Mae perthnasau preswylwyr y cartrefi am gynyddu'r ymgyrch i frwydro yn erbyn cau’r cartrefi gofal yn ardal Llanelli. Os bydd cynlluniau’r Cyngor Sir i gau Caemaen a St Pauls yn dod i rym bydd dros hanner cant o breswylwyr bregus yn wynebu cael eu troi allan o’u cartrefi,a bydd hyd yn oed mwy o swyddi yn cael eu colli yn yr ardal.
Yn ôl ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Cyngor Sir Caerfyrddin, gynlluniau drafft i gau pedwar cartref gofal yn Sir Gaerfyrddin, hyn oll yn rhan o’u cynllun i ariannu gwasanaethau gofal yn y cartref yn yr ardal.
Yn y cyfarfod cyhoeddus diweddaraf dydd Gwener, fe wnaeth ymgyrchwyr anfoddog unwaith eto fynegi eu gofid, ac fe gytunwyd ar drefnu eiriolwyr i’r preswylwyr. Gwnaeth grwpiau Caemaen a St Paul gytuno i ymuno mewn un grŵp gweithredu i sicrhau gwell canolbwyntio.
Mae Myfanwy a Helen Mary wedi cefnogi ymgyrchwyr drwy ddrafftio llythyron a fydd yn cael eu hanfon at wahanol Gynghorwyr oddi wrth aelodau’r grŵp yn y dyddiau nesaf. Bydd Helen Mary hefyd yn cyfarfod â’r Gweinidog Iechyd Edwina Hart a’r dirprwy weinidog dros wasanaethau cymdeithasol, Gwenda Thomas, yr wythnos hon i drafod y mater.
Mae nifer o deuluoedd y preswylwyr yn poeni’n ddirfawr am effeithiau difrifol ar iechyd y preswylwyr os bydd rhaid iddynt symud. Amcangyfrifir ymhlith y rhai a symudir o’u cartref, bod drawma trosglwyddo sef y gost emosiynol o symud o’r cartref yn erbyn eich ewyllus, yn arwain at farwolaeth 30% o breswylwyr.
Dywedodd Deryk Cundy, sydd a’i dad yn un o breswylwyr Caemaen:
"Rydym yn benderfynol o ymladd yn erbyn y cynlluniau gwarthus yma i gau Caemaen a St Paul. Dyma esiampl arall o’n henoed bregus yn dioddef o achos cynlluniau’r Cyngor i arbed arian. Sut fyddech chi’n teimlo petaech yn colli eich cartref am dalu eich rhent?
Yn barod mae’r Cyngor yn newid defnydd Llys y Bryn, drwy newid llefydd gofal preswyl gyda 12 gwely adferiad, a symud 7 gwely seibiant a oedd yno, i gartref St Pauls. Mae hyn mewn gwirionedd yn lleihau llefydd gofal preswyl o 19 lle - dwyn drwy dwyll.
Mae’r Cyngor yn ceisio cael gwared â’r hyn fyddwn ni ei angen yn y dyfodol.
Hyd yn oed yn ôl ffigurau’r Cyngor fe fyddwn, o fewn 6 mlynedd, a 10% o’r henoed angen llefydd gofal. Yn Llanelli mae hyn yn gyfystyr a 103 o lefydd- os bydd y cartrefi gofal yn cau yn Llanelli fe fyddwn yn fyr o 162 o lefydd yn 2016 gyda chanlyniadau trychinebus i’r gymuned gyfan.
Credaf fod gan bawb yr hawl i lefelau uchel o ofal a diogelwch, yn awr ac yn y dyfodol, i mi, i chwi, eich teuluoedd a’ch ffrindiau. Mae’r bobl rydym yn ceisio’u gwarchod yn fregus, yn ddibynnol ar eraill ac sy’n methu a gofalu am ei hunain .
Mae gennym rhai Cartrefi Awdurdod Lleol gwych - gyda staff gofalgar sy’n rhoi gofal arbennig, sy’n brin iawn yn ein byd ni heddiw. Dyma ofal rydym yn gallu dibynnu arno i ddarparu amgylchedd diogel - yr hyn a ddisgwylir gan ein henoed ac sy’n hawl iddynt.
Pam dylai hyn gael ei ddwyn oddi arnom ?”
Dywedodd Helen Mary Jones, AC lleol Llanelli:
“Mae angen i’r Cyngor edrych ar ffyrdd llawer mwy creadigol o arbed arian yn hytrach na lleihau gwasanaethau sy’n angenrheidiol i’n henoed. Mae angen i Lanelli fod yn le nad yw pobl yn ofni mynd yn hen, gan wybod y bydd gofal iddynt yn y dyfodol. Byddaf yn cyfarfod â’r gweinidog Iechyd yn ogystal â’r dirprwy weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yr wythnos hon i drafod pa fath o gefnogaeth gall Llywodraeth y Cynulliad ei gynnig.”
Ychwanegodd Myfanwy Davies, Ymgeisydd Seneddol y Blaid yn Llanelli :
“Mae symud yr henoed o’u cartrefi yn peri gofid ac o bosib bydd rhai o’r henoed yma ddim yn goroesi’r symudiad. Ni ddylai ein henoed gael eu haberthu er mwyn syniadau hanner pan y Cyngor ynglŷn â phreifateiddio, a dyw’r Cyngor ddim hyd yn oed yn gwybod cost y rhaglenni newydd yma."
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment