Sunday 10 January 2010

Plaid wedi cythruddo gan gynlluniau’r Cyngor i dorri gwasanaethau pobl ifanc anabl

Mae AC lleol Llanelli Helen Mary Jones ac Ymgeisydd y Blaid am Sansteffan Myfanwy Davies wedi datgan eu hanfodlonrwydd gyda chynlluniau arfaethedig y Cyngor i wneud toriadau enfawr yng nghyllideb gwasanaethau dysgu’r anabl a gwasanaethau yn ymwneud ag ysgolion arbennig, fel ran o’u cynllun i wneud arbedion enfawr dros y tair blynedd nesaf .
Mae’r cynlluniau i dorri £460,000 y flwyddyn oddi ar wasanaethau i bobl ifanc anabl yn rhan o gyfres o gynigion gan y Cyngor Sir mewn ymateb i’r toriadau enfawr a orfodwyd gan Lywodraeth Llundain o ganlyniad i achub y banciau . Mae Helen Mary a Myfanwy yn poeni’n arw am effeithiau toriadau o’r fath ar y rhai sydd ag anableddau dysgu yn ardal Llanelli.

Dywedodd Helen Mary Jones, o’r Blaid :
"Mae’r cynlluniau yma i wneud toriadau yng nghyllideb anableddau dysgu yn hollol annerbyniol .Mae angen i’r Cyngor wneud arolwg cynhwysfawr ar wariant ac o hynny adnabod y gwasanaethau nad oes eu hangen . Mae gorddefnydd ar wasanaethau fel y mae, ac mae’n annheg taw ein pobl ifanc bregus sy’n dioddef . O ganlyniad i doriadau yng nghyllideb Cymru gan Lywodraeth Llafur Llundain mae’r gwasanaethau hanfodol i blant a’r henoed yn teimlo’r straen yn barod . Mae Myfanwy a finnau yn ymroddedig i warchod ein gwasanaethau hanfodol megis ysgolion ac ysbytai .”

Ychwanegodd Ymgeisydd Seneddol y Blaid, Myfanwy Davies:

“Mae'r rhain yn wasanaethau sy’n hollol hanfodol i’r bobl yn Llanelli. Ni ddylai pobl gydag anableddau dysgu a’u teuluoedd wneud heb y gefnogaeth a’r addysg angenrheidiol . Wrth gwrs, mae’n rhaid i’r Cyngor Sir wneud toriadau , ond ni allwn sefyll a gwylio tra eu bod yn gwneud toriadau mewn gwasanaethau i’r rhai mwyaf bregus a pharhau i wario ein harian ar bethau di- angen sy’n cynnwys noddi, marchnata a lletygarwch . Mae’r toriadau yma yn dangos yn glir Bod y Cyngor yng Nghaerfyrddin heb ystyried ein hanghenion yma yn Llanelli.”

No comments:

Post a Comment