Showing posts with label Pobl hyn. Show all posts
Showing posts with label Pobl hyn. Show all posts

Tuesday, 30 March 2010

Mae Myfanwy a Helen Mary’n croesawu’r newid llwyr ynglŷn â chefnogaeth i’r hŷn a’r anabl yn dilyn pwysau gan Y Blaid

Mae Dr. Myfanwy Davies, darpar ymgeisydd Y Blaid yn Llanelli, a Helen Mary Jones, AC lleol Y Blaid, wedi croesawu’r newid llwyr gan y Blaid Lafur ynglŷn â’r gefnogaeth i bobl hŷn anabl. Cyn hyn bu’r Lwfans Gweini a’r Lwfans Byw i’r Anabl dan fygythiad er mwyn talu am gynlluniau Llywodraeth yn Lloegr.

Mae’r Llywodraeth wedi addo nawr na fwriedir eu newid mwyach yn y Senedd nesaf.

‘Roedd Myfanwy a Helen Mary wedi cefnogi ymgyrchwyr anabledd a phensiynau lleol wrth frwydro yn erbyn y bygythiad ac wedi gweithio’n glos gyda’u cyd weithwyr yn Y Blaid yn San Steffan i wrthwynebu’r newidiadau hyn a fyddai wedi golygu bod miloedd o bobl hŷn a bregus yn Llanelli ar gyfartaledd rhwng £65 a £75 yr wythnos yn waeth eu byd.

Dywedodd Dr. Davies:


“Nid cyn pryd mae’r newid llwyr hwn yn digwydd - er y byddai rhai’n dueddol o gwestiynu ei amseriad yn union cyn etholiad cyffredinol”.

Ar draws Llanelli mae 4,000 o bobl yn dibynnu ar Lwfans Gweini tra bo 8,000 yn dibynnu ar Lwfans Byw i’r Anabl.


“Mae’r bobl hyn i gyd naill ai’n anabl neu dros 65 mlwydd oed, y grwpiau lleiaf abl i fyw ar eu pennau eu hunain a gofalu amdanynt eu hunain.

Mae’r cynigion a wnaeth Llafur yr haf diwethaf yn rhoi pwysau anferth ar ein pobl fwyaf bregus. Mae’n gwbl anghywir bod cymaint ohonynt a’u teuluoedd wedi gorfod byw gyda’r ansicrwydd ynglyn â sut y medrent fyw’n annibynnol pe bai’r gynhaliaeth hon yn cael ei dwyn oddi arnynt”.

“’Roedd yn annerbyniol bod y Llywodraeth wedi awgrymu’r toriadau creulon hyn yn y lle cyntaf”.

“Dydyn nhw ddim yn gwneud ffafr â’n pobl fwyaf bregus trwy symud y bygythiad a ddaeth oddi wrthynt hwy eu hunain”.

Ychwanegodd Helen Mary:

“’Rydym wedi ymladd y newidiadau hyn byth oddi ar iddynt gael eu hawgrymu gyntaf a buom yn cefnogi grwpiau iawnderau’r anabl a phensiynwyr yn lleol trwy roi pwysau ar y Llywodraeth i newid eu meddwl”.

“Mae’n amlwg bod y pwysau cyfunol wedi helpu’r Llywodraeth tuag at y trawsnewidiad munud olaf hwn”.

“Ni ddylai fod angen i ni amddiffyn cynhaliaeth y mwyaf bregus ond, tro ar ôl tro, bu rhaid i ni wneud hynny. Mae angen i benderfyniadau ynglyn â chynhaliaeth i’n pobl fwyaf bregus gael eu gwneud gan y Cynulliad yng Nghaerdydd fel y gallwn osgoi’r trallod i gynifer o bobl hŷn ac anabl a ddeuai trwy’r toriadau creulon hyn a fwriadwyd gan Lafur yn y lle cyntaf”.

Monday, 25 January 2010

Plaid : Angen codi pris alcohol i achub ein tafarnau traddodiadol

Y mae Helen Mary Jones, AC Plaid Cymru Llanelli a Myfanwy Davies, ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn Llanelli, wedi datgan y dylai pris alcohol gael ei leihau er mwyn achub ein tafarndai lleol traddodiadol.

Mae Myfanwy a Helen Mary am weld cyflwyno prisiau llai ar alcohol i helpu tafarndai traddodiadol yn eu brwydr yn erbyn prisiau rhad yn yr archfarchnadoedd. .Yn ogystal â chynorthwyo’r tafarndai dan fygythiad maent yn credu y byddai codi pris alcohol rhad yn atal pobl ifanc rhag yfed yn wirion a hefyd yn lleihau lefelau tor- cyfraith.

Mae nifer o landlordiaid lleol wedi lleisio’u pryder gyda Helen Mary a Myfanwy, ac wedi sôn am y trafferthion maent yn eu hwynebu wrth geisio ymladd i gystadlu gyda phrisiau isel alcohol mewn archfarchnadoedd.

Croesawodd Helen Mary a Myfanwy'r argymhellion mewn adroddiad diweddar gan Bwyllgor Iechyd Tŷ’r Cyffredin i gyflwyno isafswm pris ar alcohol. Gwnaeth argymhellion eraill gynnwys gwaharddiad ar hysbysebion sy’n weledol i blant a gwaharddiad ar hysbysebu alcohol ar wefannau rhwydweithio cymdeithasol .

Bydd Helen Mary a Myfanwy yn dosbarthu holiadur yn yr wythnosau nesaf i ‘r holl dafarndai yn etholaeth Llanelli yn gofyn iddynt a hoffent weld cyflwyniad o isafswm o bris ar alcohol.

Dywedodd Helen Mary Jones:

"Mae tystiolaeth gref iawn oddi wrth y BMA, ymhlith eraill , fod cyflwyno isafswm pris ar alcohol yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr yn y frwydr yn erbyn y diwylliant gor-yfed gwirion.

Mae’r prisiau cyfredol isel mewn archfarchnadoedd yn wael iawn i’n tafarndai cymunedol, sy’n methu a chystadlu ar brisiau. Mae landlordiaid yn darganfod fod eu cwsmeriaid wedi yfed llawer cyn ,hyd yn oed, cyrraedd y dafarn , ac o bosib byddai landlordiaid cyfrifol yn teimlo na ddylent werthu mwy o alcohol iddynt.

Fe fyddwn yn gwneud arolwg o holl dafarndai yn ardal Llanelli i ddarganfod beth yw safbwynt y landlordiaid ar gyflwyno isaf -bris ar alcohol a hefyd pa gamau eraill i gefnogi eu busnesau yr hoffent weld y Llywodraeth yng Nghaerdydd neu yn Llundain eu gwneud.

Mae gan y dafarn leol rhan bwysig i chwarae yn y gymuned ac mae llawer gormod ohonynt wedi’u colli yn y blynyddoedd diwethaf. Hoffwn weld beth yn union fedrwn wneud i gefnogi'r tafarndai cymunedol sydd yn weddill yn ardal Llanelli, ac i sicrhau bod ganddynt ddyfodol llewyrchus”.

Ychwanegodd Myfanwy :

" Rydym yn gweld lefelau pryderus o uchel o alcoholiaeth yn Llanelli wrth i bobl yfed mwy ar eu pennau ei hunain yn eu cartrefi .Mae pobl hefyd yn prynu diodydd llawer cryfach nag oeddynt yn y gorffennol. Mae mor hawdd i brynu fodca rhad iawn ,a gwirodydd eraill, yn ein harchfarchnadoedd ac mae’r pris isel yn annog pobl i yfed llawer mwy, wrth iddynt yfed yn eu cartrefi cyn mynd allan am noson yn y dre.

Mae gan dafarndai cymunedol rôl bwysig i chwarae drwy helpu pobl i yfed yn gyfrifol. Maent yn cynnig mwy nag yfed yn unig, gan eu bod yn llefydd i gyfarfod yn gymdeithasol ac yn llefydd i bobl hŷn gael cwmnïaeth a chefnogaeth cymdeithasol.

