Sunday, 27 September 2009

Helen Mary a Myfanwy yn mwynhau’r Bore Coffi Mwyaf yn y Byd gyda Macmillan

Dydd Gwener diwethaf (25/09) fe wnaeth Helen Mary Jones ein AC lleol a Myfanwy Davies ddangos eu cefnogaeth i Gancr Macmillan drwy ymweld â’u bore coffi yn Ysgol Lakefield Llanelli. Gwnaeth y ddwy ymuno gyda disgyblion, rhieni ac athrawon fel rhan o’r Bore Coffi Mwyaf yn y Byd gan Macmillan.

Y Bore Coffi Mwya’n y Byd yw un o’r ffyrdd mwyaf adnabyddus gan Gancr Macmillan i godi arian yn flynyddol. Er ei fod yn weithred syml mae ganddo’r cymhelliad mwyaf apelgar sef rhannu paned o goffi a chodi arian yr un adeg tuag at ymchwil cancr. Mae’r cyllid yma yn cynnig cefnogaeth ymarferol, feddygol, emosiynol ac ariannol tuag at well gofal cancr.

Y llynedd cafwyd miloedd o foreau coffi ar draws Cymru, yn codi bron i £290,000. Roedd yr arian yma’n help i Macmillan i barhau i gefnogi gwasanaethau a phobl broffesiynol i weithio gyda phobl a affeithiwyd gan gancr ar draws Gymru gyfan.

Dywedodd Helen Mary Jones, o’r Blaid:

"Mae 2 filiwn o bobl yn y DU heddiw wedi’u heffeithio gan gancr. Gwn fod nifer o’m hetholwyr a phrofiad personol o’r problemau sy’n effeithio’r claf a’r teulu ar ôl diagnosis o gancr. Mae Cefnogaeth Cancr Macmillan yno i bobl , yn cynnig help a chefnogaeth, o’r funud iddynt dderbyn diagnosis . Mae cynnal bore coffi yn ffordd hawdd i sicrhau fod yr arian gan Macmillan i barhau gyda’u gwaith hanfodol a’r gobaith sy gen i yw fod llawer iawn o goffi wedi’u hyfed yn Llanelli heddiw !”

Ychwanegodd Myfanwy Davies ymgeisydd seneddol y Blaid yn Llanelli:

"Gwn o brofiad fy nheulu fy hun mor ddychrynllyd yw diagnosis o gancr a chymaint o wahaniaeth mae Nyrs Macmillan yn gallu gwneud i’r sefyllfa. Roeddwn wrth fy modd yn medru ymuno yn yr hwyl heddiw yn Ysgol Lakefield. Mae’n rhyfeddod fod mwynhau paned o goffi a sgwrsio gyda ffrindiau yn medru gwella cymaint i’r rheiny sy wedi’u heffeithio gan gancr.”
Dywedodd Rhian Kenny, athrawes a threfnydd Bore Coffi Mwya’r Byd yn Ysgol Lakefield:

“Rydym wrth ein bodd yn cefnogi achos mor werthfawr sy’n helpu cymaint o bobl yn Llanelli. Yn ychwanegol mae’n wych o beth ein bod yn gallu defnyddio cynnyrch masnach deg yn ein bore coffi ac ymuno’r gwaith da mae Macmillan a Masnach Deg yn gwneud. Rydym yn credu fod addysg tu allan i’r stafell ddosbarth, ond o fewn yr ysgol, yn fodd arbennig i godi ymwybyddiaeth plant o’r achosion gwych yma ac o’r gwaith arbennig a wneir o fewn y gymdeithas leol.”

Dywedodd Sue Reece sy’n rheolwr codi arian yn Ne Orllewin Cymru :

“Mae’r help rydym yn gynnig i bobl a chancr yn hollol hanfodol. Rydym am gefnogi pawb sydd angen help a dyna paham mae’n rhaid i ni ,eleni eto ,sicrhau ein bod yn codi hyd yn oed mwy o arian, drwy Fore Coffi Mwya’r Byd , nag erioed o’r blaen. Mae’n achlysur llawn hwyl ac yn hawdd iawn i fod yn rhan ohono, yn enwedig gan ei bod yn bosib trefnu’r achlysur i’ch anghenion eich hun. Mewn gwirionedd mae’n hawdd helpu Macmillan!”

