Thursday, 19 February 2009

Myfanwy Davies yn galw am weithredu ar ddŵr gwastraff i greu swyddi gwyrdd a sicrhau arbedion i deuluoedd

Mae Dr. Myfanwy Davies, ymgeisydd seneddol y Blaid yn Llanelli, wedi ga;w am weithredu i fynd i’r afael â llygredd ym Moryd Byrri ac mae wedi amlinellu posibiliadau i greu swyddi gwyrdd a gostyngiadau mewn biliau dŵr i deuluoedd. Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Myfanwy ffigurau’n dangos cynnydd mewn llygredd carthion yn dilyn y penderfyniad gan Dŵr Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd i ryddhau carthion heb eu trin i Foryd Byrri dros gyfnod o 20 awr yn ystod glaw trwm. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi honni mai dŵr yn draenio o gaeau a nentydd oedd yn gyfrifol am golli’r Faner Las ym Mhen-bre drwy gydol haf gwlyb 2008. Fodd bynnag, mae data’r Asiantaeth yn dangos ansawdd dŵr da drwy gydol yr haf, gan awgrymu mai rhyddhau lefel eithriadol o garthion ym mis Medi oedd ar fai.

Mae Myfanwy wedi datgelu’r gwir gysylltiad rhwng llifogydd a llygredd yn ein moryd. Er gwaethaf honiadau Asiantaeth yr Amgylchedd mai hen arfer yw gollwng dŵr arwyneb drwy’r system garthffosiaeth, mae’r arfer wedi cael ei adnabod fel bygythiad mawr i gymunedau glan môr. Yn ei ymateb i strategaeth ddŵr Llywodraeth y DU ‘Future Water’, mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo i gael gwared ar yr arfer peryglus ac anghyfrifol hwn yn raddol, arfer sydd fe ymddengys wedi costio Baner Las Cefn Sidan.

Yn sgil pryderon hirdymor o ran ansawdd dŵr ym Moryd Byrri, mae Prifysgol Bangor wrthi’n cynnal ymchwil annibynnol ar ansawdd dŵr er mwyn dilysu ffigurau Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae Myfanwy yn galw ar Helen Mary Jones, AC y Blaid yn Llanelli, i ofyn i Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, bwyso am adeiladu gweithfeydd carthffosiaeth newydd i’r gorllewin o Lanelli os bydd y canlyniadau annibynnol hyn yn dangos cynnydd sylweddol mewn llygredd.

Mae Myfanwy hefyd wedi nodi, er y bydd croeso mawr iddynt, na fydd gweithfeydd trin dŵr newydd yn datrys problem draenio dŵr arwyneb gan fod cynifer o ddatblygiadau’n newid patrymau draenio heb gynnig atebion amgen. Mae wedi awgrymu bod angen i gartrefi newydd gydymffurfio â’r safonau cyfreithiol uchaf o ran caniatáu i ddŵr arwyneb ddraenio i lynoedd neu byllau artiffisial, a darparu gwelyau hesg ar gyfer hidlo naturiol. Mae canllawiau llywodraethol newydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau tai newydd ganiatáu ailddefnyddio ‘dŵr llwyd’, fel dŵr a ddefnyddir mewn peiriannau golchi, yn y system garthffosiaeth. Bydd y datblygiadau hyn yn lleihau biliau dŵr i deuluoedd yn sylweddol families ac mae’r potensial iddynt greu swyddi gwyrdd o ran creu pyllau a llynoedd a datblygu a chynnal gwelyau hesg.

Yn siarad o’i swyddfa yn Llanelli yesterday, meddai Myfanwy:

”Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o bobl i’r gorllewin o Lanelli, rwy’n ddrwgdybus iawn am safbwyntiau Asiantaeth yr Amgylchedd ar ansawdd dŵr. Serch hynny, rwy’n fodlon aros am yr adroddiad annibynnol cyn barnu cyflwr presennol ein moryd. Os bydd yr adroddiad annibynnol yn dangos cynnydd mewn llygredd carthion, wrth gwrs bydd angen codi safle trin dŵr newydd ym Mhorth Tywyn. Os mai dyna fydd yn digwydd, bydd Helen Mary yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau y caiff y safle ei adeiladu. Rwy’n croesawu’r newid mewn rheoliadau adeiladu sy’n golygu na fydd modd gollwng dŵr drwy’r system garthffosiaeth gan achosi trychineb amgylcheddol fel yr un a gostiodd y Faner Las.

“Bydd rhai pobl annoeth wastad yn cyfleu mai rhywbeth sy’n costio swyddi yw pryder ynghylch yr amgylchedd. Dyw hynny ddim yn wir. Mae canllawiau llywodraeth y DU eisoes yn annog datblygiadau tai ar hyd Moryd Byrri i ddarparu cyfleusterau draenio ychwanegol. Pe cai rheoliadau adeiladu eu datganoli i’r Cynulliad, byddai modd gwneud llawer mwy i ddiogelu’r foryd a gostwng biliau dŵr i deuluoedd. Mae gennym y potensial yma i ddatblygu swyddi gwyrdd i adeiladu safle trin dŵr, creu pyllau a llynoedd a datblygu gwelyau hesg. Bydd yr holl ddatblygiadau hyn yn cyfoethogi’n hamgylchedd ac yn helpu i sicrhau ei fod yn lân am flynyddoedd i ddod.

Mae modd gweld ymateb Dŵr Cymru i bapur DEFRA yn galw am atal rhyddhau dŵr arwyneb drwy’r system garthffosiaeth yn: http://www.dwrcymru.co.uk/English/library/publications/surface%20water%20management%20strategy/english.pdf

No comments:

Post a Comment