Thursday 2 July 2009

Myfanwy a Hywel Williams AS yn ymuno gyda phrotestwyr Bingo o Lanelli yn San Steffan

Heddiw ymunodd Hywel Williams AS Plaid Cymru ag ymgeisydd seneddol y Blaid yn Llanelli Dr Myfanwy Davies, gyda chwaraewyr bingo, mewn ymgyrch yn erbyn y trethi annheg ar Bingo.

Teithiodd y grŵp, dan arweiniad Nigel Griffiths, 330 o filltiroedd i ymladd dros ddyfodol eu clwb bingo drwy brotestio yn Dean’s Yard gyferbyn â San Steffan.

Gwisgai’r protestwyr fasgiau Alistair Darling gan gario nifer o blacardau. Roedd rhai hefyd yn amgylchu’r sgwâr yn eu ‘Bws Bingo’, gan ymuno mewn gêm o fingo ar y borfa i hyrwyddo’r achos.

Roedd Hywel Williams, Aelod Plaid Cymru dros Arfon wedi rhybuddio eisoes y byddai y penderfyniad i gynyddu’r dreth o 15% i 22% yn siŵr o arwain at ddirywiad mewn clybiau bingo .

Cafodd ymgyrch gan yr SNP,gyda chefnogaeth y Blaid, i wyrdroi'r penderfyniad ei drechu’n ddiweddar gan Aelodau Seneddol Llafur. Mae ffyrdd eraill o hapchwarae megis y casino a poker ar -lein yn dal ar dreth o 15%.

Dywedodd Hywel Williams AS Plaid Cymru :

“Mae’r modd mae’r llywodraeth yn ymdrin â’r sector bingo yn anghredadwy o annheg. Yn y gyllideb cyhoeddodd y Llywodraeth eu bod wedi tynnu allan y TAW ar ffioedd cyfranogiad i chwaraewyr bingo ond ar yr un pryd yn codi treth o 22 %. Nid yw hyn yn gwneud unrhyw synnwyr yn weithredol”

“Mae tegwch trethi yn hanfodol yn ystod y dirwasgiad ac mae’r dreth yma ar Neuaddau Bingo trwyddedig yn beryglus, gan ei fod yn targedu calon ein cymunedau, yn arbennig menywod hŷn a rheini o gartrefi incwm isel. Mae Neuaddau Bingo yn cynnig amgylchedd diogel a chyfeillgar i’r holl gymuned i gwrdd a chymdeithasu”

“Mae’r protestwyr wedi hyrwyddo eu hachos heddiw yn wych .Gobeithio y bydd y llywodraeth yn gweld bod y clybiau bingo a’u hetholwyr yn dioddef oherwydd baich y dreth yma”

Ychwanegodd Dr Myfanwy Davies :

“Ers imi allu cofio mae Bingo wedi bod yn rhan o fywyd Llanelli a’r peth olaf sydd ei angen ar ganol y dre yw cau’r Clwb yn Stryd Murray .”

“Mae hwn yn dreth hollol annheg a gwirion ar fwynhad pobl . Mae bingo yn cael ei drethu unwaith yn barod a does dim cyfiawnhad ar drin bingo yn wahanol i poker ar- lein neu unrhyw ffurf arall o hapchwarae.”.

“Rydym wedi dod yma heddiw i ddangos i’r aelodau seneddol hynny a bleidleisiodd dros y dreth yma nad yw’n bosib anwybyddu llais yr etholwyr”

No comments:

Post a Comment