Wednesday 5 August 2009

Breakthro’ yn anelu am Gopa’r Wyddfa i ddathlu 25 mlynedd

Gwnaeth Dr Myfanwy Davies, Ymgeisydd Seneddol Plaid yn Llanelli a noddwr grŵp Breakthro’, menter i rai ag anableddau yn Llanelli, gyfarfod a gwirfoddolwyr y fenter a fydd yn dringo’r Wyddfa ar daith noddedig i ddathlu pen-blwydd Breakthro’ yn 25 blwydd oed. Ymunodd Hywel Williams AS, cynrychiolydd etholaeth Arfon gyda Dr Davies a’r gwirfoddolwyr am frecwast cyn y daith. Bu Mr Williams yn gweithio am nifer o flynyddoedd yn y sector Gofal ac fe fu yn ddiweddar yn dathlu pen-blwydd Antur Waunfawr yn 25 - hwn eto yn fenter gymunedol lwyddiannus yn ei etholaeth, tu allan i Gaernarfon, sy’n cael ei rhedeg yn rhannol gan bobol gydag anableddau dysgu.

Dywedodd Hywel Williams :
“Nid oes rhaid dweud bod ar bobl ifanc ag anableddau'r angen i ddysgu ac i feithrin hyder mewn niferoedd o sefyllfaoedd. Mae fy mhrofiad gydag Antur Waunfawr wedi dangos imi sut mae pobl, fel aelodau Breakthro’ yn cyfrannu’n bwysig i’r gweithle. Weithiau, fodd bynnag, mae’n rhwydd anghofio bod angen mwynhad ar bobl gydag anableddau. Mae Breakthro’yn cynnig i blant a phobl ifanc lle iddynt gymryd cyfrifoldeb drostynt ei hunain a’i gilydd. Rydw i’n hynod o falch fod y grŵp wedi parhau cyhyd yn enwedig gan fod y fenter dan fygythiad yn ddiweddar . Mae’r ffaith i’r fenter barhau cyhyd yn dweud llawer am y gefnogaeth dros y blynyddoedd gan bobl Llanelli. Roedd y gwirfoddolwyr a ddaeth i ddringo’r Wyddfa yn gredyd i’r dre .!”

Dywedodd Myfanwy :
“Mae‘r gwaith a wneir gan Breakthro’ ambell waith yn cael ei anwybyddu gan nad yw’n canolbwyntio ar ddysgu sgiliau neu baratoi pobl at waith . Prif fwriad y grŵp yw sicrhau fod pobl ifanc gydag ystod o anableddau yn cael yr un cyfleoedd cymdeithasol ag eraill o’r un oed a hwy . Rydw i wedi gweld nifer o’r bobl ifanc yn cefnogi ac yn helpu ei gilydd wythnos ar ôl wythnos. Dydd Sadwrn roedd gan y gwirfoddolwyr a ddringodd yr Wyddfa rhan helaethaf o’n gwlad wrth eu traed . Gobeithio y bydd y cof yn aros gyda hwy gan fod cymaint i’w wneud wrth gyd - weithio . Rydw i yn awr yn edrych ymlaen at gyngerdd Dafydd Iwan Sadwrn nesaf - sef uchafbwynt dathliadau pen-blwydd Breakthro’”

Dywedodd Jessica Sheehan trefnydd Breakthro’ :
“Roeddem am ddathlu mewn steil !Mae Breakthro’ yn sicrhau fod ein holl aelodau yn medru gwneud popeth y maent am wneud . Pa ford well o ddathlu gwaith Breakthro’ na cherdded i gopa’r Wyddfa ? Roedd 8 ohonom ni wirfoddolwyr yn cerdded ac fe wnaethom gyrraedd y copa mewn dros 4 awr . Roedd tipyn o gystadlu rhwng y bechgyn a’r merched ac roedd hyn yn gwneud i ni fynd yn gyflymach !!’.” .

No comments:

Post a Comment