Tuesday 24 November 2009

Helen Mary a Myfanwy yn taro nôl ar yr ymgynghoriad ffug ar gynlluniau’r cyngor i’r henoed yn Llanelli

Yn dilyn cyfarfod gorlawn neithiwr yng nghartref preswyl Caemaen, gwnaeth Helen Mary Jones AC ac ymgeisydd seneddol y Blaid yn Llanelli Myfanwy Davies, gondemnio'r modd y gweithredwyd yr ymgynghoriad gan swyddogion, ac yn mynnu bod Pat Jones, y Swyddog Gweithredol yn gyfrifol am Ofal Cymdeithasol ,yn cymryd y cyfrifoldeb am ei phenderfyniad, a hefyd am y modd y gweithredwyd yr ymgynghoriad.

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth y Llanelli Star adrodd yr hanes am gynlluniau’r Cyngor i gau cartrefi preswyl Caemaen a St Pauls’ yn Llanelli. Mewn ymateb i’r newyddion yma gwnaeth Myfanwy a Helen Mary chwilio am ,a derbyn sicrwydd gan Bruce McLearnon, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Gaerfyrddin , a honnodd mewn llythyr, bod yr holl opsiynau yn agored , ac nad oedd unrhyw benderfyniad wedi’i wneud hyd yn hyn i gau’r cartrefi.

Fodd bynnag, neithiwr, fe gadarnhaodd Bruce McLearnon gyda chefnogaeth Sheila Porter, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Integredig taw ‘r cynllun yr oedd yn ei ffafrio oedd cau Caemaen a datblygu gwasanaethau cefnogaeth yn y cartref , sef ‘gofal ychwanegol’.

Drwy’r cyfarfod fe wnaeth y Cyfarwyddwr bwysleisio'r angen i dorri ar wariant fel y prif reswm am y cynllun. Roedd y trigolion a theuluoedd yn y cyfarfod llawn yma yn gwrthwynebu’r cau yn arw a gyda phleidlais llaw unfrydol roeddynt o blaid aros yng Nghaemaen.

Dywedodd Helen Mary Jones :

“Cefais i a Myfanwy sicrwydd bod yr holl opsiynau yn agored. Mae’n amlwg nad yw hyn yn wir yn ôl Cyngor Sir Gaerfyrddin ac mae hefyd yn glir bod y penderfyniadau yma yn cael eu gwneud am resymau ariannol. Oes, mae llai o arian ar gael, ac mae angen i’r ASau hynny a bleidleisiodd i achub y banciau edrych yn ofalus ar eu cydwybod yn awr, ond mae cyngor Caerfyrddin yn darganfod digon o arian i'w prosiectau arbennig ac i’w cyhoeddusrwydd ei hunain."

“Mae yn annerbyniol bod swyddogion y Cyngor yn camarwain teuluoedd drwy awgrymu bod Caemaen yn torri safonau gofal am nad oes cyfleusterau en-suite yno. Nid yw hynny’n wir. Yn ystod y cyfarfod roedd y swyddogion yn ceisio awgrymu bod eu cynlluniau yn amddiffyn urddas yr henoed. Fe wnaeth y preswylwyr a oedd yn bresennol ddangos yn glir ac yn unfrydol drwy godi llaw .Faint yw pris ei hurddas os anwybyddir eu dymuniadau?"

Ychwanegodd Myfanwy:

“Wedi derbyn sicrwydd gan Mr McLearnon, fe aeth Helen Mary a finnau i’r cyfarfod gyda meddwl agored. Ond mae’n amlwg bod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi hen benderfynu. Yn wir, pan ofynnwyd i’r Cyfarwyddwr gan y teuluoedd a’r preswylwyr, os oedd eu gwrthwynebiad nhw wedi gwneud unrhyw wahaniaeth i’w safbwynt, atebodd nad oedd. Mae hyn yn ei hun yn dystiolaeth arswydus bod yn rhaid i Gynghorydd Llafur Porth Tywyn gymryd y cyfrifoldeb gwleidyddol am ei phenderfyniad a gweithredoedd ei swyddogion.”

“Yn gyffredinol byddwn yn cefnogi cynlluniau sy’n cadw pobl yn eu cartrefi ac yn annibynnol ,gyda’r gefnogaeth briodol. Ond yn anffodus, nifer fach o enghreifftiau sydd yn dangos bod hyn yn gweithio. Yn y cyfarfod neithiwr, fe glywon fel roedd rhai o breswylwyr Caemaen wedi methu ag aros yn eu cartrefi gyda’r gefnogaeth gofal fel y mae , ac mewn rhai achosion roedd rhai wedi dioddef esgeulustod difrifol o fewn y gofal yn y cartref. Nid yw’n dderbyniol bod rhaid symud hen bobl yn erbyn eu hewyllys ”.

Mae Myfanwy a Helen Mary wedi addo i gefnogi grwp ymgyrchu bydd yn ymladd y cynlluniau yma i gau’r cartrefi.

No comments:

Post a Comment