Rydym yn gwybod fod ein tafarndai cymunedol yn wynebu amser anodd iawn ac rydym am gynnig iddynt help ymarferol.”

Friday, 22 January 2010

Byddai pensiynwyr yn Llanelli are eu hennill dan gynlluniau’r Blaid am “Bensiwn at Fyw”

Byddai dros 17,000 o bensiynwyr yn Llanelli are eu hennill o dan addewid etholiadol Plaid Cymru i gynyddu pensiwn y wladwriaeth 30% medd yr AC lleol, Helen Mary Jones, ac ymgeisydd seneddol y Blaid, Myfanwy Davies.

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi amlinellu cynnig ei blaid yn yr etholiad cyffredinol sydd i ddod mewn araith allweddol yn Nhwm Cynon (18/01). Mae eu haddewid yn dod wrth i ffigurau ddangos bod £5.4 biliwn o fudd-daliadau i bobl hŷn heb eu hawlio yn y DU pob blwyddyn am fod pensiynwyr yn teimlo bod y broses o hawlio yn gymhleth ac yn ymwthiol.

Mae Plaid yn ymgyrchu dros Bensiwn at Fyw. Golygai bod pob pensiynwr yn cael pensiwn mwy – a fyddai y flwyddyn nesaf yn dod i £202 yr wythnos i bâr. Byddai’r addewid yn cael ei wireddu’n raddol, gan ddechrau gyda’r hynaf a’r mwyaf bregus dros 80 oed.

Dywedodd Helen Mary Jones, AC Llanelli:

"Gyda chynnydd brawychus o 74% mewn marwolaethau o achos y tywydd oer yng Nghymru y llynedd, mae’n rhaid i dlodi ymhlith pensiynwyr a gwarchod gwasanaethau cyhoeddus allweddol gymryd blaenoraieth dros daliadau ychwanegol i fancwyr, arfau niwclar a chardiau adnabod.

Mae’r Torϊaid eisiau cyflwyno trethu annheg. Mae Llafur Newydd eisiau cadw diwylliant porthi’r banciau ac aeth hygrededd y Lib Dems ar goll pan wnaeth Clegg gydnabod eu bod wedi bod yn gwneud addewidion na allent eu fforddio drwy’r amser.

"Mae ein polisi ni yn fforddiadwy gan y byddai’n cael ei gyflwyno yn raddol, gyda’r pensiynwyr hynaf a mwyaf bregus ar eu hennill gyntaf. Rym ni ym Mhlaid Cymru yn deall nad yw pensiynwyr sydd yn byw mewn tlodi yn gwneud cais am gredit pensiwn a ry’ ni’n gwybod bod nifer o bensiynwyr mewn tlodi yn wynebu costau gofal anferth.”

Ychwanegodd Myfanwy Davies:

"Byddai ein cynllun Pensiwn at Fyw yn sicrhau incwm teilwng i bensiynwyr yn dechrau gyda’r hynaf. Dyma’r peth iawn i’w wneud ond mae hefyd yn gam ymarferol i helpu’r bobl mwyaf bregus yn ein cymunedau ac i sianeli gwariant y mae mawr ei angen ar ein busnesau bychain lle mae pobl hŷn yn tueddu siopa.

Mae Llafur a’r Torϊaid am y gorau yn ceisio torri gwariant cyhoeddus holl bwysig tra ein bod yn dal i ddioddef canlyniadau’r dirwasgiad. Dyma economeg y gwallgofdy. Gwariant cyhoeddus yw’r unig beth sydd yn cadw’r economy i fynd fel ag y mae. Y mae’n rhaid i ni gefnogi y mwyaf bregus yn ein cymunedau trwy’r cyfnod caled”.