Wednesday, 16 September 2009

Myfanwy yn ennill cefnogaeth genedlaethol i fusnesau canol y dre

Mae Dr Myfanwy Davies, Ymgeisydd Seneddol y Blaid,Llanelli wedi ennill cefnogaeth genedlaethol i gynllun i helpu busnesau yng nghanol dref Llanelli. Mewn cynnig yng Nghynhadledd Genedlaethol y Blaid y penwythnos diwethaf, a dderbyniwyd gan neuadd orlawn, galwodd am adolygiad o’r cynllun graddfa cymhorthdal i helpu busnesau bach a effeithiwyd gan ddatblygiadau tu allan i’r dref. Hefyd galwodd ar Lywodraeth y Cynulliad i ddatblygu menter cyllid cymunedol i gynnig credyd i fusnesau lleol ac am strategaeth genedlaethol i lanw siopau gwag, hyrwyddo cynnyrch lleol a darparu tai addas mewn canolfannau trefol.

Yn ei haraith yn y gynhadledd dywedodd Myfanwy:

“Mae methiant Cyngor Sir Caerfyrddin I atal datblygiad enfawr tu allan i’r dref ynghyd a cholled o gannoedd o swyddi cynhyrchu yn gwaedu canol ein tref yn sych ”.

Wrth siarad yn Llanelli ddydd Mercher ychwanegodd Myfanwy:

“Mae trethi busnes erbyn hyn yn faich ar ein marchnatwyr yng nghanol y dref . Rydw i’n hynod o falch ein bod wedi ennill cefnogaeth genedlaethol i edrych ar flaenoriaethu eu hanghenion. Hefyd fe enillon gefnogaeth i alw am strategaeth i lanw siopau gwag yng nghanol y dref ac fe fydd Aelodau Cynulliad y Blaid yn awr yn medru brwydro am gynlluniau cyllid cymunedol i ariannu busnesau newydd dichonadwy ac i gefnogi marchnatwyr sydd yno’n barod sydd angen credyd er mwyn iddynt dyfu . Rydw i’n ymwybodol o nifer o fusnesau sefydledig sy’n cael trafferth i dyfu gan i’r union fanciau sydd wedi’u hachub gan arian cyhoeddus,wrthod credyd iddynt” .

Ychwanegodd Helen Mary Jones AC Llanelli Plaid :

“Mae’r penderfyniad yma yn rhoi llwyfan clir i ni frwydro am fwy o gefnogaeth gan y Cynulliad i fusnesau bychain yn Llanelli ac i edrych ar sut yn union y gallwn helpu busnesau da lleol i symud ymlaen a thyfu ”.

Tuesday, 8 September 2009

Myfanwy a Helen Mary yn ymladd gwarth y Sir ynglŷn â ffermydd cŵn bach

Mae ffermydd cŵn bach yn Sir Gaerfyrddin yn cadw cwn mewn cyflwr brwnt a chreulon meddai Dr Myfanwy Davies, ymgeisydd Sansteffan dros y Blaid. Yn dilyn ffilm ddiweddar ar Sianel 5 yn dangos amgylchiadau annerbyniol ar ffermydd cwn a dderbyniodd ymweliad ac yna drwydded gan Gyngor Sir Gaerfyrddin mae Myfanwy wedi ymuno gyda Helen Mary Jones AC Plaid Llanelli, i dynhau ar reolaeth y Sir o ffermydd cŵn bach .

Mae Myfanwy wedi ysgrifennu at Helen Mary yn gofyn iddi godi’r mater gydag Elin Jones , Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth y Cynulliad. Eglurodd Myfanwy yn ei llythyr :

“Rydw i’n poeni nad yw arferion archwilio'r Cyngor Sir yn ddigonol ac mae angen archwiliad ,yn enwedig wrth gofio hanes Sir Gaerfyrddin fel canolfan drwyddedig ( a hefyd rhai heb drwydded) i ffermydd cŵn bach. Mewn ymateb i’r rhaglen mae’r Cyngor wedi awgrymu y byddent yn fodlon adolygu‘r amgylchiadau trwyddedu pe bai Gwenidogion Llywodraeth y Cynulliad yn codi’r mater gda hwynt”.

Yn siarad yr wythnos yma , ychwanegodd Myfanwy

“ Rydw i’n falch iawn i glywed fod archfarchnad anifeiliaid anwes a fu’n prynu cŵn bach o’r ffermydd hyn wedi cytuno stopio eu defnyddio fel ffynhonnell mwyach. Rydw I’n siomedig yn ymateb y cyngor. Mae yn arswydus fod arolygwyr y Sir wedi ymweld â’r ffermydd hyn ac wedi caniatáu’r ffermydd a welwyd yn y ffilm. Rydw i’n gobeithio y bydd yr ymateb y bydd Helen Mary yn derbyn gan Elin Jones yn help i egluro’r safonau er lles anifeiliaid y dylai’r cyngor bod yn eu gweithredu esioes”.

Ychwanegodd Helen Mary Jones :

“Ers i mi drafod gyda Myfanwy rwy’ wedi gweld recordiad o’r eitem ar newyddion Sianel 5. Mae’r eitem yn codi nifer o faterion pryderus ynglŷn â safonau lles anifeiliaid yn y Sir . Rydw i’n falch fod Myfanwy wedi codi hyn gyda mi ac fe fyddai’n trafod y mater gydag Elin Jones o fewn yr wythnosau nesaf i sicrhau fod y safonau a ddilynir yn glir ac os oes angen newid, i sicrhau gofal i gwn a chŵn bach, yn wahanol i’r lefelau o esgeulustod a welwyd ar y ffilm .”

Thursday, 13 August 2009

Bydd Dafydd Iwan, Helen Mary a Myfanwy yn cau dathliadau 25 mlynedd Breakthro’ 25th gyda chyngerdd arbennig i godi arian y Sadwrn yma

Bydd Llywydd Plaid Cymru y canwr poblogaidd Dafydd Iwan yn ymuno gyda Dr Myfanwy Davies, ymgeisydd seneddol Plaid ,Llanelli a Helen Mary Jones AC ynghyd a rhieni, gwirfoddolwyr a phobl ifanc gydag anableddau i ddathlu pen-blwydd Breakthro yn 25 oed gyda chyngerdd arbennig yng Nghlwb Stebonheath y Sadwrn yma (Awst 15ed). Mae Dafydd Iwan yn ymgyrchydd dros anableddau ers nifer o flynyddoedd ac yn un o sylfaenwyr Antur Waunfawr sef menter gymunedol lwyddiannus tu allan i Gaernarfon a drefnir yn rhannol gan bobl gydag anableddau.

Dechreuodd y dathliadau ar 25ain o Orffennaf pan ymwelodd Dafydd Iwan canolfan Coleshill i dorri cacen pen-blwydd enfawr 40 modfedd. Fe wnaeth e a Myfanwy weini’r gacen i wirfoddolwyr ac aelodau Breakthro’ gyda Dafydd Iwan yn cloi’r gweithgaredd wrth ganu caneuon a greuwyd yn arbennig ar gyfer yr aelodau . Y penwythnos diwethaf aeth grŵp o wirfoddolwyr Breakthro dan arweiniad Jessica Sheehan gwblhau dringfa noddedig i gopa’r Wyddfa i ddathlu pen-blwydd y grŵp. Cyn cychwyn ar eu taith cawsant frecwast yng nghwmni Myfanwy a Hywel Williams AS, sy’n cynrychioli Arfon sef yr etholaeth sy’n cynnwys yr Wyddfa.

Mae tocynnau i’r cyngerdd nos Sadwrn yma yn gwerthu’n gyflym gyda rhai wedi’u gwerthu i bobl o Gastell-nedd .Gwnaeth un dyn deithio ar fws o Abertawe i Borth Tywyn i sicrhau ei docyn ymlaen llaw . Ni fydd .Dafydd Iwan yn codi tal am y noson a gobeithir codi dros £1,000 at weithgareddau’r fenter .

