Wednesday 22 July 2009

Dafydd Iwan a Myfanwy yn dathlu pen-blwydd Breaktho yn 25ain gyda phobl ifainc a gofalwyr

Bydd y canwr poblogaidd a llywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan yn ymuno â Dr Myfanwy Davies, ymgeisydd seneddol y Blaid yn Llanelli, rhieni a phobl ifainc gydag anhawsterau dysgu i ddathlu pen-blwydd Breakthro’ yn 25ain yng nghanolfan Coleshill Dydd Sadwrn(25/07). Mae Dafydd Iwan wedi bod yn ymgyrchu dros hawliau pobl anabl ers blynyddoedd lawer ac mae’n un o sylfaenwyr Antur Waunfawr, mentrer cymunedol lwyddiannus sydd yn cael ei rheoli gan bobl ag anawsterau dysgu ac sy’n cyflogi pobl ag anhawsterau dysgu ar y cyd gyda phobl heb anhawsterau dysgu.

Dydd Sadwrn am 10.30 bydd plant a phobl ifainc ynghyd â rhieni a gofalwyr yn cwrdd â Dafydd Iwan a Myfanwy Davies, sydd yn un o noddwyr Breaktho’ er mwyn rhannu cacen pen-blwydd anferth (40 modfedd sgwâr). Bydd Dafydd Iwan hefyd yn perfformio mewn cyngerdd i godi arian ar gyfer Breakthro’ ar Awst 15fed yng nghlwb Stebonheath yn Llanelli.

Dywedodd Dafydd Iwan:
“Mae Breakthro’ yn gwneud gwaith pwysig iawn ac rwy’n arbennig o falch i weld rhai o’r bobl ifainc yn dechrau rhedeg y grŵp. Rwy’n gwybod o’m profiad gydag Antur Waunfawr faint o wahaniaeth mae gallu gwneud penderfyniadau ei hunain yn ei wneud i falchder pobl ifainc. Y mae’n gamp i bawb sydd yn ymwneud â Breakthro’ eu bod wedi cadw’r grŵp i fynd am gyhyd. Mae’r llwyddiant yma hefyd yn dangos y gefnogaeth anhygoel a gafwyd i’r grŵp gan bobl Llanelli. Da iawn nhw!”

Dywedodd Myfanwy:
“Mae Dafydd a finnau yn falch dros ben i fod yn rhan o’r dathliadau pen-blwydd a fydd hefyd yn cynnwys cyngerdd Dafydd ar Awst 15fed. Mae’r gwahaniaeth mae Breakthro’ yn ei wneud i fywydau’r plant a phobl ifanc yn anfesuradwy am fod y grŵp yn rhoi lle iddyn nhw lle does neb byth yn eu barnu a lle y gallant gymryd cyfrifoldeb dros ei gilydd. Rwy’n dymuno pen-blwydd hapus iawn iddyn nhw a blwyddyn wych”.

Dywedodd Robin Burn, Ymddiriedolwr gyda Breakthro:
“Mae aelodau’r pwyllgor a chydlynwyr yn Grŵp yn falch ofnadwy bod Myfanwy a Dafydd yn cymryd rhan yn ein dathliadau Dydd Sadwrn. Mae’r bobl ifanc yn gyffrous iawn wrth baratoi’r parti pen-blwydd gyda’r trimmings i gyd. Diolch yn arbennig i Dafydd am ein cefnogi ni drwy berfformio yn y cyngerdd pen-blwydd ar Awst 15fed. Bydd y cyngerdd yn helpu codi arian i wella bywydau'r plant a’r oedolion sy’n defnyddio’r clwb. Diolch yn fawr, Dafydd a Myfanwy” .

Nodiadau

Sefydlwyd Breakthro’ yn Llanelli yn 1984 i ddarparu gweithgareddau cymdeithasol i blant gydag anhawsterau dysgu. Mae rhieni, gofalwyr a’r bobl ifainc yn cydweithredu i drefnu gweithgareddau fel gwyliau, ymweliadau â’r sinema, prydiau bwyd a digwyddiadau codi arian. Darperir gweithgareddau i blant a’r bobl ifainc sydd wedi tyfu i fyny gyda Breakthro’. Roedd dyfodol y grŵp mewn peryg yn dilyn toriadau cyllid ond diolch i ymrwymiad diweddar gan Gyngor Sir Gâr yn dilyn ymgyrch gan Myfanwy ac aelodau’r grŵp mae Breaktho’ wedi gallu parhau i mewn i’w ail chwarter canrif.

No comments:

Post a Comment