Wednesday, 5 August 2009

Breakthro’ yn anelu am Gopa’r Wyddfa i ddathlu 25 mlynedd

Gwnaeth Dr Myfanwy Davies, Ymgeisydd Seneddol Plaid yn Llanelli a noddwr grŵp Breakthro’, menter i rai ag anableddau yn Llanelli, gyfarfod a gwirfoddolwyr y fenter a fydd yn dringo’r Wyddfa ar daith noddedig i ddathlu pen-blwydd Breakthro’ yn 25 blwydd oed. Ymunodd Hywel Williams AS, cynrychiolydd etholaeth Arfon gyda Dr Davies a’r gwirfoddolwyr am frecwast cyn y daith. Bu Mr Williams yn gweithio am nifer o flynyddoedd yn y sector Gofal ac fe fu yn ddiweddar yn dathlu pen-blwydd Antur Waunfawr yn 25 - hwn eto yn fenter gymunedol lwyddiannus yn ei etholaeth, tu allan i Gaernarfon, sy’n cael ei rhedeg yn rhannol gan bobol gydag anableddau dysgu.

Dywedodd Hywel Williams :
“Nid oes rhaid dweud bod ar bobl ifanc ag anableddau'r angen i ddysgu ac i feithrin hyder mewn niferoedd o sefyllfaoedd. Mae fy mhrofiad gydag Antur Waunfawr wedi dangos imi sut mae pobl, fel aelodau Breakthro’ yn cyfrannu’n bwysig i’r gweithle. Weithiau, fodd bynnag, mae’n rhwydd anghofio bod angen mwynhad ar bobl gydag anableddau. Mae Breakthro’yn cynnig i blant a phobl ifanc lle iddynt gymryd cyfrifoldeb drostynt ei hunain a’i gilydd. Rydw i’n hynod o falch fod y grŵp wedi parhau cyhyd yn enwedig gan fod y fenter dan fygythiad yn ddiweddar . Mae’r ffaith i’r fenter barhau cyhyd yn dweud llawer am y gefnogaeth dros y blynyddoedd gan bobl Llanelli. Roedd y gwirfoddolwyr a ddaeth i ddringo’r Wyddfa yn gredyd i’r dre .!”

Dywedodd Myfanwy :
“Mae‘r gwaith a wneir gan Breakthro’ ambell waith yn cael ei anwybyddu gan nad yw’n canolbwyntio ar ddysgu sgiliau neu baratoi pobl at waith . Prif fwriad y grŵp yw sicrhau fod pobl ifanc gydag ystod o anableddau yn cael yr un cyfleoedd cymdeithasol ag eraill o’r un oed a hwy . Rydw i wedi gweld nifer o’r bobl ifanc yn cefnogi ac yn helpu ei gilydd wythnos ar ôl wythnos. Dydd Sadwrn roedd gan y gwirfoddolwyr a ddringodd yr Wyddfa rhan helaethaf o’n gwlad wrth eu traed . Gobeithio y bydd y cof yn aros gyda hwy gan fod cymaint i’w wneud wrth gyd - weithio . Rydw i yn awr yn edrych ymlaen at gyngerdd Dafydd Iwan Sadwrn nesaf - sef uchafbwynt dathliadau pen-blwydd Breakthro’”

Dywedodd Jessica Sheehan trefnydd Breakthro’ :
“Roeddem am ddathlu mewn steil !Mae Breakthro’ yn sicrhau fod ein holl aelodau yn medru gwneud popeth y maent am wneud . Pa ford well o ddathlu gwaith Breakthro’ na cherdded i gopa’r Wyddfa ? Roedd 8 ohonom ni wirfoddolwyr yn cerdded ac fe wnaethom gyrraedd y copa mewn dros 4 awr . Roedd tipyn o gystadlu rhwng y bechgyn a’r merched ac roedd hyn yn gwneud i ni fynd yn gyflymach !!’.” .

