Monday 19 January 2009

Myfanwy yn gofyn i’r Gweinidog Iechyd am driniaeth arbenigol i blant sydd wedi’u hanafu yn Gaza

Mae Dr. Myfanwy Davies, ymgeisydd Seneddol y Blaid ar gyfer Llanelli, wedi ysgrifennu at Mrs Edwina Hart, Gweinidog y Cynulliad dros Iechyd, yn cefnogi galwadau i blant sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol yn Gaza ddod i Gymru i gael triniaeth arbenigol.

Mae pwysau aruthrol wedi bod ar y cyfleusterau iechyd yn Gaza dros y flwyddyn ddiwethaf yn sgil y gwarchae. Yn ystod y mis diwethaf, maent wedi cael eu targedu’n uniongyrchol, sy’n rhoi cyfyngiadau pellach ar y gofal y gallant ei gynnig i blant sydd wedi’u hanafu.

Wrth ysgrifennu at y Gweinidog, tynnodd Dr Davies sylw at gynnig yr UE i’r aelod-wladwriaethau gydlynu i gludo plant o Gaza am resymau meddygol. Nododd Dr. Davies hefyd fod gwledydd eraill, gan gynnwys Cyprus, Lwcsembwrg a Gwlad Groeg eisoes wedi cynnig cymorth.

Yn siarad ddydd Sul, meddai Dr. Davies:

“Mae gennym draddodiad gwych yng Nghymru o gynnig help i bobl o wledydd eraill sy’n wynebu amgylchiadau anodd dros ben. Rydym yn gwybod nad yw’r gwasanaethau iechyd yn Gaza yn gallu ymdopi, felly rwy’n gofyn i’r Gweinidog sicrhau bod lleoedd ar gael mewn unedau arbenigol fel yr uned losgiadau yn Nhreforys i’r plant sydd wedi dioddef yr anafiadau gwaethaf yn sgil yr ymosodiadau awyr diweddar.”

No comments:

Post a Comment