gallu ymateb mor gyflym i’n pryderon. Mae llifogydd yn beth ofnadwy sy’n digwydd yn amlach o hyd ar draws Llanelli.

Rwy’n croesawu cynlluniau presennol Dŵr Cymru ar gyfer buddsoddi yn Llanelli. Bydd bron i dair miliwn o fuddsoddiad yn ein draeniau dŵr storm yn gwneud gwahaniaeth a gobeithiaf y gellir ychwanegu at y swm. Mae yna ofnau am effeithiau posib penderfyniad Ofwat ar y rhaglen ehangach o fuddsoddiad a ddisgrifiwyd i Helen a finnau. Rydym yn hapus iawn i drafod y ffigurau union gyda rheolwyr Dŵr Cymru sydd yn rhyfeddol o dawedog ynglŷn â’r drafodaeth yna erbyn hyn. Wrth gwrs, rydym yn sensitif i’w hangen i osgoi gwrthdaro gydag Ofwat.

Ein bwriad yw sicrhau bod Llanelli yn cael y buddsoddiad y mae hi ei angen. Ni all fod yn iawn fod Dŵr Cymru yn cael ei reoli yn yr un modd â chwmni sy’n cael ei redeg gan gyfranddalwyr oherwydd, fel cwmni dielw, y mae’n rhaid iddo ddefnyddio incwm cwsmeriaid i gynnal, cadw a gwella draeniau fel y rhai y mae eu hangen yn Llanelli.

Mae’n edrych yn debyg iawn fod gwaith atal llifogydd yn ein hardal ni yn cael ei wrthod gan reolwyr sy’n beirniadu cwmni tra gwahanol

Drwy weithio gyda Helen Mary a Grŵp Seneddol y Blaid rydw i’n gobeithio y byddwn yn gallu delio â’r llanast hwn ac atal llifogydd yma ac ar draws Cymru ”


Meddai Helen Mary : “Mae’r cam cyntaf wedi’i wneud i ganiatáu i Ddŵr Cymru fuddsoddi yn Llanelli fel y’i disgrifiwyd i Myfanwy a finnau cyn y Nadolig. Bûm ar y pwyllgor a sefydlodd Ddŵr Cymru fel Cwmni nad oedd yn gwneud elw, ac felly rydw i wrth fy modd ein bod, o’r diwedd, yn gwneud cynnydd drwy gael buddsoddiad cywir yng Nghymru a’i reoli yn ôl yr hyn y bwriedir iddo’i wneud - sef datblygu a chynnal gwasanaethau da yn yr hirdymor”.


Meddai Elfyn Llwyd : “Mae llifogydd yn gonsyrn mawr yn Llanelli ac mi wn fod Myfanwy wedi cefnogi trigolion lleol wrth ymdrin â materion megis yswiriant ac amddiffyn rhag llifogydd ac mae hefyd wedi bod yn ymwneud â materion lleol hirdymor. Pan wnaeth Myfanwy gysylltu â mi i drafod yr hyn sy’n ymddangos fel cwtogiad sylweddol yng nghynlluniau Dŵr Cymru i ddelio â draeniad dŵr storm, roedd yn glir fod yn rhaid i ni weithredu yn y Senedd i sicrhau bod y cynllun, a chynlluniau eraill tebyg ar draws Cymru, yn cael ei ariannu.

Wrth ystyried difrifoldeb y llifogydd yn Llanelli a’r angen amlwg i edrych ar y ffordd mae Dŵr Cymru yn cael ei reoli, rydw i’n synnu na wnaeth AS Llanelli godi’r mater yma ei hun “

Monday 25 January 2010

Plaid : Angen codi pris alcohol i achub ein tafarnau traddodiadol

Y mae Helen Mary Jones, AC Plaid Cymru Llanelli a Myfanwy Davies, ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn Llanelli, wedi datgan y dylai pris alcohol gael ei leihau er mwyn achub ein tafarndai lleol traddodiadol.

Mae Myfanwy a Helen Mary am weld cyflwyno prisiau llai ar alcohol i helpu tafarndai traddodiadol yn eu brwydr yn erbyn prisiau rhad yn yr archfarchnadoedd. .Yn ogystal â chynorthwyo’r tafarndai dan fygythiad maent yn credu y byddai codi pris alcohol rhad yn atal pobl ifanc rhag yfed yn wirion a hefyd yn lleihau lefelau tor- cyfraith.

Mae nifer o landlordiaid lleol wedi lleisio’u pryder gyda Helen Mary a Myfanwy, ac wedi sôn am y trafferthion maent yn eu hwynebu wrth geisio ymladd i gystadlu gyda phrisiau isel alcohol mewn archfarchnadoedd.

Croesawodd Helen Mary a Myfanwy'r argymhellion mewn adroddiad diweddar gan Bwyllgor Iechyd Tŷ’r Cyffredin i gyflwyno isafswm pris ar alcohol. Gwnaeth argymhellion eraill gynnwys gwaharddiad ar hysbysebion sy’n weledol i blant a gwaharddiad ar hysbysebu alcohol ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol .

Bydd Helen Mary a Myfanwy yn dosbarthu holiadur yn yr wythnosau nesaf i ‘r holl dafarndai yn etholaeth Llanelli yn gofyn iddynt a hoffent weld cyflwyniad o isafswm o bris ar alcohol.

Dywedodd Helen Mary Jones:

"Mae tystiolaeth gref iawn oddi wrth y BMA, ymhlith eraill , fod cyflwyno isafswm pris ar alcohol yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr yn y frwydr yn erbyn y diwylliant gor-yfed gwirion.

Mae’r prisiau cyfredol isel mewn archfarchnadoedd yn wael iawn i’n tafarndai cymunedol, sy’n methu a chystadlu ar brisiau. Mae landlordiaid yn darganfod fod eu cwsmeriaid wedi yfed llawer cyn ,hyd yn oed, cyrraedd y dafarn , ac o bosib byddai landlordiaid cyfrifol yn teimlo na ddylent werthu mwy o alcohol iddynt.

Fe fyddwn yn gwneud arolwg o holl dafarndai yn ardal Llanelli i ddarganfod beth yw safbwynt y landlordiaid ar gyflwyno isaf -bris ar alcohol a hefyd pa gamau eraill i gefnogi eu busnesau yr hoffent weld y Llywodraeth yng Nghaerdydd neu yn Llundain eu gwneud.

Mae gan y dafarn leol rhan bwysig i chwarae yn y gymuned ac mae llawer gormod ohonynt wedi’u colli yn y blynyddoedd diwethaf. Hoffwn weld beth yn union fedrwn wneud i gefnogi'r tafarndai cymunedol sydd yn weddill yn ardal Llanelli, ac i sicrhau bod ganddynt ddyfodol llewyrchus”.

Ychwanegodd Myfanwy :

" Rydym yn gweld lefelau pryderus o uchel o alcoholiaeth yn Llanelli wrth i bobl yfed mwy ar eu pennau ei hunain yn eu cartrefi .Mae pobl hefyd yn prynu diodydd llawer cryfach nag oeddynt yn y gorffennol. Mae mor hawdd i brynu fodca rhad iawn ,a gwirodydd eraill, yn ein harchfarchnadoedd ac mae’r pris isel yn annog pobl i yfed llawer mwy, wrth iddynt yfed yn eu cartrefi cyn mynd allan am noson yn y dre.

Mae gan dafarndai cymunedol rôl bwysig i chwarae drwy helpu pobl i yfed yn gyfrifol. Maent yn cynnig mwy nag yfed yn unig, gan eu bod yn llefydd i gyfarfod yn gymdeithasol ac yn llefydd i bobl hŷn gael cwmnïaeth a chefnogaeth cymdeithasol.

Rydym yn gwybod fod ein tafarndai cymunedol yn wynebu amser anodd iawn ac rydym am gynnig iddynt help ymarferol.”

Friday 22 January 2010

Byddai pensiynwyr yn Llanelli are eu hennill dan gynlluniau’r Blaid am “Bensiwn at Fyw”

Byddai dros 17,000 o bensiynwyr yn Llanelli are eu hennill o dan addewid etholiadol Plaid Cymru i gynyddu pensiwn y wladwriaeth 30% medd yr AC lleol, Helen Mary Jones, ac ymgeisydd seneddol y Blaid, Myfanwy Davies.

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi amlinellu cynnig ei blaid yn yr etholiad cyffredinol sydd i ddod mewn araith allweddol yn Nhwm Cynon (18/01). Mae eu haddewid yn dod wrth i ffigurau ddangos bod £5.4 biliwn o fudd-daliadau i bobl hŷn heb eu hawlio yn y DU pob blwyddyn am fod pensiynwyr yn teimlo bod y broses o hawlio yn gymhleth ac yn ymwthiol.

