Sunday 15 March 2009

Myfanwy’n galw ar Lywodraeth San Steffan i gael gwared ar y cynllun cardiau adnabod i achub ysgolion ac ysbytai

Wrth ymateb i’r newyddion y gallai Cymru wynebu toriadau o £500 miliwn mewn gwariant cyhoeddus flwyddyn nesaf, mae Dr Myfanwy Davies, ymgeisydd y Blaid yn Llanelli ar gyfer San Steffan, wedi cefnogi’r athrawes leol Aerona Edwards i alw ar Lywodraeth San Steffan i roi’r gorau i’r cynllun dadleuol i gyflwyno cardiau adnabod. Mae Myfanwy a Mrs Edwards yn galw ar lywodraeth Gordon Brown i ailddosbarthu’r arian i amddiffyn gwasanaethau sylfaenol fel addysg ac iechyd.

Yn siarad o’i swyddfa ymgyrchu yn Llanelli, meddai Myfanwy:

“Mae’r cynllun cardiau adnabod yn fwy na dim ond rhoi cerdyn adnabod diogel. Bydd yn fwy pellgyrhaeddol nag unrhyw beth sy’n bodoli mewn gwledydd eraill a bydd yn rhoi pwerau digynsail i’r Ysgrifennydd Gwladol dros weithredoedd unigolyn. Mae’n amlwg mai cael gwared ar y cynllun yw’r peth iawn i’w wneud.

“Mae ymateb dryslyd y Llywodraeth i’r argyfwng ariannol yn golygu hefyd y bydd toriadau anferthol i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru flwyddyn nesaf. O ystyried bod ffigurau’r Llywodraeth yn dangos y byddai’r cynllun cardiau adnabod yn costio £5.5 biliwn, byddai cael gwared arno’n rhoi’r arian y mae mawr ei angen i amddiffyn ein swyddi a’n gwasanaethau cyhoeddus, fel ysgolion ac ysbytai.”

“O ran cyflwyno pwerau uniongyrchol ac anatebol dros ei dinasyddion, mae’r llywodraeth hon wedi dangos ei bod yn fwy dinistriol nag y bu llywodraeth Thatcher erioed. Mae’n rhaid rhoi’r gorau i roi’u blaenoriaethau cul yn gyntaf a chymryd camau nawr i amddiffyn y gwasanaethau cyhoeddus y mae pob un ohonom eu hangen ac yn eu haeddu.”

Meddai Aerona Edwards, cyn athrawes ysgol uwchradd o Cleviston Park, Llangennech:
“Mae’n anodd dychmygu effaith toriadau o £500 miliwn ar ysgolion yng Nghymru. Mae toriadau mewn addysg yn peryglu cyfleoedd plant mewn bywyd ac yn effeithio fwyaf ar y plant mwyaf bregus. Mae llywodraeth Gordon Brown wedi cyfaddef na fydd cardiau adnabod yn atal terfysgwyr. Mae’r cynllun yn gwbl ddiangen ac ni fydd yn gweithio. Hoffwn alw ar Gordon Brown i’w ailystyried gan fod angen dirfawr am yr angen i’n hysgolion.”

Datganiad cychwynnol Helen Mary Jones i’r wasg ar doriadau gwariant yng Nghymru: http://www.plaidcymru.org/content.php?nID=101;ID=1128;lID=1
Bydd y cynllun cardiau adnabod yn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol ganslo neu’i gwneud yn ofynnol i ildio cerdyn adnabod, heb hawl i apelio, unrhyw bryd. I gael mwy o wybodaeth, gweler: http://www.no2id.net/

No comments:

Post a Comment