Wednesday 22 July 2009

Dafydd Iwan a Myfanwy yn dathlu pen-blwydd Breaktho yn 25ain gyda phobl ifainc a gofalwyr

Bydd y canwr poblogaidd a llywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan yn ymuno â Dr Myfanwy Davies, ymgeisydd seneddol y Blaid yn Llanelli, rhieni a phobl ifainc gydag anhawsterau dysgu i ddathlu pen-blwydd Breakthro’ yn 25ain yng nghanolfan Coleshill Dydd Sadwrn(25/07). Mae Dafydd Iwan wedi bod yn ymgyrchu dros hawliau pobl anabl ers blynyddoedd lawer ac mae’n un o sylfaenwyr Antur Waunfawr, mentrer cymunedol lwyddiannus sydd yn cael ei rheoli gan bobl ag anawsterau dysgu ac sy’n cyflogi pobl ag anhawsterau dysgu ar y cyd gyda phobl heb anhawsterau dysgu.

Dydd Sadwrn am 10.30 bydd plant a phobl ifainc ynghyd â rhieni a gofalwyr yn cwrdd â Dafydd Iwan a Myfanwy Davies, sydd yn un o noddwyr Breaktho’ er mwyn rhannu cacen pen-blwydd anferth (40 modfedd sgwâr). Bydd Dafydd Iwan hefyd yn perfformio mewn cyngerdd i godi arian ar gyfer Breakthro’ ar Awst 15fed yng nghlwb Stebonheath yn Llanelli.

Dywedodd Dafydd Iwan:
“Mae Breakthro’ yn gwneud gwaith pwysig iawn ac rwy’n arbennig o falch i weld rhai o’r bobl ifainc yn dechrau rhedeg y grŵp. Rwy’n gwybod o’m profiad gydag Antur Waunfawr faint o wahaniaeth mae gallu gwneud penderfyniadau ei hunain yn ei wneud i falchder pobl ifainc. Y mae’n gamp i bawb sydd yn ymwneud â Breakthro’ eu bod wedi cadw’r grŵp i fynd am gyhyd. Mae’r llwyddiant yma hefyd yn dangos y gefnogaeth anhygoel a gafwyd i’r grŵp gan bobl Llanelli. Da iawn nhw!”

Dywedodd Myfanwy:
“Mae Dafydd a finnau yn falch dros ben i fod yn rhan o’r dathliadau pen-blwydd a fydd hefyd yn cynnwys cyngerdd Dafydd ar Awst 15fed. Mae’r gwahaniaeth mae Breakthro’ yn ei wneud i fywydau’r plant a phobl ifanc yn anfesuradwy am fod y grŵp yn rhoi lle iddyn nhw lle does neb byth yn eu barnu a lle y gallant gymryd cyfrifoldeb dros ei gilydd. Rwy’n dymuno pen-blwydd hapus iawn iddyn nhw a blwyddyn wych”.

Dywedodd Robin Burn, Ymddiriedolwr gyda Breakthro:
“Mae aelodau’r pwyllgor a chydlynwyr yn Grŵp yn falch ofnadwy bod Myfanwy a Dafydd yn cymryd rhan yn ein dathliadau Dydd Sadwrn. Mae’r bobl ifanc yn gyffrous iawn wrth baratoi’r parti pen-blwydd gyda’r trimmings i gyd. Diolch yn arbennig i Dafydd am ein cefnogi ni drwy berfformio yn y cyngerdd pen-blwydd ar Awst 15fed. Bydd y cyngerdd yn helpu codi arian i wella bywydau'r plant a’r oedolion sy’n defnyddio’r clwb. Diolch yn fawr, Dafydd a Myfanwy” .

Nodiadau

Sefydlwyd Breakthro’ yn Llanelli yn 1984 i ddarparu gweithgareddau cymdeithasol i blant gydag anhawsterau dysgu. Mae rhieni, gofalwyr a’r bobl ifainc yn cydweithredu i drefnu gweithgareddau fel gwyliau, ymweliadau â’r sinema, prydiau bwyd a digwyddiadau codi arian. Darperir gweithgareddau i blant a’r bobl ifainc sydd wedi tyfu i fyny gyda Breakthro’. Roedd dyfodol y grŵp mewn peryg yn dilyn toriadau cyllid ond diolch i ymrwymiad diweddar gan Gyngor Sir Gâr yn dilyn ymgyrch gan Myfanwy ac aelodau’r grŵp mae Breaktho’ wedi gallu parhau i mewn i’w ail chwarter canrif.

Tuesday 21 July 2009

Myfanwy yn galw eto at Nia Griffith i amddiffyn y Post

Plaid Cymru Llanelli
Ty Bres,
Heol Bres
Llanelli
SA15 1UH
Gorffennaf 2ail, 2009

Nia Griffith AS
6 Queen Victoria Road
Llanelli
SA15 2TL

Annwyl Ms Griffith,

Amgaeaf lythyr a ddanfonais atoch ar Fehefin yr ail. Nodaf na chefais ateb gan eich swyddfa i’r llythyr hwnnw.

Roeddwn wedi gofyn i chi wrthwynebu cynlluniau i breifateiddio’r Post Brehinol er mwyn gwarchod swyddi ac er mwyn amddiffyn y safonau o wasanaeth yr ydym eu hangen ac yn eu disgwyl. Fel y gwyddoch mae eich cyd-weithiwr yr Arglwydd Mandelson bellach wedi cyfaddef na fydd Llywodraeth y DG yn bwrw ymlaen gyda deddfwriaeth i breifateiddio rhan o’r Post Frenhinol gan na ellir canfod prynwyr ar hyn o bryd.

Mae hefyd yn eglur nad yw hon yn fesur poblogaidd ymhlith eich cyd-aelodau sydd yn fwy plaen yn eu siarad. Mae yn eglur iawn hefyd pe byddai’r mesur yn syrthio, y byddai hynny o gryn embaras i’r Llywodraeth.

Tra ein bod yn croesawi y tro pedol hwn ar ran Llywodraeth San Steffan, nid yw’n ddigon da i roi’r cynlluniau i’r neilltu er mwyn eu hatgyfodi pan y gellir canfon gyrrwr neu pan fo’r chwipiau Llafur yn credu y gallant ennill y ddadl. Ni freuddwydiodd hyd yn oed y Toriaid, y dylid preifateiddio’r Post Brenhinol ac mae’n rhaid eich bod yn gwybod y bydd yna ddi-swyddiadau yn dilyn o’r penderfyniad yna ac ni ellir cyfiawnhau cefnogi mesur sydd yn peryglu mwy o swyddi yn Llanelli.

Rwyf yn eich annog i ymrwymo yn gyhoeddus i bobl Llanelli y byddwch yn pleidleisio yn erbyn y mesur anystyriol ac anghyfrifol hon pan y caiff ei drafod.

Yn ddiffuant,

Myfanwy Davies

Thursday 2 July 2009

Llythyr agored Myfanwy ar Breifateiddio'r Post Brenhinol

Plaid Cymru Llanelli
Ty Bres,
Heol Bres
Llanelli
SA15 1UH

Mehefin 2ail, 2009

Nia Griffith AS
6 Queen Victoria Road
Llanelli
SA15 2TL

Annwyl Ms Griffith,

Yr wyf wedi clywed bod y Llywodraeth yn bwriadu datgan preifateiddio rhan o’r Post Brenhinol yn ystod y dyddiau nesaf. Ynghyd a gweithwyr post a llawer o bobl yn Llanelli rwyf yn teimlo’n ddig iawn ynghlŷn â’r cam ffol a di-hid hwn. Ni fyddai unrhyw lywodraeth call yn ystyried gwerthu’r adnodd hollbwysig hwn, yn arbennig ei werthu yn ystod y dirwasgiad dyfnaf yr ydym wedi ei weld yn ystod ein bywydau. Dysgodd blynyddoedd trychinebus y Toriaid i ni bod diswyddo milain yn dilyn preifateiddio. Ni allwn fforddio i golli mwy o swyddi yn Llanelli - lleiaf oll drwy gamau bwriadol gan Lywodraeth Lafur y DG.

Y mae’r adroddiad Hooper a gomisiynwyd gan eich Lywodraeth Lafur yn dadlau y dylid preifateiddio’r Post Brenhinol er mwyn rhyddhau cyllid i’w galluogi i fodernieddio. Hona’r adroddiad nad yw ein Post Brenhinol mor effeithlon â gweithredwyr post eraill yn Ewrop. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth y mae’n cynnig i gefnogi’r honiad yn gamarweiniol ac amhendant. Er enghraifft, y mae’n cymysgu rhwng prisio ac effeithlonrwydd gweithredol. Y mae’n methu ystyried gwahaniaethau rhwng marchnadoedd cartref gwledydd gwahanol. Y mae’n anwybyddu yr effeithiau negyddol ar ein Post Brenhinol sy’n dilyn o fod yn weithredydd sefydledig. Gwaethaf oll, nid yw’r adroddiad yn archwilo i ffyrdd eraill y gallai’r Post Brenhinol foderneiddio ac nid yw hyd yn oed yn awgrymu faint o gyllid y byddai ei angen i gefnogi’r broses honno. Y mae llawer o bobl yn amau bod yr broses gyfan wedi ei gogwyddo er mwyn rhoi esgus i werthu’r adnodd cenedlaethol hwn i gystadleuwyr ar y cyfandir fel DHL neu INT.

Byddai preifateiddio’r Post Brenhinol ar sail yr adroddiad gwallus hwn yn ddim llai na fandaliaeth. Byddai’r canlyniadau yn dilyn yn gyntaf i weithwyr teyrngar y Post Brenhinol ond yn fuan iawn rwy’n ofni y byddwn ni i gyd yn dioddef dirywiad mewn gwasanaeth a naid mewn prisiau. Dyma wers preifateiddio o dan y Toriaid.

Rwyf yn eich annog yn y termau cryfaf posib i bleidleisio yn erbyn y mesurau hyn pan y’u trafodir. Mae pobl yn Llanelli am i’r Post Brenhinol aros mewn dwylo cyhoeddus ac y mae’n iawn eu bod yn hawlio cefnogaeth eu AS i helpu ei amddiffyn.

Yr eiddoch yn ddiffuant,





Dr. Myfanwy Davies
Ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru, Llanelli.

Myfanwy a Hywel Williams AS yn ymuno gyda phrotestwyr Bingo o Lanelli yn San Steffan

Heddiw ymunodd Hywel Williams AS Plaid Cymru ag ymgeisydd seneddol y Blaid yn Llanelli Dr Myfanwy Davies, gyda chwaraewyr bingo, mewn ymgyrch yn erbyn y trethi annheg ar Bingo.

Teithiodd y grŵp, dan arweiniad Nigel Griffiths, 330 o filltiroedd i ymladd dros ddyfodol eu clwb bingo drwy brotestio yn Dean’s Yard gyferbyn â San Steffan.

Gwisgai’r protestwyr fasgiau Alistair Darling gan gario nifer o blacardau. Roedd rhai hefyd yn amgylchu’r sgwâr yn eu ‘Bws Bingo’, gan ymuno mewn gêm o fingo ar y borfa i hyrwyddo’r achos.

Roedd Hywel Williams, Aelod Plaid Cymru dros Arfon wedi rhybuddio eisoes y byddai y penderfyniad i gynyddu’r dreth o 15% i 22% yn siŵr o arwain at ddirywiad mewn clybiau bingo .

Cafodd ymgyrch gan yr SNP,gyda chefnogaeth y Blaid, i wyrdroi'r penderfyniad ei drechu’n ddiweddar gan Aelodau Seneddol Llafur. Mae ffyrdd eraill o hapchwarae megis y casino a poker ar -lein yn dal ar dreth o 15%.

Dywedodd Hywel Williams AS Plaid Cymru :

“Mae’r modd mae’r llywodraeth yn ymdrin â’r sector bingo yn anghredadwy o annheg. Yn y gyllideb cyhoeddodd y Llywodraeth eu bod wedi tynnu allan y TAW ar ffioedd cyfranogiad i chwaraewyr bingo ond ar yr un pryd yn codi treth o 22 %. Nid yw hyn yn gwneud unrhyw synnwyr yn weithredol”

“Mae tegwch trethi yn hanfodol yn ystod y dirwasgiad ac mae’r dreth yma ar Neuaddau Bingo trwyddedig yn beryglus, gan ei fod yn targedu calon ein cymunedau, yn arbennig menywod hŷn a rheini o gartrefi incwm isel. Mae Neuaddau Bingo yn cynnig amgylchedd diogel a chyfeillgar i’r holl gymuned i gwrdd a chymdeithasu”

“Mae’r protestwyr wedi hyrwyddo eu hachos heddiw yn wych .Gobeithio y bydd y llywodraeth yn gweld bod y clybiau bingo a’u hetholwyr yn dioddef oherwydd baich y dreth yma”

Ychwanegodd Dr Myfanwy Davies :

“Ers imi allu cofio mae Bingo wedi bod yn rhan o fywyd Llanelli a’r peth olaf sydd ei angen ar ganol y dre yw cau’r Clwb yn Stryd Murray .”

“Mae hwn yn dreth hollol annheg a gwirion ar fwynhad pobl . Mae bingo yn cael ei drethu unwaith yn barod a does dim cyfiawnhad ar drin bingo yn wahanol i poker ar- lein neu unrhyw ffurf arall o hapchwarae.”.

“Rydym wedi dod yma heddiw i ddangos i’r aelodau seneddol hynny a bleidleisiodd dros y dreth yma nad yw’n bosib anwybyddu llais yr etholwyr”