Wednesday, 22 July 2009

Dafydd Iwan a Myfanwy yn dathlu pen-blwydd Breaktho yn 25ain gyda phobl ifainc a gofalwyr

Bydd y canwr poblogaidd a llywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan yn ymuno â Dr Myfanwy Davies, ymgeisydd seneddol y Blaid yn Llanelli, rhieni a phobl ifainc gydag anhawsterau dysgu i ddathlu pen-blwydd Breakthro’ yn 25ain yng nghanolfan Coleshill Dydd Sadwrn(25/07). Mae Dafydd Iwan wedi bod yn ymgyrchu dros hawliau pobl anabl ers blynyddoedd lawer ac mae’n un o sylfaenwyr Antur Waunfawr, mentrer cymunedol lwyddiannus sydd yn cael ei rheoli gan bobl ag anawsterau dysgu ac sy’n cyflogi pobl ag anhawsterau dysgu ar y cyd gyda phobl heb anhawsterau dysgu.

Dydd Sadwrn am 10.30 bydd plant a phobl ifainc ynghyd â rhieni a gofalwyr yn cwrdd â Dafydd Iwan a Myfanwy Davies, sydd yn un o noddwyr Breaktho’ er mwyn rhannu cacen pen-blwydd anferth (40 modfedd sgwâr). Bydd Dafydd Iwan hefyd yn perfformio mewn cyngerdd i godi arian ar gyfer Breakthro’ ar Awst 15fed yng nghlwb Stebonheath yn Llanelli.

Dywedodd Dafydd Iwan:
“Mae Breakthro’ yn gwneud gwaith pwysig iawn ac rwy’n arbennig o falch i weld rhai o’r bobl ifainc yn dechrau rhedeg y grŵp. Rwy’n gwybod o’m profiad gydag Antur Waunfawr faint o wahaniaeth mae gallu gwneud penderfyniadau ei hunain yn ei wneud i falchder pobl ifainc. Y mae’n gamp i bawb sydd yn ymwneud â Breakthro’ eu bod wedi cadw’r grŵp i fynd am gyhyd. Mae’r llwyddiant yma hefyd yn dangos y gefnogaeth anhygoel a gafwyd i’r grŵp gan bobl Llanelli. Da iawn nhw!”

Dywedodd Myfanwy:
“Mae Dafydd a finnau yn falch dros ben i fod yn rhan o’r dathliadau pen-blwydd a fydd hefyd yn cynnwys cyngerdd Dafydd ar Awst 15fed. Mae’r gwahaniaeth mae Breakthro’ yn ei wneud i fywydau’r plant a phobl ifanc yn anfesuradwy am fod y grŵp yn rhoi lle iddyn nhw lle does neb byth yn eu barnu a lle y gallant gymryd cyfrifoldeb dros ei gilydd. Rwy’n dymuno pen-blwydd hapus iawn iddyn nhw a blwyddyn wych”.

Dywedodd Robin Burn, Ymddiriedolwr gyda Breakthro:
“Mae aelodau’r pwyllgor a chydlynwyr yn Grŵp yn falch ofnadwy bod Myfanwy a Dafydd yn cymryd rhan yn ein dathliadau Dydd Sadwrn. Mae’r bobl ifanc yn gyffrous iawn wrth baratoi’r parti pen-blwydd gyda’r trimmings i gyd. Diolch yn arbennig i Dafydd am ein cefnogi ni drwy berfformio yn y cyngerdd pen-blwydd ar Awst 15fed. Bydd y cyngerdd yn helpu codi arian i wella bywydau'r plant a’r oedolion sy’n defnyddio’r clwb. Diolch yn fawr, Dafydd a Myfanwy” .

