Wednesday 25 November 2009

Helen Mary a Myfanwy yn ymosod yn llym ar yr ymgynghoriad ffug ar gynllun y Cyngor ar gyfer henoed Llanelli.

Yn dilyn cyfarfod gorlawn yng Nghartref Preswyl Caemaen neithiwr, condemniodd Helen Mary Jones AC a Myfanwy Davies ymgeisydd etholiad San Steffan y Blaid y ffordd cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal gan swyddogion ac yn galw ar Pat Jones, aelod y Bwrdd Gweithredol dros ofal cymdeithasol, i gymryd y cyfrifoldeb am ei phenderfyniad a’r modd cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal.

Yn “Llanelli Star” yr wythnos diwethaf cafwyd adroddiad yn sôn am gynlluniau’r cyngor i gau cartrefi preswyl Caemaen a St Paul’s yn Llanelli. O ganlyniad i’r newyddion ceisiodd a chafodd Myfanwy a Helen sicrwydd mewn llythyr o eiddo Bruce McLearnon, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor Sir, bod pob opsiwn yn dal yn agored a bod penderfyniad i gau’r cartrefi heb ei wneud eto.

Er hynny, neithiwr cadarnhaodd Bruce McLearnon, gyda chefnogaeth Sheila Porter sy’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Integredig, mai cau Caemaen oedd y cynllun roedd ef yn ei ffafrio gan ddarparu gwasanaethau cefnogol i unigolion yn eu cartrefi, gwasanaeth a adwaenir fel “gofal ychwanegol”. Siaradodd Ms Porter - a gyflogwyd gan y Cyngor yn ddiweddar sydd wedi datblygu rhaglenni “gofal ychwanegol” yn Bromley - yn frwd, os nad yn ymosodol, dros ei safbwynt llawer gwaith gan daweli’r preswylwyr a’r teuluoedd oedd yn bresennol er mwyn hyrwyddo’r dull dadleuol hwn o ofal sydd wedi profi’n fethiant yn Lloegr.

Drwy’r cyfarfod pwysleisiodd y Cyfarwyddwr taw’r angen i gwtogi costau oedd prif gymhelliad y cynllun. Mynegodd y preswylwyr a’r teuluoedd yn y cyfarfod gorlawn eu gwrthwynebiad cryf i’r cynllun cau gyda’r preswylwyr yn dangos eu dymuniad i aros yn Caemaen drwy bleidleisio’n unfrydol i wneud hynny.

Dywedodd Helen Mary Jones o Blaid Cymru: “Cafodd Myfanwy a minnau sicrwydd bod yr holl opsiynau yn dal yn bosib. O ran Cyngor Sir Caerfyrddin mae’n eglur nad ydynt ac mae hefyd yn glir taw resymau ariannol sydd du cefn i’r penderfyniadau hyn. Mae’n wir fod llai o arian ar gael a dylai rhai o’r aelodau seneddol a bleidleisiodd i achub y banciau archwilio’u cydwybod, er bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn dal i fedru canfod arian ar gyfer prosiectau rhodresgar a chyhoeddusrwydd iddo’i hun. Nid yw’n dderbyniol bod swyddogion yn camarwain teuluoedd a phreswylwyr drwy awgrymu bod Caemaen yn mynd yn groes i safonau gofal am nad oes cyfleusterau “en-suite” yno. Nid yw hynny’n wir. Yn ystod y cyfarfod roedd swyddogion yn rhyw led awgrymu mai bwriad eu cynlluniau oedd ceisio gwarchod urddas yr henoed rhywfodd. Sut bynnag, dangosodd y preswylwyr oedd yn bresennol eu barn unfrydol drwy godi dwylo’n gytûn. Pa faint o urddas y mae gwrthod eu dymuniadau yn gosod arnom ni?”

Ychwanegodd Myfanwy:
“Ar ôl cael sicrwydd gan Mr McLearnon aeth Helen Mary a minnau i’r cyfarfod â meddyliau agored. Erbyn hyn mae’n glir bod swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin eisoes wedi gwneud eu meddyliau i fyny. Yn wir, pan ofynnodd preswylwyr a theuluoedd p’un ai oedd eu gwrthwynebiad hwy wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i farn y Cyfarwyddwr, na oedd ei ateb. Mae hyn yn brawf trawiadol bod angen i Gynghorydd Llafur Porth Tywyn, Pat Jones, sy’n arwain yn y maes Gofal Cymdeithasol sefyll i fyny a chymryd cyfrifoldeb am ei phenderfyniad ac am ymddygiad ei swyddogion.”
“Yn gyffredinol rwy’n cefnogi cynlluniau i gadw pobl yn eu cartrefi ac yn annibynnol pan fydd cefnogaeth briodol iddynt, ond mater o dristwch yw mai prin yw’r enghreifftiau o’r fath gynlluniau yn gweithio. Clywsom neithiwr fel nad oedd preswylwyr yn Caemaen wedi medru aros yn eu cartrefi gyda chefnogaeth y gofal cartref cyfredol gyda rhai wedi dioddef esgeulustod difrifol o ganlyniad i’r gwasanaeth gofal cartref. Yn sicr, nid yw’n dderbyniol i symud yr henoed yn erbyn eu hewyllys.”

Mae Myfanwy a Helen wedi addo cefnogi’r grŵp gweithredol fydd yn brwydro yn erbyn y cynlluniau i gau’r cartrefi.


DIWEDD

No comments:

Post a Comment