Monday 22 February 2010

Myfanwy a Helen Mary yn gwthio yn San Steffan a Chaerdydd am atebion hirdymor

Mae Myfanwy Davies, Darpar Ymgeisydd Seneddol y Blaid i Lanelli, a’r AC lleol Helen Mary Jones, wedi bod yn gwthio am atebion hirdymor i’r problemau llifogydd yn Llanelli. Mae preswylwyr yn aml yn dioddef o lifogydd gan fod y sustem garthffosiaeth heb ddigon o allu i ddraenio’r dŵr glaw ychwanegol yn ystod tywydd gwael.

Cyfarfu Myfanwy a Helen Mary ag uwch-reolwyr Dŵr Cymru ar yr 17eg o Dachwedd a dywedwyd wrthynt fod gan y cwmni gynlluniau i fuddsoddi i fyny at £6 miliwn o bunnoedd mewn adeiladu ffosydd draenio dŵr storm yn Llanelli. Byddai’r cynlluniau hyn yn gwella’r draeniad, yn ystod ac ar ôl glaw trwm. Fodd bynnag, yn hwyrach yn y mis ar 26ain o Dachwedd, cyhoeddodd Ofwat gyfyngiadau ar brisiau dŵr sydd yn debygol o fod wedi effeithio ar y cynlluniau ac ar Ionawr 14eg, rhyddhawyd ffigwr o £2.7 miliwn gan Ddŵr Cymru ar gyfer buddsoddiad yn y cynllun draenio dŵr storm yn Llanelli.

Mae Dŵr Cymru yn gwmni dielw felly mae’r elw a wneir i’w ddefnyddio i gynnal y rhwydwaith mewnol ac i atal llifogydd. Tra gellir arbed arian drwy weithio’n fwy effeithiol, y mae yna bryderon difrifol ynglŷn ag effaith y penderfyniad ar brisiau dŵr gan Ofwat ar y cynlluniau hynod bwysig hyn i Lanelli.

Cysylltodd Myfanwy gydag Elfyn Llwyd AS, arweinydd Grŵp Seneddol Plaid Cymru i ofyn iddo godi’r mater gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, Peter Hain. Gofynnodd Mr Llwyd iddo a oedd yn cytuno y dylid caniatáu i Ddŵr Cymru fuddsoddi mewn rhwydwaith mewnol, megis y gwaith atal llifogydd a drefnwyd i Lanelli ond sydd yn debygol o fod wedi ei gwtogi yn sgil penderfyniad Ofwat ynglŷn â gwerth am arian.

Ni wnaeth AS Llafur Llanelli Nia Griffiths, a oedd yn bresennol, unrhyw sylw ar y drafodaeth.



Meddai Myfanwy : “Rydw i’n falch iawn fod Mr. Llwyd wedi gallu ymateb mor gyflym i’n pryderon. Mae llifogydd yn beth ofnadwy sy’n digwydd yn amlach o hyd ar draws Llanelli.

Rwy’n croesawu cynlluniau presennol Dŵr Cymru ar gyfer buddsoddi yn Llanelli. Bydd bron i dair miliwn o fuddsoddiad yn ein draeniau dŵr storm yn gwneud gwahaniaeth a gobeithiaf y gellir ychwanegu at y swm. Mae yna ofnau am effeithiau posib penderfyniad Ofwat ar y rhaglen ehangach o fuddsoddiad a ddisgrifiwyd i Helen a finnau. Rydym yn hapus iawn i drafod y ffigurau union gyda rheolwyr Dŵr Cymru sydd yn rhyfeddol o dawedog ynglŷn â’r drafodaeth yna erbyn hyn. Wrth gwrs, rydym yn sensitif i’w hangen i osgoi gwrthdaro gydag Ofwat.

Ein bwriad yw sicrhau bod Llanelli yn cael y buddsoddiad y mae hi ei angen. Ni all fod yn iawn fod Dŵr Cymru yn cael ei reoli yn yr un modd â chwmni sy’n cael ei redeg gan gyfranddalwyr oherwydd, fel cwmni dielw, y mae’n rhaid iddo ddefnyddio incwm cwsmeriaid i gynnal, cadw a gwella draeniau fel y rhai y mae eu hangen yn Llanelli.

Mae’n edrych yn debyg iawn fod gwaith atal llifogydd yn ein hardal ni yn cael ei wrthod gan reolwyr sy’n beirniadu cwmni tra gwahanol

Drwy weithio gyda Helen Mary a Grŵp Seneddol y Blaid rydw i’n gobeithio y byddwn yn gallu delio â’r llanast hwn ac atal llifogydd yma ac ar draws Cymru ”


Meddai Helen Mary : “Mae’r cam cyntaf wedi’i wneud i ganiatáu i Ddŵr Cymru fuddsoddi yn Llanelli fel y’i disgrifiwyd i Myfanwy a finnau cyn y Nadolig. Bûm ar y pwyllgor a sefydlodd Ddŵr Cymru fel Cwmni nad oedd yn gwneud elw, ac felly rydw i wrth fy modd ein bod, o’r diwedd, yn gwneud cynnydd drwy gael buddsoddiad cywir yng Nghymru a’i reoli yn ôl yr hyn y bwriedir iddo’i wneud - sef datblygu a chynnal gwasanaethau da yn yr hirdymor”.


Meddai Elfyn Llwyd : “Mae llifogydd yn gonsyrn mawr yn Llanelli ac mi wn fod Myfanwy wedi cefnogi trigolion lleol wrth ymdrin â materion megis yswiriant ac amddiffyn rhag llifogydd ac mae hefyd wedi bod yn ymwneud â materion lleol hirdymor. Pan wnaeth Myfanwy gysylltu â mi i drafod yr hyn sy’n ymddangos fel cwtogiad sylweddol yng nghynlluniau Dŵr Cymru i ddelio â draeniad dŵr storm, roedd yn glir fod yn rhaid i ni weithredu yn y Senedd i sicrhau bod y cynllun, a chynlluniau eraill tebyg ar draws Cymru, yn cael ei ariannu.

Wrth ystyried difrifoldeb y llifogydd yn Llanelli a’r angen amlwg i edrych ar y ffordd mae Dŵr Cymru yn cael ei reoli, rydw i’n synnu na wnaeth AS Llanelli godi’r mater yma ei hun “

No comments:

Post a Comment