Nodiadau

Sefydlwyd Breakthro’ yn Llanelli yn 1984 i ddarparu gweithgareddau cymdeithasol i blant gydag anhawsterau dysgu. Mae rhieni, gofalwyr a’r bobl ifainc yn cydweithredu i drefnu gweithgareddau fel gwyliau, ymweliadau â’r sinema, prydiau bwyd a digwyddiadau codi arian. Darperir gweithgareddau i blant a’r bobl ifainc sydd wedi tyfu i fyny gyda Breakthro’. Roedd dyfodol y grŵp mewn peryg yn dilyn toriadau cyllid ond diolch i ymrwymiad diweddar gan Gyngor Sir Gâr yn dilyn ymgyrch gan Myfanwy ac aelodau’r grŵp mae Breaktho’ wedi gallu parhau i mewn i’w ail chwarter canrif.

Tuesday, 21 July 2009

Myfanwy yn galw eto at Nia Griffith i amddiffyn y Post

Plaid Cymru Llanelli
Ty Bres,
Heol Bres
Llanelli
SA15 1UH
Gorffennaf 2ail, 2009

Nia Griffith AS
6 Queen Victoria Road
Llanelli
SA15 2TL

Annwyl Ms Griffith,

Amgaeaf lythyr a ddanfonais atoch ar Fehefin yr ail. Nodaf na chefais ateb gan eich swyddfa i’r llythyr hwnnw.

Roeddwn wedi gofyn i chi wrthwynebu cynlluniau i breifateiddio’r Post Brehinol er mwyn gwarchod swyddi ac er mwyn amddiffyn y safonau o wasanaeth yr ydym eu hangen ac yn eu disgwyl. Fel y gwyddoch mae eich cyd-weithiwr yr Arglwydd Mandelson bellach wedi cyfaddef na fydd Llywodraeth y DG yn bwrw ymlaen gyda deddfwriaeth i breifateiddio rhan o’r Post Frenhinol gan na ellir canfod prynwyr ar hyn o bryd.

Mae hefyd yn eglur nad yw hon yn fesur poblogaidd ymhlith eich cyd-aelodau sydd yn fwy plaen yn eu siarad. Mae yn eglur iawn hefyd pe byddai’r mesur yn syrthio, y byddai hynny o gryn embaras i’r Llywodraeth.

Tra ein bod yn croesawi y tro pedol hwn ar ran Llywodraeth San Steffan, nid yw’n ddigon da i roi’r cynlluniau i’r neilltu er mwyn eu hatgyfodi pan y gellir canfon gyrrwr neu pan fo’r chwipiau Llafur yn credu y gallant ennill y ddadl. Ni freuddwydiodd hyd yn oed y Toriaid, y dylid preifateiddio’r Post Brenhinol ac mae’n rhaid eich bod yn gwybod y bydd yna ddi-swyddiadau yn dilyn o’r penderfyniad yna ac ni ellir cyfiawnhau cefnogi mesur sydd yn peryglu mwy o swyddi yn Llanelli.

Rwyf yn eich annog i ymrwymo yn gyhoeddus i bobl Llanelli y byddwch yn pleidleisio yn erbyn y mesur anystyriol ac anghyfrifol hon pan y caiff ei drafod.

Yn ddiffuant,

Myfanwy Davies

Thursday, 2 July 2009

Llythyr agored Myfanwy ar Breifateiddio'r Post Brenhinol

Plaid Cymru Llanelli
Ty Bres,
Heol Bres
Llanelli
SA15 1UH

Mehefin 2ail, 2009

Nia Griffith AS
6 Queen Victoria Road
Llanelli
SA15 2TL

Annwyl Ms Griffith,

Yr wyf wedi clywed bod y Llywodraeth yn bwriadu datgan preifateiddio rhan o’r Post Brenhinol yn ystod y dyddiau nesaf. Ynghyd a gweithwyr post a llawer o bobl yn Llanelli rwyf yn teimlo’n ddig iawn ynghlŷn â’r cam ffol a di-hid hwn. Ni fyddai unrhyw lywodraeth call yn ystyried gwerthu’r adnodd hollbwysig hwn, yn arbennig ei werthu yn ystod y dirwasgiad dyfnaf yr ydym wedi ei weld yn ystod ein bywydau. Dysgodd blynyddoedd trychinebus y Toriaid i ni bod diswyddo milain yn dilyn preifateiddio. Ni allwn fforddio i golli mwy o swyddi yn Llanelli - lleiaf oll drwy gamau bwriadol gan Lywodraeth Lafur y DG.

