Wednesday 22 April 2009

Y Blaid yn talu teyrnged i wirfoddolwyr a gollodd eu bywydau yn brwydo yn erbyn ffasgaeth

Ddydd Mercher diwethaf, nodwyd 70 mlynedd ers Rhyfel Cartref Sbaen lle bu pobl o Gymru, gan gynnwys Llanelli, yn gwirfoddoli frwydo yn erbyn ffasgaeth yn Sbaen. Mae Helen Mary Jones, yr AC lleol, a Dr Myfanwy, ymgeisydd y Blaid yn Llanelli ar gyfer San Steffan, wedi bod yn bwrw golwg ar draddodiad balch Llanelli o ran gwrthsefyll ffasgaeth.

Meddai Helen Mary Jones:
“Roedd cymryd rhan yn yr orymdaith a rali yn erbyn y BNP rai wythnosau yn ôl yn atgoffa am draddodiad balch Llanelli o wrthsefyll ffasgaeth, gartref a thramor. Aeth nifer fawr o Gymry, gan gynnwys rhai o Lanelli, i’r cyfandir i ymladd mewn frwydr oedd yn amlwg iddyn nhw yn frwydr dros ryddid pob un ohonom.”

Dechreuodd Rhyfel Cartref Sbaen ar ôl i rannau o’r fyddin geisio coup d’etat yn erbyn llywodraeth Ail Weriniaeth Sbaen. Roedd y rhyfel yn ddinistriol tu hwnt i Sbaen, gan bara o 17 Gorffennaf 1936 tan 1 Ebrill 1939 gyda buddugoliaeth y gwrthryfelwyr a sefydlu unbeniaeth y Ffasgydd General Francisco Franco am y 36 mlynedd nesaf.

Meddai Dr Myfanwy Davies, ymgeisydd Plaid Cymru yn Llanelli ar gyfer San Steffan:

“Rydym yn arbennoig o falch o’r ffaith bod cofeb swyddogol y tu allan i swyddfa Plaid Cymru yn Llanelli sy’n coffáu’t gwirfoddolwyr dewr a adawodd yr ardal i ymladd a marw yn Sbaen yn y rhyfel yn erbyn ffasgaeth. Yn anffodus, mae’r frwydr yn erbyn ffasgaeth yn parhau heddiw, ac mae hyd yn oed yn anoddach gyda ffasgwyr fel y BNP yn ceisio portreadu’u hunain fel plaid wleidyddol normal. Nid oes lle yn ein cymunedau i’w polisïau o atgasedd.

”Mae agwedd y BNP at bobl anabl fel baich ar gymdeithas a’r ffaith eu bod yn gwadu’r hawliau mwyaf sylfaenol i fenywod, gan gynnwys eu hamddiffyn rhag treisio a thrais yn y cartref, yn golygu nad oes modd eu derbyn fel rhan o wleidyddiaeth arferol. Alla’ i ddim dychmygu sut beth, fel person anabl neu fenyw sy’n cael ei chamdrin, fyddai gorfod troi at gynghorydd neu gynrychiolydd o’r BNP i gael help gyda phroblem.”

Mae cofeb genedlaethol i’r gwirfoddolwyr o Gymru a frwydrodd yn Rhyfel Cartref Sbaen y tu allan i Lyfrgell Glowyr De Cymru, ond nid oes cofeb sy’n enwi pob person dewr a aeth dramor i ymladd dros ddemocratiaeth.

Meddai Helen Mary Jones:
“Mae’n briodol a theilwng ein bod yn cofio, fel y byddwn yn gwneud bob blwyddyn, am y milwyr hynny a frwydrodd yn ddewr yn erbyn ffasgaeth yn yr Ail Ryfel Byd. Ond hefyd dylem gofio’r gwirfoddolwyr a welodd yr hyn oedd ar y gorwel, ac a aeth i wrthsefyll ffasgaeth yn Sbaen. Yn ddiweddar, cododd Leanne Wood, fy nghyd-aelod o’r Blaid, yr angen i godi cofeb genedlaethol yn y Senedd i goffáu’r rheini a frwydrodd ac a fu farw yn y rhyfel. Rwy’n llwyr gefnogi’r alwad hon.”

Mae Helen Mary a Myfanwy yn awyddus i atgoffa pobl ein bod mewn dyled am ein rhyddid, nid yn unig i’r milwyr a fu fawr yn yr Ail Ryfel Byd, ond hefyd y gwirfoddolwyr a gollodd eu bywydau yn Rhyfel Cartref Sbaen. Ni ddylent byth fynd yn anghof.

No comments:

Post a Comment