Wednesday 4 February 2009

Ymgeisydd y Blaid yn galw am gyfarfod gyda’r Gweinidog ar Ansawdd y Dŵr ym Moryd Byrri

Mewn ymateb i’r newyddion hynod siomedig bod traeth Cefn Sidan wedi colli’i statws Baner Las, mae Dr Myfanwy Davies, ymgeisydd Plaid Cymru yn Llanelli ar gyfer San Steffan, wedi galw i’r Cynulliad weithredu i wella ansawdd dŵr.

Mae Myfanwy wedi cael ffigurau swyddogol ar gyfer yr ansawdd dŵr ym Moryd Byrri a gyhoeddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n dangos cynnydd anferthol mewn llygredd ar ddiwedd mis Medi. Cynyddodd nifer y bacteria carthffosiaeth i bob 100 ml o ddŵr o 200 i fwy na 22,000, cynnydd o 11,000%. Mae’r dyddiadau llygru yn cyd-fynd â rhyddhau carthion o bympiau Porth Tywyn dros gyfnod o 20 awr yn ystod glaw arbennig o drwm yng nghanol mis Medi. Cadarnhawyd hyd y gollyngiad carthion gan Dr Kiel, cynrychiolydd Dŵr Cymru, yng nghyfarfod Cyngor Tref Porth Tywyn ar 18 Tachwedd y llynedd. O ystyried maint y pympiau presennol, byddai cannoedd o dunelli o garthion wedi cael eu rhyddhau bryd hynny. Yn ogystal, ar ddechrau mis Tachwedd, cadarnhaodd Dr Keil fod carthion wedi cael eu pwmpio’n syth i’r moryd am 36 awr, y cyfnod hiraf erioed.

Bu cynghorwyr ym Mhorth Tywyn a Phen-bre yn lleisio pryderon am yr ansawdd dŵr cyn colli’r Faner Las. Mae colli’r statws wedi cynyddu anesmwythdod lleol am driniaeth dŵr ac effaith datblygiadau tai ar raddfa eang ar weithfeydd trin dŵr annigonol sy’n cael eu gorddefnyddio.

Mae Myfanwy yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i sicrhau bod y dŵr yn cael ei wneud yn ddiogel eto ac mae wedi gofyn am gyfres o gyfarfodydd gyda’r Gweinidog i drafod y mater pwysig hwn. Mae Helen Mary Jones wedi trefnu i gwrdd â’r Gweinidog dros yr Amgylchedd ar 11 Chwefror lle bydd yn nodi’r pryderon hyn. Mae Dŵr Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chomisiwn Cefn Gwlad Cymru wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth i gydweithio i wella ansawdd dŵr. Bydd y cyfarfod yn canolbwyntio ar sut gellir defnyddio’r cytundeb hwn i sicrhau bod Dŵr Cymru yn datblygu gweithfeydd trin dŵr digonol ar Foryd Byrri.

Daw galwad Myfanwy wythnos ar ôl iddi drefnu cyfarfod yn Llanelli i drafod cyflwr y foryd gyda Jill Evans, ASE y Blaid.



Yn siarad o’r swyddfa ymgyrchu yn Llanelli, meddai Myfanwy:

“Mae’r sefyllfa lle cafwyd cynnydd o 11,000% yn y bacteria carthion yn y foryd ym msi Medi yn gwbl annerbyniol. Rwy’n falch iawn y bydd Helen Mary Jones yn cwrdd â’r Gweinidog ar 11 Chwefror i drafod sut i ddelio â’r broblem ar fyrder.

Roedd y systemau carthffaosiaeth a fabwysiadodd Dŵr Cymru eisoes yn hen, ond does dim esgus dros beidio â buddsoddi mewn gweithfeydd newydd. Mae’r ffeithiau’n dangos mai’r gweithfeydd carthffosiaeth annigonol ar yr ochr hon i’r foryd oedd yn gyfrifol am y llygru. Ond os bydd y ffeithiau’n dangos bod problemau mewn lleoedd eraill, bydd angen codi gweithfeydd newydd fel rhan o’r un prosiect. Byddai codi gweithfeydd trin dŵr newydd yn brosiect mawr iawn ac mae’n amserol iawn i’r diwydiant adeiladu lleol. Allwn ni ddim gadael i dryhcineb fel y llygru ym mis Medi ddigwydd eto.”

Meddai’r Cyng Malcolm Davies:

“Rwy’n falch bod Myfanwy wedi mynd i’r afael â’r mater hwn ac mae’n defnyddio’r holl dystiolaeth gyhoeddus sydd ar gael i ddangos pa mor beryglus yw’r sefyllfa hon bellach. Rydym wedi clywed geiriau gwag ers gormod o amser am gyflwr y foryd. Nid mater o feio unrhyw asiantaeth benodol yw hyn; mae’n bryd i bob un ohonynt gydweithio i rwystro trychineb amgylcheddol arall fel yr un a gostiodd y Faner Las.”

Meddai’r Cyng Robin Burn:

“Mae pa mor gyflym y mae datblygiadau preswyl newydd yn codi ym Mhorth Tywyn yn destun pryder i mi. Byddaf yn gweithio gyda’m cyd-aelodau ar y Cyngor i sicrhau y caiff datblygiadau amhriodol eu hatal wrth i ansawdd dŵr gael ei wella. Dydw i ddim o blaid gwaharddiad llwyr ar godi tai, gan fod angen codi tai fforddiadwy o bobl leol, ond allwn ni ddim parhau i godi tai yn fyrbwyll heb ystyried y gost amgylcheddol.”


Mae’r ffigurau llygru ar gael yn y cyfeiriad canlynol:
http://maps.environment-agency.gov.uk/wiyby/queryController?topic=coastalwaters&ep=2ndtierquery&lang=_e&layerGroups=1&x=240000.0&y=199800.0&extraClause=SAMPLING_POINT~'37700'&extraClause=SAMPLE_YEAR~2008&textonly=off&latestValue=&latestField=

No comments:

Post a Comment