Y mae’r adroddiad Hooper a gomisiynwyd gan eich Lywodraeth Lafur yn dadlau y dylid preifateiddio’r Post Brenhinol er mwyn rhyddhau cyllid i’w galluogi i fodernieddio. Hona’r adroddiad nad yw ein Post Brenhinol mor effeithlon â gweithredwyr post eraill yn Ewrop. Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth y mae’n cynnig i gefnogi’r honiad yn gamarweiniol ac amhendant. Er enghraifft, y mae’n cymysgu rhwng prisio ac effeithlonrwydd gweithredol. Y mae’n methu ystyried gwahaniaethau rhwng marchnadoedd cartref gwledydd gwahanol. Y mae’n anwybyddu yr effeithiau negyddol ar ein Post Brenhinol sy’n dilyn o fod yn weithredydd sefydledig. Gwaethaf oll, nid yw’r adroddiad yn archwilo i ffyrdd eraill y gallai’r Post Brenhinol foderneiddio ac nid yw hyd yn oed yn awgrymu faint o gyllid y byddai ei angen i gefnogi’r broses honno. Y mae llawer o bobl yn amau bod yr broses gyfan wedi ei gogwyddo er mwyn rhoi esgus i werthu’r adnodd cenedlaethol hwn i gystadleuwyr ar y cyfandir fel DHL neu INT.

Byddai preifateiddio’r Post Brenhinol ar sail yr adroddiad gwallus hwn yn ddim llai na fandaliaeth. Byddai’r canlyniadau yn dilyn yn gyntaf i weithwyr teyrngar y Post Brenhinol ond yn fuan iawn rwy’n ofni y byddwn ni i gyd yn dioddef dirywiad mewn gwasanaeth a naid mewn prisiau. Dyma wers preifateiddio o dan y Toriaid.

Rwyf yn eich annog yn y termau cryfaf posib i bleidleisio yn erbyn y mesurau hyn pan y’u trafodir. Mae pobl yn Llanelli am i’r Post Brenhinol aros mewn dwylo cyhoeddus ac y mae’n iawn eu bod yn hawlio cefnogaeth eu AS i helpu ei amddiffyn.

Yr eiddoch yn ddiffuant,





Dr. Myfanwy Davies
Ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru, Llanelli.

Myfanwy a Hywel Williams AS yn ymuno gyda phrotestwyr Bingo o Lanelli yn San Steffan

Heddiw ymunodd Hywel Williams AS Plaid Cymru ag ymgeisydd seneddol y Blaid yn Llanelli Dr Myfanwy Davies, gyda chwaraewyr bingo, mewn ymgyrch yn erbyn y trethi annheg ar Bingo.

Teithiodd y grŵp, dan arweiniad Nigel Griffiths, 330 o filltiroedd i ymladd dros ddyfodol eu clwb bingo drwy brotestio yn Dean’s Yard gyferbyn â San Steffan.

Gwisgai’r protestwyr fasgiau Alistair Darling gan gario nifer o blacardau. Roedd rhai hefyd yn amgylchu’r sgwâr yn eu ‘Bws Bingo’, gan ymuno mewn gêm o fingo ar y borfa i hyrwyddo’r achos.

Roedd Hywel Williams, Aelod Plaid Cymru dros Arfon wedi rhybuddio eisoes y byddai y penderfyniad i gynyddu’r dreth o 15% i 22% yn siŵr o arwain at ddirywiad mewn clybiau bingo .

Cafodd ymgyrch gan yr SNP,gyda chefnogaeth y Blaid, i wyrdroi'r penderfyniad ei drechu’n ddiweddar gan Aelodau Seneddol Llafur. Mae ffyrdd eraill o hapchwarae megis y casino a poker ar -lein yn dal ar dreth o 15%.

Dywedodd Hywel Williams AS Plaid Cymru :

“Mae’r modd mae’r llywodraeth yn ymdrin â’r sector bingo yn anghredadwy o annheg. Yn y gyllideb cyhoeddodd y Llywodraeth eu bod wedi tynnu allan y TAW ar ffioedd cyfranogiad i chwaraewyr bingo ond ar yr un pryd yn codi treth o 22 %. Nid yw hyn yn gwneud unrhyw synnwyr yn weithredol”

“Mae tegwch trethi yn hanfodol yn ystod y dirwasgiad ac mae’r dreth yma ar Neuaddau Bingo trwyddedig yn beryglus, gan ei fod yn targedu calon ein cymunedau, yn arbennig menywod hŷn a rheini o gartrefi incwm isel. Mae Neuaddau Bingo yn cynnig amgylchedd diogel a chyfeillgar i’r holl gymuned i gwrdd a chymdeithasu”

“Mae’r protestwyr wedi hyrwyddo eu hachos heddiw yn wych .Gobeithio y bydd y llywodraeth yn gweld bod y clybiau bingo a’u hetholwyr yn dioddef oherwydd baich y dreth yma”

Ychwanegodd Dr Myfanwy Davies :

“Ers imi allu cofio mae Bingo wedi bod yn rhan o fywyd Llanelli a’r peth olaf sydd ei angen ar ganol y dre yw cau’r Clwb yn Stryd Murray .”

“Mae hwn yn dreth hollol annheg a gwirion ar fwynhad pobl . Mae bingo yn cael ei drethu unwaith yn barod a does dim cyfiawnhad ar drin bingo yn wahanol i poker ar- lein neu unrhyw ffurf arall o hapchwarae.”.

“Rydym wedi dod yma heddiw i ddangos i’r aelodau seneddol hynny a bleidleisiodd dros y dreth yma nad yw’n bosib anwybyddu llais yr etholwyr”

Monday, 29 June 2009

Myfanwy a Jill Evans ASE yn ymladd am atebion ar lifogydd yn Ewrop a marwolaethau cocos.

Yn dilyn cais gan Dr Myfanwy Davies, ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru yn Llanelli, bydd ASE Jill Evans Plaid Cymru yn cwrdd â chynrychiolwyr o’r comisiwn Ewropeaidd Dydd Mercher (1af Fehefin). Mae ffigurau diweddar yn dangos fod niferoedd mawr o gocos yn parhau i farw ac mae hyn yn rhoi dyfodol y diwydiant cocos yn ardal Llanelli mewn perygl. Wythnos diwethaf mewn cyfarfod llawn gan y Cynulliad Cenedlaethol cafwyd adroddiadau gan bobl ar draws Llanelli a oedd wedi dioddef effaith llifogydd.

Mae Myfanwy yn poeni gan y bydd problemau llifogydd yn gwaethygu oherwydd y tywydd anffafriol. Mae hi hefyd yn poeni y bydd y llifogydd yn gwaethygu gan nad yw asiantaethau’r llywodraeth yn rhoi sylw digonol i’r datblygiad enfawr o dai newydd sydd yn lleihau allu’r tir i amsugno dŵr wyneb ac yn rhoi pwysau eithafol ar gyfleusterau carthffosiaeth .

