Yr wythnos hon, mae Dr Myfanwy Davies, ymgeisydd y Blaid yn Llanelli ar gyfer San Steffan, wedi galw ar lywodraeth y DU i gynyddu’r hawl i ofal plant am ddim i gynnwys pob plentyn dwy oed. Gwnaeth Myfanwy yr alwad i gefnogi’r alwad gan y Daycare Trust am ofal plant am ddim i blant dwy oed.
Daw sylwadau Myfanwy wrth i’r Daycare Trust gyhoeddi canfyddiadau yr wythfed arolwg gofal plant blynyddol. Canfu’r arolwg mai cost flynyddol lle arferol mewn meithrinfa i blentyn dan ddwy oed yng Nghymru yw £7,592.
Bu Myfanwy, sydd â chefndir mewn iechyd a gofal cymdeithasol, yn pwysleisio gwaith llywodraeth Cymru’n Un i wella mynediad i ofal plant fforddiadwy.
Meddai Dr. Myfanwy Davies:
“Mae angen gofal plant o safon uchel i ddatblygu’n plant a rhoi tawelwch meddwl i rieni. Mae darparu gofal plant yn rhan gynyddol o’r economi, ond mae’r arolwg a gyhoeddwyd gan y Daycare Trust yn dangos bod talu am ofal plant yn faich ariannol anferthol ar lawer o deuluoedd. Mae llywodraeth Cymru’n Un yn cydnabod y broblem hon ac mae wedi buddsoddi i wneud gofal plant yn fwy fforddiadwy.
Mae newidiadau a gynigiwyd yn ddiweddar i fudd-daliadau rhieni sengl yn golygu y bydd llywodraeth y DU yn ei gwneud yn anoddach i rieni gael gofal plant. Mae hyn yn gam yn y cyfeiriad anghywir yn enwedig gan fod angen buddsoddi mewn gofal plant i oresgyn y dirwasgiad. Dyma pryd mae angen i rieni gadw’u swyddi a defnyddio’u hyfforddiant fwy nag erioed. Mae’n hollbwysig bod llywodraeth y DU yn dilyn arweiniad Cymru ac yn gwella’i strategaeth gofal plant i gefnogi darpariaeth fforddiadwy i bawb.
Gall diffyg gofal plant fforddiadwy fod yn rhwystr mawr i bobl ledled Cymru sydd am ddychwelyd i’r gwaith, yn enwedig menywod. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn siarad â mam yn Llanelli sy’n ei chael yn anodd talu am ofal plant, ac sy’n pryderu y bydd yn rhaid iddi roi’r gorau i’w swydd. Mae llywodraeth Cymru’n Un yn y Cynulliad yn gweithio i leihau’r pwysau, ond yn anffodus nid oes modd iddi fynd i’r afael â’r mater yn llawn. Rwyf felly’n cefnogi galwad y Daycare Trust i lywodraeth y DU gynyddu gofal plant am ddim i gynnwys pob plentyn dwy oed.”
Gan ychwanegu at sylwadau Myfanwy, dywedodd Helen Funnell fod cost gofal plant yn cael effaith ddifrifol ar ragolygon gwaith pobl ledled Cymru:
“Fel mam, rwy’n ymwybodol iawn bod magu plant yn ddrud iawn y dyddiau hyn. Gall cost gofal plant ich cyfyngu’n ddifrifol. Rwy’n falch bod llywodraeth Cymru’n Un yn gwneud popeth yn ei gallu i ymestyn gofal plant fforddiadwy yng Nghymru fel y gall rhieni fynd i’r gwaith i helpu i dalu biliau’r tŷ.”
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment