Wednesday 22 April 2009

Myfanwy yn rhybuddio am ‘wythnos heb fudd-daliadau’

Yr wythnos hon, mae Dr Myfanwy Davies, ymgeisydd y Blaid yn Llanelli ar gyfer San Steffan, wedi rhybuddio pobl ar fudd-daliadau yn Llanelli am gynlluniau’r Llywodraeth i aildrefnu taliadau a fydd yn golygu eu bod yn colli 1-2 wythnos o fudd-daliadau.

Mae llywodraeth Gordon Brown am aildrefnu’r ffordd y caiff budd-daliadau’u talu fel eu bod i gyd yn cael eu talu yn yr un ffordd. Felly, gan ddechrau wythnos diwethaf, mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi symud pawb sy’n derbyn budd-daliadau’n wythnosol i’w derbyn ar ddiwedd pob pythefnos. Yr amcangyfrif yw y bydd hyn yn effeithio ar ddwy filiwn o bobl ledled y DU, a byddant yn cael gwybod drwy lythyr. Bydd angen i’r bobl hyn ateb y llythyr er mwyn cael benthyciad er mwyn parhau i gael incwm wrth iddynt aros am eu taliadau. Fodd bynnag, byd yn rhaid talu’r benthyciad yn ôl dros 12 wythnos, sy’n golygu y bydd pobl yn colli wythnos o fudd-daliadau, ac mewn rhai achosion, gan gynnwyd gweddwon, incwm o bythefnos. Mae arbenigwyr sydd wedi bod mewn cysylltiad dros yr wythnos ddiwethaf â phobl sy’n hawlio budd-daliadau wedi dweud bod pobl yn ei chael yn anodd deall y llythyrau sy’n cael eu dosbarthu, ac nid ydynt yn deall bod angen iddynt ateb.

Er gwaethaf yr effaith ar ddwy filiwn o’r bobl fwyaf bregus yn y DU, mae Llywodraeth Gordon Brown wedi cyflwyno’r newid fel mesur gweinyddol. Felly, nid oes trafodaeth wedi bod ar y mater hwn yn San Steffan. Nid oedd yn bosibl i’r Adran Gwaith a Phensiynau gyhoeddi ffigurau ar yr arbedion cost disgwyliedig o rwystro’r ddwy filiwn o bobl hyn rhag cael eu budd-daliadau am gyfnod o 1-2 wythnos.

Mae Myfanwy wedi cwestiynu p’un a oedd rhaid newid y sefyllfa fel bod pawb sy’n hawlio yn derbyn eu budd-daliadau ar ddiwedd pythefnos, yn hytrach nag er enghraifft newid fel bod pobl sy’n hawlio budd-daliadau yn cael eu harian wythnos ymlaen llaw. Byddai mesur o’r fath yn rhyddhau gwariant lle mae’r mwyaf o angen.

Yn siarad o’i chartref yn Ffwrnes ddydd Llun, meddai Myfanwy:
“Rwy’n bryderus na fydd pobl yn Llanelli yn deall bod yn rhaid iddynt ateb y llythyr er mwyn gofyn am fenthyciad. Mae’r broblem yn debygol o fod yn fwy difrifol gan fod y newid yn digwydd yn raddol dros ddwy flynedd, felly efallai nad yw pobl yn ymwybodol ohono. I bobl ar incwm o £60-70 yr wythnos, bydd colli arian am wythnos neu hyd yn oed pythefnos yn golygu cael trafferth talu am fwyd a’u cartref. Hyd yn oed lle bydd pobl yn cael benthyciad, bydd angen ei dalu’n ôl dros 12 wythnos, felly byddant yn colli arian am 1-2 wythnos at ei gilydd.

“Ar adeg pan mae Gordon Brown am bardduo pobl drwy’u bywydau preifat i guddio’r annibendod mae’n ei wneud o’r economi, mae angen iddo fe a’i Aelodau Seneddol edrych ar eu gwerthoedd eu hunain. Mae angen i ni ddweud wrtho nad yw hi’n iawn targedu’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau a chymryd yr ychydig sydd ganddyn nhw.”

No comments:

Post a Comment