Dywedodd Dafydd Iwan :
“Rydw i’n gefnogol dros ben o waith Breakthro’.Mae’n bwysig iawn i bobl ifanc gydag anableddau i gwrdd a chymdeithasu gyda’i gilydd yn ogystal â dysgu sgiliau newydd mewn ysgolion a cholegau . Mae’r bobl ifanc yma wedi meithrin cyfeillgarwch gre ymhlith ei gilydd ac erbyn hyn yn dibynnu ar ei gilydd ac yn cefnogi ei gilydd. Mae meithrin a datblygu ymddiriedaeth debyg yn gallu cymryd blynyddoedd ond mae’n hanfodol os yw pobl gydag ystod eang o anableddau am gael bywyd llawn gymdeithasol . Roeddwn wrth fy modd pan ofynnodd Myfanwy imi fod yn rhan o’r fenter ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y Sadwrn yma.

Dywedodd Myfanwy :
‘Rydym yn hynod o ddiolchgar i Dafydd am ddod lawr yma eto i gefnogi Breakthro’. Roedd y cyngerdd anffurfiol gyda’r bobl ifanc mis diwethaf yn rhyfeddod gan i rai o’r bobl ifanc sydd fel arfer yn dawel iawn ganu a dawnsio gyda’r gerddoriaeth . Mae cyngerdd y Sadwrn yma yn addo bod hyd yn oed yn well ac mae’r tocynnau yn gwerthu’n gyflym . Rydw i’n falch hefyd bod Helen Mary yn medru bod yno hefyd . Mae Helen ,fel finnau, yn falch iawn o Breakthro’ yn Llanelli nid yn unig am y gwaith mae’n wneud ond am y gefnogaeth ddiflino gan bobl a grwpiau ar draws Llanelli”.

Dywedodd Christine Darkin, trefnydd Breakthro’am dros 10 mlynedd:

‘Rhai misoedd yn ôl roeddem yn wynebu toriadau enfawr yn ein cyllid ac roeddem yn ystyried sut i barhau gyda’r clwb i’r aelodau hynny sydd erbyn hyn yn oedolion ac wedi tyfu i fyny gyda’r clwb . Nawr diolch i ‘r gwasanaethau cymdeithasol rydym yn edrych ymlaen yn hyderus at ein 26ain blwyddyn ac mae’r gefnogaeth gan bobl Llanelli yn aruthrol . Rydw i’n wirioneddol yn edrych ymlaen at gyngerdd Dafydd !”

Wednesday, 12 August 2009

Myfanwy a Mari Davies yn cefnogi trigolion Pwll sy’n ymladd am atebion i’r llifogydd

Yn dilyn y trallod ar ôl y llifogydd yn y Pwll y mis yma , mae Dr Myfanwy Davies ymgeisydd Sansteffan Plaid Cymru dros Lanelli a’i mam ,Cynghorydd Hengoed Cyng. Mari Davies wedi ymweld â phentrefwyr yn Y Gerddi/Nurseries a Theras Bassett yn y Pwll.

Consyrn y trigolion yw reolaeth yr afon Dulais, gan fod gwely’r afon wedi codi cymaint oherwydd methiant i symud y llaid a’r cerrig oddi yno . Hefyd mae pryder ynglŷn ag ansawdd y llaid a’r clawdd tywod wrth gefn y Gerddi/Nurseries gan i hwn gael ei rhwygo'r mis yma gan y llifogydd enfawr Pryderon eraill a godwyd gan drigolion Teras Bassett yw dargyfeirio’r Afon Dulais sydd nawr yn llifo yn union du cefn i’w tai ..
Dywedodd Trudi Williams sy’n llefarydd i’r grŵp -

“Pan symudais yma ces ar wybod fod llifogydd gwael yn digwydd unwaith mewn 70 o flynyddoedd ond rydym wedi profi llifogydd tair gwaith yn y ddeng mlynedd diwethaf .Yn ystod yr holl amser hynny nid yw’r llaid a’r cerrig wedi’u symud a’r unig adeg y daw pobl o Adran yr Amgylchedd yma yw ar adeg llif. Maen nhw yn cydnabod eu cyfrifoldeb am reoli’r afon , felly gadewch i ni weld peth reolaeth . Rydym am i’r afon gael ei chlirio i greu lle i lif yr afon , oherwydd mae’r bwâu o dan y bont bron o dan ddŵr ar ddiwrnod sych . Pan fydd glaw trwm mae wedi cyrraedd y man lle bydd yna or-lif. Rydw i’n byw mewn ofn pob tro y bydd tywydd garw oherwydd mae’n amhosib dweud pa mor ddrwg y bydd pethau.”

Dywedodd Myfanwy Davies :

“Mae’n amlwg fod rhaid i’r Asiantaeth symud y baw a’r cerrig o’r afon Dulais . Rydw i’n arswydo eu bod wedi gadael gwely afon i lanw mor beryglus pan wyddom fod yr ardal yn dioddef llifogydd .Fe fyddai’n mynnu gweithredu cyflym i glirio’r gweddillion cyn y glaw trwm nesaf ”.
“Mae’n siomedig dros ben fod yr Asiantaeth yn ceisio osgoi cyfrifoldeb am yr amddiffynfeydd llifogydd tu cefn i’r Gerddi/Nurseries. Fe fyddai’n cydweithio gyda Helen Mary Jones i geisio sefydlu pwy yn union sy’n berchen ar glawdd yr afon er mwyn sicrhau bod yna ddigon o adnoddau ar gael i adeiladu amddiffynfa llifogydd priodol ”.

“Cefais weld lluniau o ddargyfeirio’r Afon Dulais ,tu ôl I Deras Basset ,ar ôl glawogydd trwm , mae’n amlwg fod y troad 90 gradd yn arafu llif y dŵr ac yn llawer mwy tebygol o achosi llifogydd. Deallaf fod cynrychiolwyr o’r Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cytuno i atgyfnerthu’r wal tu cefn i’r Gerddi ond dyw’r trigolion perthnasol ddim yn gwybod pa oblygiadau y bydd y gwaith adeiladu yn creu ymhellach i fyny’r afon .Rydw i wedi ysgrifennu at Jane Davidson AC, Gweinidog yr Amgylchedd gan ofyn iddi am ymchwiliad i mewn i’r perygl arfaethedig o lifogydd mewn mannau lle mae’r afon wedi’i dargyfeirio gan yr Asiantaeth . Mae’n amlwg bod yna oblygiadau mewn ardaloedd eraill o ddargyfeirio afonydd. Rydw i am ofyn i’r Gweinidog i sicrhau bod yr Asiantaeth yn gweithredu dyletswydd statudol sylfaenol o reoli’r afon tu cefn i’r Gerddi .Hefyd rydw i wedi gofyn i Helen Mary Jones alw cyfarfod gyda Ms Davidson a’r trigolion lleol mor fuan ag sydd yn bosib”.
Dywedodd y Cyng. Mari Davies :
“Nid yw’n dderbyniol fod Asiantaeth yr Amgylchedd yn ceisio osgoi eu dyletswydd sylfaenol o reoli’r afon i’r gogledd o Heol Pwll . Os taw cyfrifoldeb trigolion Y Gerddi yw clawdd yr afon , ac mae hynny’n ddadleuol, pam nad oeddent wedi’u hysbysu o hynny a’u cynghori ar yr hyn i wneud i amddiffyn eu cartrefi? Rydym angen gwybod os oedd asesiad risg wedi’i wneud o’r Afon Dulais cyn y dargyfeirio i’r De o Heol Pwll . Mae Myfanwy yn hollol iawn i godi’r cwestiynau yma gyda Helen Mary a’r Gweinidog .”
Diwedd / Ends