Monday, 11 January 2010

Mae’r frwydr i warchod Cartrefi Gofal yn cynyddu

Mae perthnasau preswylwyr y cartrefi am gynyddu'r ymgyrch i frwydro yn erbyn cau’r cartrefi gofal yn ardal Llanelli. Os bydd cynlluniau’r Cyngor Sir i gau Caemaen a St Pauls yn dod i rym bydd dros hanner cant o breswylwyr bregus yn wynebu cael eu troi allan o’u cartrefi,a bydd hyd yn oed mwy o swyddi yn cael eu colli yn yr ardal.

Yn ôl ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Cyngor Sir Caerfyrddin, gynlluniau drafft i gau pedwar cartref gofal yn Sir Gaerfyrddin, hyn oll yn rhan o’u cynllun i ariannu gwasanaethau gofal yn y cartref yn yr ardal.

Yn y cyfarfod cyhoeddus diweddaraf dydd Gwener, fe wnaeth ymgyrchwyr anfoddog unwaith eto fynegi eu gofid, ac fe gytunwyd ar drefnu eiriolwyr i’r preswylwyr. Gwnaeth grwpiau Caemaen a St Paul gytuno i ymuno mewn un grŵp gweithredu i sicrhau gwell canolbwyntio.

Mae Myfanwy a Helen Mary wedi cefnogi ymgyrchwyr drwy ddrafftio llythyron a fydd yn cael eu hanfon at wahanol Gynghorwyr oddi wrth aelodau’r grŵp yn y dyddiau nesaf. Bydd Helen Mary hefyd yn cyfarfod â’r Gweinidog Iechyd Edwina Hart a’r dirprwy weinidog dros wasanaethau cymdeithasol, Gwenda Thomas, yr wythnos hon i drafod y mater.

Mae nifer o deuluoedd y preswylwyr yn poeni’n ddirfawr am effeithiau difrifol ar iechyd y preswylwyr os bydd rhaid iddynt symud. Amcangyfrifir ymhlith y rhai a symudir o’u cartref, bod drawma trosglwyddo sef y gost emosiynol o symud o’r cartref yn erbyn eich ewyllus, yn arwain at farwolaeth 30% o breswylwyr.

Dywedodd Deryk Cundy, sydd a’i dad yn un o breswylwyr Caemaen:

"Rydym yn benderfynol o ymladd yn erbyn y cynlluniau gwarthus yma i gau Caemaen a St Paul. Dyma esiampl arall o’n henoed bregus yn dioddef o achos cynlluniau’r Cyngor i arbed arian. Sut fyddech chi’n teimlo petaech yn colli eich cartref am dalu eich rhent?

Yn barod mae’r Cyngor yn newid defnydd Llys y Bryn, drwy newid llefydd gofal preswyl gyda 12 gwely adferiad, a symud 7 gwely seibiant a oedd yno, i gartref St Pauls. Mae hyn mewn gwirionedd yn lleihau llefydd gofal preswyl o 19 lle - dwyn drwy dwyll.

Mae’r Cyngor yn ceisio cael gwared â’r hyn fyddwn ni ei angen yn y dyfodol.

Hyd yn oed yn ôl ffigurau’r Cyngor fe fyddwn, o fewn 6 mlynedd, a 10% o’r henoed angen llefydd gofal. Yn Llanelli mae hyn yn gyfystyr a 103 o lefydd- os bydd y cartrefi gofal yn cau yn Llanelli fe fyddwn yn fyr o 162 o lefydd yn 2016 gyda chanlyniadau trychinebus i’r gymuned gyfan.

Credaf fod gan bawb yr hawl i lefelau uchel o ofal a diogelwch, yn awr ac yn y dyfodol, i mi, i chwi, eich teuluoedd a’ch ffrindiau. Mae’r bobl rydym yn ceisio’u gwarchod yn fregus, yn ddibynnol ar eraill ac sy’n methu a gofalu am ei hunain .

Mae gennym rhai Cartrefi Awdurdod Lleol gwych - gyda staff gofalgar sy’n rhoi gofal arbennig, sy’n brin iawn yn ein byd ni heddiw. Dyma ofal rydym yn gallu dibynnu arno i ddarparu amgylchedd diogel - yr hyn a ddisgwylir gan ein henoed ac sy’n hawl iddynt.

Pam dylai hyn gael ei ddwyn oddi arnom ?”


Dywedodd Helen Mary Jones, AC lleol Llanelli:

“Mae angen i’r Cyngor edrych ar ffyrdd llawer mwy creadigol o arbed arian yn hytrach na lleihau gwasanaethau sy’n angenrheidiol i’n henoed. Mae angen i Lanelli fod yn le nad yw pobl yn ofni mynd yn hen, gan wybod y bydd gofal iddynt yn y dyfodol. Byddaf yn cyfarfod â’r gweinidog Iechyd yn ogystal â’r dirprwy weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yr wythnos hon i drafod pa fath o gefnogaeth gall Llywodraeth y Cynulliad ei gynnig.”


Ychwanegodd Myfanwy Davies, Ymgeisydd Seneddol y Blaid yn Llanelli :

“Mae symud yr henoed o’u cartrefi yn peri gofid ac o bosib bydd rhai o’r henoed yma ddim yn goroesi’r symudiad. Ni ddylai ein henoed gael eu haberthu er mwyn syniadau hanner pan y Cyngor ynglŷn â phreifateiddio, a dyw’r Cyngor ddim hyd yn oed yn gwybod cost y rhaglenni newydd yma."

Wednesday, 2 December 2009

Helen Mary a Myfanwy wrth eu bodd fod cynlluniau i gau cartrefi preswyl wedi’u rhoi o’r neilltu

Mae Helen Mary Jones, AC Llanelli a Myfanwy Davies ymgeisydd seneddol y Blaid dros Lanelli, yn hynod o falch fod cynlluniau’r Cyngor i gau Cartrefi Gofal Caemaen a St Paul wedi eu rhoi o’r neilltu . Yr wythnos diwethaf fe wnaeth y ddwy, Helen Mary a Myfanwy addo’u cefnogaeth i’r grŵp gweithredu a fu mor weithgar yn ymladd yn erbyn y cynlluniau yma i gau’r cartrefi.

Roedd y Cyngor Sir am gau’r cartrefi yma er mwyn ariannu gwasanaethau newydd ‘gofal yn y cartref’ ond doedd dim darpariaeth am unrhyw ofal i’r preswylwyr tra bod y cynlluniau newydd yn cael eu trefnu a hefyd doedd dim manylion o’r costau na’r arbedion ar gael . Doedd dim manylion yn y cynlluniau ynglŷn â ble y byddai preswylwyr ,a oedd yn rhy wan i dderbyn gofal yn y cartref ,yn mynd; ac roedd sylwadau rhai swyddogion am leoedd gweigion mewn cartrefi preifat yn codi ofnau ymhlith y preswylwyr y byddent ,yn y pen draw, yn cael eu hanfon allan o ofal y Cyngor.

Ddoe teithiodd Myfanwy i Gaerfyrddin mewn fflyd o ddau fws o brotestwyr o gartref Caemaen i helpu i lobio cynghorwyr wrth iddynt gyrraedd am gyfarfod o Bwyllgor Archwiliad y Cyngor Sir . Yn ystod y cyfarfod fe wnaeth aelodau o’r grŵp Plaid Cymru dynnu sylw ,dro ar ôl tro ,at y gwendidau yn yr adroddiad a rhybuddio hefyd am ymgais y Cyngor i geisio preifateiddio gofal drwy dwyll. Roedd y protestwyr wrth ei bodd gan i’r grŵp Plaid fynnu pleidlais i wrthod y cynlluniau fel cyfanwaith. Bydd grŵp gorchwyl a gorffen yn ystyried y cynlluniau newydd mewn manylder.

