Thursday 5 March 2009

Elfyn Llwyd AS i gwrdd â Swyddogion y Llynges Brydeinig yn Llanelli i drafod cymorth i bobl sy’n gwasanaethu

Mae Dr. Myfanwy Davies, ymgeisydd seneddol y Blaid ar gyfer Llanelli, wedi gwahodd Elfyn Llwyd AS Meirionnydd Nant Conwy ac arweinydd y Blaid Seneddol i gwrdd â chynrychiolwyr y Llynges Brydeinig Frenhinol yn Llanelli ddydd Gwener 6 Mawrth.

Cynhelir y cyfarfod am 2pm yn ystafell 4 yn Neuadd y Dref. Disgwylir y bydd Aerona Stupe, cyfarwyddwr rhanbarthol y Llynges Brydeinig Frenhinol, yn bresennol, ynghyd â chadeirydd a swyddogion cangen Llanelli.

Yn ddiweddar, mae Mr. Llwyd wedi codi pryderon ynghylch y cymorth a roddir i bobl sy’n gwasanaethu, ac ar ôl iddynt adael y lluoedd arfog.

Yn dilyn nifer o achosion o ddedfrydu cyn-aelodau’r lluoedd arfog am droseddau yng Nghymru, ceisiodd Mr. Llwyd gael ffigurau ar nifer cyn-aelodau’r lluoedd arfog yn y carchar, ac ni chafodd ateb boddhaol. Yna bu mewn cysylltiad â’r Gymdeithas Genedlaethol Swyddogion Prawf (NAPO) i gynnal arolwg o’i haelodau. Mae tystiolaeth yr arolwg yn awgrymu bod miloedd o gyn aelodau’r lluoedd arfog a fu’n gwasanaethau yn y Gwlff neu yn Afghanistan wedi cael eu dedfrydu i garchar am droseddau ar ôl eu rhyddhau o’r fyddin*. Mae’r canfyddiadau wedi achosi pryder gwirioneddol gan eu bod yn awgrymu bod hyd at 8,500 o gyn filwyr yn y ddalfa yn y DU, sef bron 10% o holl garcharwyr Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gyda mwy na 7000 ohonynt yn y ddalfa yng Nghymru a Lloegr. Mae cefndir yr achosion yn dangos i fwyafrif y cyn-filwyr ddioddef anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD) ar ryw bwynt ac mai prin yw’r rhai oedd wedi derbyn unrhyw gwnsela neu gymorth ar ôl eu rhyddhau o’r fyddin.

Mae Elfyn Llwyd, sydd wedi ymgyrchu yn y gorffennol ar Syndrom Rhyfel y Gwlff, wedi llwyddo i gael trafodaeth ar gymorth i bobl sy’n gwasanethu wrth iddynt wasanaethu ac ar ôl hynny. Yn sgil y drafodaeth yn Neuadd San Steffan ar 21 Hydref 2008, cafodd mwy o seicolegwyr eu hanfon i Afghanistan ac Irac, ac mae’r Llywodraeth yn edrych ar ffyrdd o ofalu am aelodau’r lluoedd arfog ar ôl iddynt ddychwelyd adref.

Meddai Mr Llwyd:

"Ar ôl gweld nifer o achosion lle’r oedd aelodau’r lluoedd arfog yn troseddu er mwyn ceisio cael help, cyflwynais gwestiwn seneddol a gafodd ateb gweddol di-ddim. Doeddwn i ddim yn hapus â hynny gan fy mod wedi gweld cyn aelodau’r lluoedd arfog yn cael eu dedfrydu’n bryderus o reolaidd yn y llysoedd yn y Gogledd am ymosodiadau difrifol.

”Does dim esgus os mai diffyg adnoddau sydd ar fai. Ar adeg pan mae milwyr sy’n gwasanaethu’n gorfod ymladd ag offer annigonol, bydd methu mynd i’r afael â’r broblem hon yn fwy o dystiolaeth bod y Llywodraeth wedi torri’i haddewid i’r lluoedd arfog yn y ffordd fwyaf difrifol.”

Yn siarad o’i swyddfa yn Llanelli ddydd Mawrth, meddai Myfanwy Davies:

“Mae’n destun pryder mawr, ar adeg pan mae’r lluoedd arfod yn recriwtio o’n cymunedau, nad ydynt yn cael y gefnogaeth fwyaf sylfaenol sydd ei hangen ar y dynion a’r menywod sy’n ymgymryd â’r gwaith anodd a pheryglus hwn. Pe bai’r driniaeth gywir ar gael i’r aelodau hyn o’r lluoedd arfog sy’n dioddef, rwy’n argyhoeddedig na fyddai cannoedd os nad miloedd ohonynt wedi torri’r gyfraith. Mae’r llywodraeth yn eu gadael nhw a’u teuluoedd i lawr yn ddifrifol.

“Mae gwaith Elfyn i fynd i’r afael â’r mater hwn a chael mwy o gefnogaeth seicolegol wedi denu clod gan bawb, ac rwy’n falch iawn ei fod yn dod i Lanelli i gwrdd â chynrychiolwyr y Llynges Brydeinig.”

No comments:

Post a Comment