Mae Dr. Myfanwy Davies, darpar ymgeisydd Y Blaid yn Llanelli, a Helen Mary Jones, AC lleol Y Blaid, wedi croesawu’r newid llwyr gan y Blaid Lafur ynglŷn â’r gefnogaeth i bobl hŷn anabl. Cyn hyn bu’r Lwfans Gweini a’r Lwfans Byw i’r Anabl dan fygythiad er mwyn talu am gynlluniau Llywodraeth yn Lloegr.
Mae’r Llywodraeth wedi addo nawr na fwriedir eu newid mwyach yn y Senedd nesaf.
‘Roedd Myfanwy a Helen Mary wedi cefnogi ymgyrchwyr anabledd a phensiynau lleol wrth frwydro yn erbyn y bygythiad ac wedi gweithio’n glos gyda’u cyd weithwyr yn Y Blaid yn San Steffan i wrthwynebu’r newidiadau hyn a fyddai wedi golygu bod miloedd o bobl hŷn a bregus yn Llanelli ar gyfartaledd rhwng £65 a £75 yr wythnos yn waeth eu byd.
Dywedodd Dr. Davies:
“Nid cyn pryd mae’r newid llwyr hwn yn digwydd - er y byddai rhai’n dueddol o gwestiynu ei amseriad yn union cyn etholiad cyffredinol”.
Ar draws Llanelli mae 4,000 o bobl yn dibynnu ar Lwfans Gweini tra bo 8,000 yn dibynnu ar Lwfans Byw i’r Anabl.
“Mae’r bobl hyn i gyd naill ai’n anabl neu dros 65 mlwydd oed, y grwpiau lleiaf abl i fyw ar eu pennau eu hunain a gofalu amdanynt eu hunain.
Mae’r cynigion a wnaeth Llafur yr haf diwethaf yn rhoi pwysau anferth ar ein pobl fwyaf bregus. Mae’n gwbl anghywir bod cymaint ohonynt a’u teuluoedd wedi gorfod byw gyda’r ansicrwydd ynglyn â sut y medrent fyw’n annibynnol pe bai’r gynhaliaeth hon yn cael ei dwyn oddi arnynt”.
“’Roedd yn annerbyniol bod y Llywodraeth wedi awgrymu’r toriadau creulon hyn yn y lle cyntaf”.
“Dydyn nhw ddim yn gwneud ffafr â’n pobl fwyaf bregus trwy symud y bygythiad a ddaeth oddi wrthynt hwy eu hunain”.
Ychwanegodd Helen Mary:
“’Rydym wedi ymladd y newidiadau hyn byth oddi ar iddynt gael eu hawgrymu gyntaf a buom yn cefnogi grwpiau iawnderau’r anabl a phensiynwyr yn lleol trwy roi pwysau ar y Llywodraeth i newid eu meddwl”.
“Mae’n amlwg bod y pwysau cyfunol wedi helpu’r Llywodraeth tuag at y trawsnewidiad munud olaf hwn”.
“Ni ddylai fod angen i ni amddiffyn cynhaliaeth y mwyaf bregus ond, tro ar ôl tro, bu rhaid i ni wneud hynny. Mae angen i benderfyniadau ynglyn â chynhaliaeth i’n pobl fwyaf bregus gael eu gwneud gan y Cynulliad yng Nghaerdydd fel y gallwn osgoi’r trallod i gynifer o bobl hŷn ac anabl a ddeuai trwy’r toriadau creulon hyn a fwriadwyd gan Lafur yn y lle cyntaf”.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment