Wrth i ni wynebu argyfyngau’r dirwasgiad a newid amgylcheddol cyflym, bu Dr. Myfanwy Davies a Nerys Evans AC o Blaid Cymru yn cynnal cynhadledd undydd gydag arbenigwyr o ystod o feysydd, gyda’r nod o ddod o hyd i atebion ar bob lefel o lywodraeth. Cynhaliwyd y gynhadledd yn y Gerddi Botaneg Cenedlaethol ddydd Sadwrn.
Dyma’r pwyntiau allweddol:
• Mae gan Gymru adnoddau ardderchog i gynhyrchu bwyd ac ynni cynaliadwy
• Mae’r diwydiannau hyn yn cefnogi swyddi hirdymor da
• Gallai polisïau cynghorau, y Cynulliad a San Steffan gynyddu’r farchnad ar gyfer bwyd ac ynni lleol
• Mae angen rheoleiddio cysylltiadau archfarchnadoedd â chyflenwyr
• Mae angen bargen well ar gymunedau wrth werthu ynni lleol ar y grid cenedlaethol
• Mae angen i gymunedau wneud eu penderfyniadau’u hunain ar ba dechnolegau cynaliadwy i’w datblygu
Yn siarad yn Llanelli, meddai Dr. Myfanwy Davies, ymgeisydd y Blaid yn Llanelli yn etholiad nesaf San Steffan:
“Rydym wedi ymrwymo i gynaliadwyedd ers degawdau fel plaid, ac rydym wedi ymrwymo’n llawn i weithredu ar y pwyntiau a godwyd yn y gynhadledd bwysig hon. Mae’n amlwg bod cysylltiad clir rhwng y dirwasgiad a’r argyfwng amgylcheddol ehangach â phatrymau defnydd sy’n creu anghydraddoldebau anferthol mewn cyfoeth, ac sy’n gwneud ein swyddi’n ansicr.”
“Mae diffyg gwaith yn Llanelli wedi cynyddu 80% dros y flwyddyn ddiwethaf. Collwyd y swyddi hynny gan ei bod yn rhy hawdd i’w hadleoli ac oherwydd nad oes gennym bolisïau sy’n golygu y gallwn brynu nwyddau lleol yn hytrach na rhai sy’n dod o ben draw’r byd.”
Meddai Adam Price, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr:
“Mae angen i ni newid y ffordd rydym yn meddwl a’r ffordd rydym yn byw i ymateb i’r argyfyngau amgylcheddol ac ariannol. Gallwn wneud cryn dipyn fel unigolion, ond yn y bôn mae angen gweithredu pendant gan wleidyddion. Roeddwn yn falch o weld cynifer o arbenigwyr a chyrff yn dod i’r gynhadledd a byddwn yn annog pobl sy’n bryderus am yr argyfwng amgylcheddol i gymryd rhan yn wleidyddol i ddechrau gwneud eu pwyntiau o fewn y pleidiau gwleidyddol.”
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment