Thursday 2 July 2009

Llythyr agored Myfanwy ar Breifateiddio'r Post Brenhinol

Plaid Cymru Llanelli
Ty Bres,
Heol Bres
Llanelli
SA15 1UH

Mehefin 2ail, 2009

Nia Griffith AS
6 Queen Victoria Road
Llanelli
SA15 2TL

Annwyl Ms Griffith,

Yr wyf wedi clywed bod y Llywodraeth yn bwriadu datgan preifateiddio rhan o’r Post Brenhinol yn ystod y dyddiau nesaf. Ynghyd a gweithwyr post a llawer o bobl yn Llanelli rwyf yn teimlo’n ddig iawn ynghlŷn â’r cam ffol a di-hid hwn. Ni fyddai unrhyw lywodraeth call yn ystyried gwerthu’r adnodd hollbwysig hwn, yn arbennig ei werthu yn ystod y dirwasgiad dyfnaf yr ydym wedi ei weld yn ystod ein bywydau. Dysgodd blynyddoedd trychinebus y Toriaid i ni bod diswyddo milain yn dilyn preifateiddio. Ni allwn fforddio i golli mwy o swyddi yn Llanelli - lleiaf oll drwy gamau bwriadol gan Lywodraeth Lafur y DG.

Y mae’r adroddiad Hooper a gomisiynwyd gan eich Lywodraeth Lafur yn dadlau y dylid preifateiddio’r Post Brenhinol er mwyn rhyddhau cyllid i’w galluogi i fodernieddio. Hona’r adroddiad nad yw ein Post Brenhinol mor effeithlon â gweithredwyr post eraill yn Ewrop. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth y mae’n cynnig i gefnogi’r honiad yn gamarweiniol ac amhendant. Er enghraifft, y mae’n cymysgu rhwng prisio ac effeithlonrwydd gweithredol. Y mae’n methu ystyried gwahaniaethau rhwng marchnadoedd cartref gwledydd gwahanol. Y mae’n anwybyddu yr effeithiau negyddol ar ein Post Brenhinol sy’n dilyn o fod yn weithredydd sefydledig. Gwaethaf oll, nid yw’r adroddiad yn archwilo i ffyrdd eraill y gallai’r Post Brenhinol foderneiddio ac nid yw hyd yn oed yn awgrymu faint o gyllid y byddai ei angen i gefnogi’r broses honno. Y mae llawer o bobl yn amau bod yr broses gyfan wedi ei gogwyddo er mwyn rhoi esgus i werthu’r adnodd cenedlaethol hwn i gystadleuwyr ar y cyfandir fel DHL neu INT.

Byddai preifateiddio’r Post Brenhinol ar sail yr adroddiad gwallus hwn yn ddim llai na fandaliaeth. Byddai’r canlyniadau yn dilyn yn gyntaf i weithwyr teyrngar y Post Brenhinol ond yn fuan iawn rwy’n ofni y byddwn ni i gyd yn dioddef dirywiad mewn gwasanaeth a naid mewn prisiau. Dyma wers preifateiddio o dan y Toriaid.

Rwyf yn eich annog yn y termau cryfaf posib i bleidleisio yn erbyn y mesurau hyn pan y’u trafodir. Mae pobl yn Llanelli am i’r Post Brenhinol aros mewn dwylo cyhoeddus ac y mae’n iawn eu bod yn hawlio cefnogaeth eu AS i helpu ei amddiffyn.

Yr eiddoch yn ddiffuant,





Dr. Myfanwy Davies
Ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru, Llanelli.