Wednesday, 5 August 2009

Breakthro’ yn anelu am Gopa’r Wyddfa i ddathlu 25 mlynedd

Gwnaeth Dr Myfanwy Davies, Ymgeisydd Seneddol Plaid yn Llanelli a noddwr grŵp Breakthro’, menter i rai ag anableddau yn Llanelli, gyfarfod a gwirfoddolwyr y fenter a fydd yn dringo’r Wyddfa ar daith noddedig i ddathlu pen-blwydd Breakthro’ yn 25 blwydd oed. Ymunodd Hywel Williams AS, cynrychiolydd etholaeth Arfon gyda Dr Davies a’r gwirfoddolwyr am frecwast cyn y daith. Bu Mr Williams yn gweithio am nifer o flynyddoedd yn y sector Gofal ac fe fu yn ddiweddar yn dathlu pen-blwydd Antur Waunfawr yn 25 - hwn eto yn fenter gymunedol lwyddiannus yn ei etholaeth, tu allan i Gaernarfon, sy’n cael ei rhedeg yn rhannol gan bobol gydag anableddau dysgu.

Dywedodd Hywel Williams :
“Nid oes rhaid dweud bod ar bobl ifanc ag anableddau'r angen i ddysgu ac i feithrin hyder mewn niferoedd o sefyllfaoedd. Mae fy mhrofiad gydag Antur Waunfawr wedi dangos imi sut mae pobl, fel aelodau Breakthro’ yn cyfrannu’n bwysig i’r gweithle. Weithiau, fodd bynnag, mae’n rhwydd anghofio bod angen mwynhad ar bobl gydag anableddau. Mae Breakthro’yn cynnig i blant a phobl ifanc lle iddynt gymryd cyfrifoldeb drostynt ei hunain a’i gilydd. Rydw i’n hynod o falch fod y grŵp wedi parhau cyhyd yn enwedig gan fod y fenter dan fygythiad yn ddiweddar . Mae’r ffaith i’r fenter barhau cyhyd yn dweud llawer am y gefnogaeth dros y blynyddoedd gan bobl Llanelli. Roedd y gwirfoddolwyr a ddaeth i ddringo’r Wyddfa yn gredyd i’r dre .!”

Dywedodd Myfanwy :
“Mae‘r gwaith a wneir gan Breakthro’ ambell waith yn cael ei anwybyddu gan nad yw’n canolbwyntio ar ddysgu sgiliau neu baratoi pobl at waith . Prif fwriad y grŵp yw sicrhau fod pobl ifanc gydag ystod o anableddau yn cael yr un cyfleoedd cymdeithasol ag eraill o’r un oed a hwy . Rydw i wedi gweld nifer o’r bobl ifanc yn cefnogi ac yn helpu ei gilydd wythnos ar ôl wythnos. Dydd Sadwrn roedd gan y gwirfoddolwyr a ddringodd yr Wyddfa rhan helaethaf o’n gwlad wrth eu traed . Gobeithio y bydd y cof yn aros gyda hwy gan fod cymaint i’w wneud wrth gyd - weithio . Rydw i yn awr yn edrych ymlaen at gyngerdd Dafydd Iwan Sadwrn nesaf - sef uchafbwynt dathliadau pen-blwydd Breakthro’”

Dywedodd Jessica Sheehan trefnydd Breakthro’ :
“Roeddem am ddathlu mewn steil !Mae Breakthro’ yn sicrhau fod ein holl aelodau yn medru gwneud popeth y maent am wneud . Pa ford well o ddathlu gwaith Breakthro’ na cherdded i gopa’r Wyddfa ? Roedd 8 ohonom ni wirfoddolwyr yn cerdded ac fe wnaethom gyrraedd y copa mewn dros 4 awr . Roedd tipyn o gystadlu rhwng y bechgyn a’r merched ac roedd hyn yn gwneud i ni fynd yn gyflymach !!’.” .

