Tuesday 21 April 2009

Myfanwy i gynnal cynhadledd Sir Gâr ar adeiladu economi gynaliadwy

Bydd Dr Myfanwy Davies, ymgeisydd y Blaid yn Llanelli ar gyfer San Steffan a Nerys Evans, AC rhanbarthol y Blaid, yn cynnal cynhadledd genedlaethol bwysig ar achub swyddi a pharatoi ar gyfer economi werdd. Bydd y digwyddiad, sydd i’w gynnal yn y Gerddi Botaneg ger Llandeilo, yn ymchwilio sut i amddiffyn swyddi a busnesau lleol rhag effeithiau’r dirwasgiad wrth adeiladu economi sy’n gynaliadwy a lle gwneir penderfyniadau gan bobl leol.

Bydd y gynhadledd ‘Gwanwyn Gwyrdd’ yn canolbwyntio’n arbennig ar ddatblygu dulliau cynaliadwy o gynhyrchu bwyd ac ynni a gwella seilwaith fel ffyrdd, rheilffyrdd a thelegyfathrebu. Disgwylir i oddeutu 150 o bobl fynychu, gan gynnwys arbenigwyr a chynrychiolwyr y sector amgylcheddol, diwydiant a’r undebau ffermio. Gyda ffigurau diweddar yn dangos gwahaniaethau trawiadol yn effeithiau’r dirwasgiad ledled y DU, bydd y gynhadledd yn ymchwilio i’r rhesymau pam bod y dirwasgiad wedi taro Cymru – a Gorllewin Cymru’n arbennig – yn galetach na rhannau eraill o’r DU.

Yn siarad o swyddfa’i hymgyrch yn Llanelli, meddai Myfanwy:
“Mae cysylltiad agos rhwng yr argyfwng economaidd a’r argyfwng amgylcheddol. Roedd cynnydd Brown dros y blynyddoedd diwethaf yn seileidg ar brynu nad oedd unrhyw un yn gallu’i fforddio. Ond unwaith eto, ein cymunedau yn Llanelli a Chaerfyrddin sy’n dioddef wrth i Brown amddiffyn y bancwyr.

“Bydd y gynhadledd hon yn edrych yn drylwyr ar y polisïau sydd wedi arwain at y sefyllfa hon – o ran trafnidiaeth, addysg a’r ffordd rydym yn defnyddio’n hadnoddau naturiol – a sut gellir defnyddio’r pwerau sydd gennym yn y Cynulliad, San Steffan, Ewrop a’n cynghorau i greu economi gryfach a gwyrddach.

“Byddwn yn sicrhau bod Cymru’n llwyddo, ond bydd yr economi’n wahanol yn sgil y dirwasgiad hwn. Economi fydd hon i weithio’n lleol a rhoi pobl o flaen elw. Gallwn gynnig newid a diben y gynhadledd yw gweld sut gallwn weithio gydag arbenigwyr, amgylcheddwyr a diwydiant i sicrhau’r newid hwnnw.”

Ychwanegodd Nerys Evans AC:
“Rwyf wastad wedi credu mewn datblygu economi gynaliadwy yng Nghymru. Mae’r ffaith y bydd cynifer o’n prif wleidyddion yn cwrdd ag arbenigwyr o’r maes am y dydd i ddatblygu ffordd integredig o fyw’n gynaliadwy yn dangos faint rydym o ddifrif am yr argyfwng economaidd ac amgylcheddol. Byddwn yn sicrhau bod Cymru’n goroesi’r argyfwng, ond dyma’r amser i sicrhau ein bod ar flaen y gad o ran byw a gweithio’n gynaliadwy.”

No comments:

Post a Comment