Dywedodd Helen Mary Jones o’r Blaid:
“Rydw i wrth fy modd bod Pwyllgor Archwiliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cyngor wedi gwrthod y cynnig i gau cartrefi St Paul a Caemaen. Beth bynnag, rydw i’n pryderi y bydd trafodaethau'r grŵp gorchwyl a gorffen yn cyrraedd yr un penderfyniad ond tu cefn i ddrysau caeedig.

Fe fu ymgyrch wych yn y gymuned i gefnogi’r gofal a ddarperir yn Nghaemaen a St Paul , ac mae Myfanwy a finnau wedi bod yn hollol gefnogol o’r gwaith caled a fu . Byddaf yn parhau i gefnogi’r rheiny sy’n ymgyrchu i gadw’r ddarpariaeth yma i’r bobl sydd ei eisiau a’i angen.”

Ychwanegodd Myfanwy :
“Doedd cynlluniau’r cyngor heb eu gwir hystyried ac roedd yn hollol iawn i aelodau Plaid o’r Pwyllgor Archwiliad i wrthod y cynlluniau yn unol â hyn . Mae yn hollol anghywir i wneud arbedion ar draul ein pobl fwyaf bregus ond mae’n debyg nad oedd y Cyngor, hyd yn oed, wedi cyfrif y gost a heb ystyried chwaeth sut y byddai preswylwyr yn derbyn gofal tra bod y llety newydd yn cael ei adeiladu .
Mae symud yr henoed o’u cartrefi yn peri gofid ac o bosib bydd rhai ddim yn goroesi’r symudiad . Rydw i wrth fy modd ein bod wedi ennill y frwydr gyntaf yn y rhyfel yma. Ni aberthir ein henoed er mwyn syniadau hanner- pan y Cyngor am breifateiddio”

Wednesday, 25 November 2009

Helen Mary a Myfanwy yn ymosod yn llym ar yr ymgynghoriad ffug ar gynllun y Cyngor ar gyfer henoed Llanelli.

Yn dilyn cyfarfod gorlawn yng Nghartref Preswyl Caemaen neithiwr, condemniodd Helen Mary Jones AC a Myfanwy Davies ymgeisydd etholiad San Steffan y Blaid y ffordd cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal gan swyddogion ac yn galw ar Pat Jones, aelod y Bwrdd Gweithredol dros ofal cymdeithasol, i gymryd y cyfrifoldeb am ei phenderfyniad a’r modd cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal.

Yn “Llanelli Star” yr wythnos diwethaf cafwyd adroddiad yn sôn am gynlluniau’r cyngor i gau cartrefi preswyl Caemaen a St Paul’s yn Llanelli. O ganlyniad i’r newyddion ceisiodd a chafodd Myfanwy a Helen sicrwydd mewn llythyr o eiddo Bruce McLearnon, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor Sir, bod pob opsiwn yn dal yn agored a bod penderfyniad i gau’r cartrefi heb ei wneud eto.

Er hynny, neithiwr cadarnhaodd Bruce McLearnon, gyda chefnogaeth Sheila Porter sy’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Integredig, mai cau Caemaen oedd y cynllun roedd ef yn ei ffafrio gan ddarparu gwasanaethau cefnogol i unigolion yn eu cartrefi, gwasanaeth a adwaenir fel “gofal ychwanegol”. Siaradodd Ms Porter - a gyflogwyd gan y Cyngor yn ddiweddar sydd wedi datblygu rhaglenni “gofal ychwanegol” yn Bromley - yn frwd, os nad yn ymosodol, dros ei safbwynt llawer gwaith gan daweli’r preswylwyr a’r teuluoedd oedd yn bresennol er mwyn hyrwyddo’r dull dadleuol hwn o ofal sydd wedi profi’n fethiant yn Lloegr.

Drwy’r cyfarfod pwysleisiodd y Cyfarwyddwr taw’r angen i gwtogi costau oedd prif gymhelliad y cynllun. Mynegodd y preswylwyr a’r teuluoedd yn y cyfarfod gorlawn eu gwrthwynebiad cryf i’r cynllun cau gyda’r preswylwyr yn dangos eu dymuniad i aros yn Caemaen drwy bleidleisio’n unfrydol i wneud hynny.

Dywedodd Helen Mary Jones o Blaid Cymru: “Cafodd Myfanwy a minnau sicrwydd bod yr holl opsiynau yn dal yn bosib. O ran Cyngor Sir Caerfyrddin mae’n eglur nad ydynt ac mae hefyd yn glir taw resymau ariannol sydd du cefn i’r penderfyniadau hyn. Mae’n wir fod llai o arian ar gael a dylai rhai o’r aelodau seneddol a bleidleisiodd i achub y banciau archwilio’u cydwybod, er bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn dal i fedru canfod arian ar gyfer prosiectau rhodresgar a chyhoeddusrwydd iddo’i hun. Nid yw’n dderbyniol bod swyddogion yn camarwain teuluoedd a phreswylwyr drwy awgrymu bod Caemaen yn mynd yn groes i safonau gofal am nad oes cyfleusterau “en-suite” yno. Nid yw hynny’n wir. Yn ystod y cyfarfod roedd swyddogion yn rhyw led awgrymu mai bwriad eu cynlluniau oedd ceisio gwarchod urddas yr henoed rhywfodd. Sut bynnag, dangosodd y preswylwyr oedd yn bresennol eu barn unfrydol drwy godi dwylo’n gytûn. Pa faint o urddas y mae gwrthod eu dymuniadau yn gosod arnom ni?”

Ychwanegodd Myfanwy:
“Ar ôl cael sicrwydd gan Mr McLearnon aeth Helen Mary a minnau i’r cyfarfod â meddyliau agored. Erbyn hyn mae’n glir bod swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin eisoes wedi gwneud eu meddyliau i fyny. Yn wir, pan ofynnodd preswylwyr a theuluoedd p’un ai oedd eu gwrthwynebiad hwy wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i farn y Cyfarwyddwr, na oedd ei ateb. Mae hyn yn brawf trawiadol bod angen i Gynghorydd Llafur Porth Tywyn, Pat Jones, sy’n arwain yn y maes Gofal Cymdeithasol sefyll i fyny a chymryd cyfrifoldeb am ei phenderfyniad ac am ymddygiad ei swyddogion.”
“Yn gyffredinol rwy’n cefnogi cynlluniau i gadw pobl yn eu cartrefi ac yn annibynnol pan fydd cefnogaeth briodol iddynt, ond mater o dristwch yw mai prin yw’r enghreifftiau o’r fath gynlluniau yn gweithio. Clywsom neithiwr fel nad oedd preswylwyr yn Caemaen wedi medru aros yn eu cartrefi gyda chefnogaeth y gofal cartref cyfredol gyda rhai wedi dioddef esgeulustod difrifol o ganlyniad i’r gwasanaeth gofal cartref. Yn sicr, nid yw’n dderbyniol i symud yr henoed yn erbyn eu hewyllys.”

Mae Myfanwy a Helen wedi addo cefnogi’r grŵp gweithredol fydd yn brwydro yn erbyn y cynlluniau i gau’r cartrefi.


DIWEDD

Tuesday, 24 November 2009

Helen Mary a Myfanwy yn taro nôl ar yr ymgynghoriad ffug ar gynlluniau’r cyngor i’r henoed yn Llanelli

Yn dilyn cyfarfod gorlawn neithiwr yng nghartref preswyl Caemaen, gwnaeth Helen Mary Jones AC ac ymgeisydd seneddol y Blaid yn Llanelli Myfanwy Davies, gondemnio'r modd y gweithredwyd yr ymgynghoriad gan swyddogion, ac yn mynnu bod Pat Jones, y Swyddog Gweithredol yn gyfrifol am Ofal Cymdeithasol ,yn cymryd y cyfrifoldeb am ei phenderfyniad, a hefyd am y modd y gweithredwyd yr ymgynghoriad.

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth y Llanelli Star adrodd yr hanes am gynlluniau’r Cyngor i gau cartrefi preswyl Caemaen a St Pauls’ yn Llanelli. Mewn ymateb i’r newyddion yma gwnaeth Myfanwy a Helen Mary chwilio am ,a derbyn sicrwydd gan Bruce McLearnon, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Gaerfyrddin , a honnodd mewn llythyr, bod yr holl opsiynau yn agored , ac nad oedd unrhyw benderfyniad wedi’i wneud hyd yn hyn i gau’r cartrefi.

Fodd bynnag, neithiwr, fe gadarnhaodd Bruce McLearnon gyda chefnogaeth Sheila Porter, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Integredig taw ‘r cynllun yr oedd yn ei ffafrio oedd cau Caemaen a datblygu gwasanaethau cefnogaeth yn y cartref , sef ‘gofal ychwanegol’.

Drwy’r cyfarfod fe wnaeth y Cyfarwyddwr bwysleisio'r angen i dorri ar wariant fel y prif reswm am y cynllun. Roedd y trigolion a theuluoedd yn y cyfarfod llawn yma yn gwrthwynebu’r cau yn arw a gyda phleidlais llaw unfrydol roeddynt o blaid aros yng Nghaemaen.

Dywedodd Helen Mary Jones :

“Cefais i a Myfanwy sicrwydd bod yr holl opsiynau yn agored. Mae’n amlwg nad yw hyn yn wir yn ôl Cyngor Sir Gaerfyrddin ac mae hefyd yn glir bod y penderfyniadau yma yn cael eu gwneud am resymau ariannol. Oes, mae llai o arian ar gael, ac mae angen i’r ASau hynny a bleidleisiodd i achub y banciau edrych yn ofalus ar eu cydwybod yn awr, ond mae cyngor Caerfyrddin yn darganfod digon o arian i'w prosiectau arbennig ac i’w cyhoeddusrwydd ei hunain."

“Mae yn annerbyniol bod swyddogion y Cyngor yn camarwain teuluoedd drwy awgrymu bod Caemaen yn torri safonau gofal am nad oes cyfleusterau en-suite yno. Nid yw hynny’n wir. Yn ystod y cyfarfod roedd y swyddogion yn ceisio awgrymu bod eu cynlluniau yn amddiffyn urddas yr henoed. Fe wnaeth y preswylwyr a oedd yn bresennol ddangos yn glir ac yn unfrydol drwy godi llaw .Faint yw pris ei hurddas os anwybyddir eu dymuniadau?"

Ychwanegodd Myfanwy:

“Wedi derbyn sicrwydd gan Mr McLearnon, fe aeth Helen Mary a finnau i’r cyfarfod gyda meddwl agored. Ond mae’n amlwg bod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi hen benderfynu. Yn wir, pan ofynnwyd i’r Cyfarwyddwr gan y teuluoedd a’r preswylwyr, os oedd eu gwrthwynebiad nhw wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i’w safbwynt, atebodd nad oedd. Mae hyn yn ei hun yn dystiolaeth arswydus bod yn rhaid i Gynghorydd Llafur Porth Tywyn gymryd y cyfrifoldeb gwleidyddol am ei phenderfyniad a gweithredoedd ei swyddogion.”

“Yn gyffredinol byddwn yn cefnogi cynlluniau sy’n cadw pobl yn eu cartrefi ac yn annibynnol ,gyda’r gefnogaeth briodol. Ond yn anffodus, nifer fach o enghreifftiau sydd yn dangos bod hyn yn gweithio. Yn y cyfarfod neithiwr, fe glywon fel roedd rhai o breswylwyr Caemaen wedi methu ag aros yn eu cartrefi gyda’r gefnogaeth gofal fel y mae , ac mewn rhai achosion roedd rhai wedi dioddef esgeulustod difrifol o fewn y gofal yn y cartref. Nid yw’n dderbyniol bod rhaid symud hen bobl yn erbyn eu hewyllys ”.

Mae Myfanwy a Helen Mary wedi addo i gefnogi grwp ymgyrchu bydd yn ymladd y cynlluniau yma i gau’r cartrefi.