Mae Plaid yn ymgyrchu dros Bensiwn at Fyw. Golygai bod pob pensiynwr yn cael pensiwn mwy – a fyddai y flwyddyn nesaf yn dod i £202 yr wythnos i bâr. Byddai’r addewid yn cael ei wireddu’n raddol, gan ddechrau gyda’r hynaf a’r mwyaf bregus dros 80 oed.

Dywedodd Helen Mary Jones, AC Llanelli:

"Gyda chynnydd brawychus o 74% mewn marwolaethau o achos y tywydd oer yng Nghymru y llynedd, mae’n rhaid i dlodi ymhlith pensiynwyr a gwarchod gwasanaethau cyhoeddus allweddol gymryd blaenoraieth dros daliadau ychwanegol i fancwyr, arfau niwclar a chardiau adnabod.

Mae’r Torϊaid eisiau cyflwyno trethu annheg. Mae Llafur Newydd eisiau cadw diwylliant porthi’r banciau ac aeth hygrededd y Lib Dems ar goll pan wnaeth Clegg gydnabod eu bod wedi bod yn gwneud addewidion na allent eu fforddio drwy’r amser.

"Mae ein polisi ni yn fforddiadwy gan y byddai’n cael ei gyflwyno yn raddol, gyda’r pensiynwyr hynaf a mwyaf bregus ar eu hennill gyntaf. Rym ni ym Mhlaid Cymru yn deall nad yw pensiynwyr sydd yn byw mewn tlodi yn gwneud cais am gredit pensiwn a ry’ ni’n gwybod bod nifer o bensiynwyr mewn tlodi yn wynebu costau gofal anferth.”

Ychwanegodd Myfanwy Davies:

"Byddai ein cynllun Pensiwn at Fyw yn sicrhau incwm teilwng i bensiynwyr yn dechrau gyda’r hynaf. Dyma’r peth iawn i’w wneud ond mae hefyd yn gam ymarferol i helpu’r bobl mwyaf bregus yn ein cymunedau ac i sianeli gwariant y mae mawr ei angen ar ein busnesau bychain lle mae pobl hŷn yn tueddu siopa.

Mae Llafur a’r Torϊaid am y gorau yn ceisio torri gwariant cyhoeddus holl bwysig tra ein bod yn dal i ddioddef canlyniadau’r dirwasgiad. Dyma economeg y gwallgofdy. Gwariant cyhoeddus yw’r unig beth sydd yn cadw’r economy i fynd fel ag y mae. Y mae’n rhaid i ni gefnogi y mwyaf bregus yn ein cymunedau trwy’r cyfnod caled”.

Wednesday 20 January 2010

Plaid yn beirniadu polisi y Rhyddfrydwyr y byddai’n dileu sedd Seneddol Llanelli

Mae Helen Mary Jones AC Llanelli ac Ymgeisydd Seneddol y Blaid yn Llanelli Myfanwy Davies wedi ymosod ar gynlluniau’r Democratiaid Rhyddfrydol a fyddai’n atal Llanelli rhag cael cynrychiolaeth yn Sansteffan.

Mae gwelliannau’r Rhyddfrwydwr i’r Cynnig ar Ddiwigio Cyfansoddiadol a Rheoleiddio, sydd i'w drafod yn y Senedd yr wythnos nesaf, yn rhoi amgrym glir o flaenoriaethau gwyrdroëdig y Rhyddfrydwyr.

Dywedodd Ms Jones y dylid trosglwyddo pŵerau ASau i Gymru cyn torri ar y nifer.

Byddai cynlluniau’r Rhyddfrydwyr yn bygwth cynrychiolaeth Cymru yn Sansteffan ac yn gadael Llanelli heb lais yn Llundain.

Dywedodd Helen Mary Jones:

"Mae’r cynlluniau hyn yn dangos sut y mae’r Rhyddfrydwyr yn ceisio gwanhau llais Cymru yn Sansteffan. Mae eu cynlluniau yn dangos y byddai dim ond 4 AS i gynrychioli Gorllewin Cymru, gan olygu y byddai Llanelli ar ei cholled. Mae ar bobl angen deall bod gan Lanelli anghenion penodol ac felly bod arni angen cael ei llais ei hun.

“Rydym angen AS i gynrychioli Llanelli yn Sansteffan – AS Plaid Cymru a fydd yn sefyll lan dros ei chymuned – ac yn bwysicach fydd a fydd yn deyrngar ir gymuned leol”.

Ychwanegodd Myfanwy Davies:

“Os y gwelwn lleihad yn nifer yr ASau Cymreig nawr, pwy fydd yn sefyll dros fuddianau Cymru yn Llundain lle y gwneir penderfyniadau tyngedfennol o hyd? Yn fwy na hynny, pwy fydd yn sefyll dros Lanelli?

Unwaith mae gan y Cynulliad fwy o reolaeth dros faterion Cymreig, y bydd yna achos gwell i edrych ar nifer yr ASau sydd gennym. Tan hynny, bydd torri nifer ASau Cymru yn gwneud dim ond gwanhau ein llais ar y lefel honno, yn enwedig yn achos rhywle fel Llanelli.

Mae Llanelli yn gymuned gref ac agos – rwy’n gwybod y byddai pobl y dref yn gwylltio at y cynlluniau hyn. Y mae'n amlwg nad yw'r Rhyddfrydwyr yn deall llais Llanelli"

Monday 11 January 2010

Mae’r frwydr i warchod Cartrefi Gofal yn cynyddu

Mae perthnasau preswylwyr y cartrefi am gynyddu'r ymgyrch i frwydro yn erbyn cau’r cartrefi gofal yn ardal Llanelli. Os bydd cynlluniau’r Cyngor Sir i gau Caemaen a St Pauls yn dod i rym bydd dros hanner cant o breswylwyr bregus yn wynebu cael eu troi allan o’u cartrefi,a bydd hyd yn oed mwy o swyddi yn cael eu colli yn yr ardal.

Yn ôl ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Cyngor Sir Caerfyrddin, gynlluniau drafft i gau pedwar cartref gofal yn Sir Gaerfyrddin, hyn oll yn rhan o’u cynllun i ariannu gwasanaethau gofal yn y cartref yn yr ardal.

Yn y cyfarfod cyhoeddus diweddaraf dydd Gwener, fe wnaeth ymgyrchwyr anfoddog unwaith eto fynegi eu gofid, ac fe gytunwyd ar drefnu eiriolwyr i’r preswylwyr. Gwnaeth grwpiau Caemaen a St Paul gytuno i ymuno mewn un grŵp gweithredu i sicrhau gwell canolbwyntio.

Mae Myfanwy a Helen Mary wedi cefnogi ymgyrchwyr drwy ddrafftio llythyron a fydd yn cael eu hanfon at wahanol Gynghorwyr oddi wrth aelodau’r grŵp yn y dyddiau nesaf. Bydd Helen Mary hefyd yn cyfarfod â’r Gweinidog Iechyd Edwina Hart a’r dirprwy weinidog dros wasanaethau cymdeithasol, Gwenda Thomas, yr wythnos hon i drafod y mater.

Mae nifer o deuluoedd y preswylwyr yn poeni’n ddirfawr am effeithiau difrifol ar iechyd y preswylwyr os bydd rhaid iddynt symud. Amcangyfrifir ymhlith y rhai a symudir o’u cartref, bod drawma trosglwyddo sef y gost emosiynol o symud o’r cartref yn erbyn eich ewyllus, yn arwain at farwolaeth 30% o breswylwyr.

Dywedodd Deryk Cundy, sydd a’i dad yn un o breswylwyr Caemaen:

"Rydym yn benderfynol o ymladd yn erbyn y cynlluniau gwarthus yma i gau Caemaen a St Paul. Dyma esiampl arall o’n henoed bregus yn dioddef o achos cynlluniau’r Cyngor i arbed arian. Sut fyddech chi’n teimlo petaech yn colli eich cartref am dalu eich rhent?

Yn barod mae’r Cyngor yn newid defnydd Llys y Bryn, drwy newid llefydd gofal preswyl gyda 12 gwely adferiad, a symud 7 gwely seibiant a oedd yno, i gartref St Pauls. Mae hyn mewn gwirionedd yn lleihau llefydd gofal preswyl o 19 lle - dwyn drwy dwyll.

Mae’r Cyngor yn ceisio cael gwared â’r hyn fyddwn ni ei angen yn y dyfodol.

Hyd yn oed yn ôl ffigurau’r Cyngor fe fyddwn, o fewn 6 mlynedd, a 10% o’r henoed angen llefydd gofal. Yn Llanelli mae hyn yn gyfystyr a 103 o lefydd- os bydd y cartrefi gofal yn cau yn Llanelli fe fyddwn yn fyr o 162 o lefydd yn 2016 gyda chanlyniadau trychinebus i’r gymuned gyfan.

Credaf fod gan bawb yr hawl i lefelau uchel o ofal a diogelwch, yn awr ac yn y dyfodol, i mi, i chwi, eich teuluoedd a’ch ffrindiau. Mae’r bobl rydym yn ceisio’u gwarchod yn fregus, yn ddibynnol ar eraill ac sy’n methu a gofalu am ei hunain .

Mae gennym rhai Cartrefi Awdurdod Lleol gwych - gyda staff gofalgar sy’n rhoi gofal arbennig, sy’n brin iawn yn ein byd ni heddiw. Dyma ofal rydym yn gallu dibynnu arno i ddarparu amgylchedd diogel - yr hyn a ddisgwylir gan ein henoed ac sy’n hawl iddynt.

Pam dylai hyn gael ei ddwyn oddi arnom ?”


Dywedodd Helen Mary Jones, AC lleol Llanelli:

“Mae angen i’r Cyngor edrych ar ffyrdd llawer mwy creadigol o arbed arian yn hytrach na lleihau gwasanaethau sy’n angenrheidiol i’n henoed. Mae angen i Lanelli fod yn le nad yw pobl yn ofni mynd yn hen, gan wybod y bydd gofal iddynt yn y dyfodol. Byddaf yn cyfarfod â’r gweinidog Iechyd yn ogystal â’r dirprwy weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yr wythnos hon i drafod pa fath o gefnogaeth gall Llywodraeth y Cynulliad ei gynnig.”


Ychwanegodd Myfanwy Davies, Ymgeisydd Seneddol y Blaid yn Llanelli :

“Mae symud yr henoed o’u cartrefi yn peri gofid ac o bosib bydd rhai o’r henoed yma ddim yn goroesi’r symudiad. Ni ddylai ein henoed gael eu haberthu er mwyn syniadau hanner pan y Cyngor ynglŷn â phreifateiddio, a dyw’r Cyngor ddim hyd yn oed yn gwybod cost y rhaglenni newydd yma."

Sunday 10 January 2010

Plaid wedi cythruddo gan gynlluniau’r Cyngor i dorri gwasanaethau pobl ifanc anabl

Mae AC lleol Llanelli Helen Mary Jones ac Ymgeisydd y Blaid am Sansteffan Myfanwy Davies wedi datgan eu hanfodlonrwydd gyda chynlluniau arfaethedig y Cyngor i wneud toriadau enfawr yng nghyllideb gwasanaethau dysgu’r anabl a gwasanaethau yn ymwneud ag ysgolion arbennig, fel ran o’u cynllun i wneud arbedion enfawr dros y tair blynedd nesaf .
Mae’r cynlluniau i dorri £460,000 y flwyddyn oddi ar wasanaethau i bobl ifanc anabl yn rhan o gyfres o gynigion gan y Cyngor Sir mewn ymateb i’r toriadau enfawr a orfodwyd gan Lywodraeth Llundain o ganlyniad i achub y banciau . Mae Helen Mary a Myfanwy yn poeni’n arw am effeithiau toriadau o’r fath ar y rhai sydd ag anableddau dysgu yn ardal Llanelli.

Dywedodd Helen Mary Jones, o’r Blaid :
"Mae’r cynlluniau yma i wneud toriadau yng nghyllideb anableddau dysgu yn hollol annerbyniol .Mae angen i’r Cyngor wneud arolwg cynhwysfawr ar wariant ac o hynny adnabod y gwasanaethau nad oes eu hangen . Mae gorddefnydd ar wasanaethau fel y mae, ac mae’n annheg taw ein pobl ifanc bregus sy’n dioddef . O ganlyniad i doriadau yng nghyllideb Cymru gan Lywodraeth Llafur Llundain mae’r gwasanaethau hanfodol i blant a’r henoed yn teimlo’r straen yn barod . Mae Myfanwy a finnau yn ymroddedig i warchod ein gwasanaethau hanfodol megis ysgolion ac ysbytai .”

Ychwanegodd Ymgeisydd Seneddol y Blaid, Myfanwy Davies:

“Mae'r rhain yn wasanaethau sy’n hollol hanfodol i’r bobl yn Llanelli. Ni ddylai pobl gydag anableddau dysgu a’u teuluoedd wneud heb y gefnogaeth a’r addysg angenrheidiol . Wrth gwrs, mae’n rhaid i’r Cyngor Sir wneud toriadau , ond ni allwn sefyll a gwylio tra eu bod yn gwneud toriadau mewn gwasanaethau i’r rhai mwyaf bregus a pharhau i wario ein harian ar bethau di- angen sy’n cynnwys noddi, marchnata a lletygarwch . Mae’r toriadau yma yn dangos yn glir Bod y Cyngor yng Nghaerfyrddin heb ystyried ein hanghenion yma yn Llanelli.”