Wednesday, 22 July 2009

Dafydd Iwan a Myfanwy yn dathlu pen-blwydd Breaktho yn 25ain gyda phobl ifainc a gofalwyr

Bydd y canwr poblogaidd a llywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan yn ymuno â Dr Myfanwy Davies, ymgeisydd seneddol y Blaid yn Llanelli, rhieni a phobl ifainc gydag anhawsterau dysgu i ddathlu pen-blwydd Breakthro’ yn 25ain yng nghanolfan Coleshill Dydd Sadwrn(25/07). Mae Dafydd Iwan wedi bod yn ymgyrchu dros hawliau pobl anabl ers blynyddoedd lawer ac mae’n un o sylfaenwyr Antur Waunfawr, mentrer cymunedol lwyddiannus sydd yn cael ei rheoli gan bobl ag anawsterau dysgu ac sy’n cyflogi pobl ag anhawsterau dysgu ar y cyd gyda phobl heb anhawsterau dysgu.

Dydd Sadwrn am 10.30 bydd plant a phobl ifainc ynghyd â rhieni a gofalwyr yn cwrdd â Dafydd Iwan a Myfanwy Davies, sydd yn un o noddwyr Breaktho’ er mwyn rhannu cacen pen-blwydd anferth (40 modfedd sgwâr). Bydd Dafydd Iwan hefyd yn perfformio mewn cyngerdd i godi arian ar gyfer Breakthro’ ar Awst 15fed yng nghlwb Stebonheath yn Llanelli.

Dywedodd Dafydd Iwan:
“Mae Breakthro’ yn gwneud gwaith pwysig iawn ac rwy’n arbennig o falch i weld rhai o’r bobl ifainc yn dechrau rhedeg y grŵp. Rwy’n gwybod o’m profiad gydag Antur Waunfawr faint o wahaniaeth mae gallu gwneud penderfyniadau ei hunain yn ei wneud i falchder pobl ifainc. Y mae’n gamp i bawb sydd yn ymwneud â Breakthro’ eu bod wedi cadw’r grŵp i fynd am gyhyd. Mae’r llwyddiant yma hefyd yn dangos y gefnogaeth anhygoel a gafwyd i’r grŵp gan bobl Llanelli. Da iawn nhw!”

Dywedodd Myfanwy:
“Mae Dafydd a finnau yn falch dros ben i fod yn rhan o’r dathliadau pen-blwydd a fydd hefyd yn cynnwys cyngerdd Dafydd ar Awst 15fed. Mae’r gwahaniaeth mae Breakthro’ yn ei wneud i fywydau’r plant a phobl ifanc yn anfesuradwy am fod y grŵp yn rhoi lle iddyn nhw lle does neb byth yn eu barnu a lle y gallant gymryd cyfrifoldeb dros ei gilydd. Rwy’n dymuno pen-blwydd hapus iawn iddyn nhw a blwyddyn wych”.

Dywedodd Robin Burn, Ymddiriedolwr gyda Breakthro:
“Mae aelodau’r pwyllgor a chydlynwyr yn Grŵp yn falch ofnadwy bod Myfanwy a Dafydd yn cymryd rhan yn ein dathliadau Dydd Sadwrn. Mae’r bobl ifanc yn gyffrous iawn wrth baratoi’r parti pen-blwydd gyda’r trimmings i gyd. Diolch yn arbennig i Dafydd am ein cefnogi ni drwy berfformio yn y cyngerdd pen-blwydd ar Awst 15fed. Bydd y cyngerdd yn helpu codi arian i wella bywydau'r plant a’r oedolion sy’n defnyddio’r clwb. Diolch yn fawr, Dafydd a Myfanwy” .

Nodiadau

Sefydlwyd Breakthro’ yn Llanelli yn 1984 i ddarparu gweithgareddau cymdeithasol i blant gydag anhawsterau dysgu. Mae rhieni, gofalwyr a’r bobl ifainc yn cydweithredu i drefnu gweithgareddau fel gwyliau, ymweliadau â’r sinema, prydiau bwyd a digwyddiadau codi arian. Darperir gweithgareddau i blant a’r bobl ifainc sydd wedi tyfu i fyny gyda Breakthro’. Roedd dyfodol y grŵp mewn peryg yn dilyn toriadau cyllid ond diolch i ymrwymiad diweddar gan Gyngor Sir Gâr yn dilyn ymgyrch gan Myfanwy ac aelodau’r grŵp mae Breaktho’ wedi gallu parhau i mewn i’w ail chwarter canrif.