Yn ddiweddar bu Myfanwy yn cefnogi galwadau am ymchwil gwyddonol annibynnol i ymchwilio’r rhesymau am farwolaethau’r cocos ac er mwyn gweithredu tra bod y bysgodfa gocos dal yno i’w hamddiffyn
.
Bydd Ms.Evans yn holi cynrychiolwyr y Comisiwn ar ble yn union y mae’r cyfrifoldeb i alw am asesiadau ar yr effaith amgylcheddol, er mwyn asesu effaith llawn datblygiadau ar ein hamgylchedd..Bydd hefyd yn gofyn i swyddogion ynglŷn â sancsiynau arfaethedig ar sefydliadau sydd heb alw am asesiadau, lle mae peryglon i’r amgylchedd ,megis llifogydd ,wedi dilyn. Bydd Ms Evans yn gwneud cais am fanylion ymchwiliadau tebyg i farwolaethau’r cocos mewn mannau eraill yn Ewrop Bydd yn gofyn am i’r adroddiadau hyn fod ar gael i wyddonwyr yng Nghymru, casglwyr cocos, ac ymgyrchwyr.

Dywedodd Ms. Evans :

“Cynyddu mae’r llifogydd yn Llanelli-yn fwy aml ac yn fwy llym. Mae hyn yn rhannol oherwydd y tywydd anffafriol ond mae’n ofid nad oes asesiadau amgylcheddol ar effaith gorchuddio tir a fyddai’n draenio’r dŵr dan goncrid wrth adeiladu tai newydd. Nid wyf yn gwrthwynebu adeiladu tai newydd sydd eu hangen ac yn fforddiadwy, ond mae’n rhaid sicrhau bod datblygiadau newydd yn cael eu hasesu’n gywir a bod mesuriadau synhwyrol yn y cynlluniau i sicrhau fod y dŵr yn draenio ac yn llifo i ffwrdd ac i rwystro llifogydd mewn mannau eraill”.

“Am nifer o flynyddoedd rydw i wedi bod yn cefnogi ymgyrch y pysgotwyr i ddarganfod beth yn union sy’n lladd y cocos. Mae’n drist ac yn achos rhwystredigaeth i mi nad ydym yn agos at gael atebion cywir tra bod y pysgodfa gocos mewn peryg o gael ei ddifetha. Does dim dewis ond ymchwil gwyddonol trylwyr os ydym am gael yr atebion, ac fe fyddai’n defnyddio’r cyfarfod i gasglu tystiolaeth gwyddonol ar ddigwyddiadau tebyg mewn lleoliadau eraill”

Dywedodd Myfanwy :

“Rydw i wrth fy modd bod Jill Evans wedi gallu trefnu cyfarfod mor gyflym gyda chynrychiolwyr y Comisiwn. Mae ein cymunedau yn dioddef oherwydd llifogydd llym sydd erbyn hyn yn llawer mwy cyson na chynt. Cadarnhaodd cyfarfod cyhoeddus gan Lywodraeth y Cynulliad yn Llanelli Ddydd Gwener ddiwethaf y pwysigrwydd o sicrhau na fydd datblygiadau newydd ar hyd yr arfordir yn creu llifogydd mewn mannau eraill . Mae Jill Evans hefyd yn bwriadu codi’r mater ynglŷn â marwolaethau’r cocos. Mae arnom angen gwybodaeth ar frys i esbonio’r rheswm dros farwolaeth y cocos er mwyn i ni fedru diogelu’r bysgodfa gocos a’r bywoliaethau sy’n dibynnu arni.”

Monday, 15 June 2009

Myfanwy a Helen Mary yn ymladd i achub Clwb Bingo Llanelli

Mae Dr Myfanwy Davies, ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn Llanelli a Helen Mary Jones AC Plaid Cymru Llanelli wedi beirniadu y dreth ddwbl ar glybiau bingo, a bleidleisiwyd drosto gan Aelodau Seneddol yn Llundain yr wythnos diwethaf . Cyhuddodd Myfanwy lywodraeth Gordon Brown o osod clybiau bingo tref Llanelli mewn peryg.

Daw’r rhybudd yma ar ôl i aelodau seneddol Cymraeg Llafur drechu cynnig gan yr SNP a’r Plaid Cymru i wyrdroi'r raddfa dreth o 15% i 22%. Cedwir lefelau treth ffyrdd eraill o hap- chwarae megis casino neu poker ar- lein ar raddfa o 15%.

Dywedodd Myfanwy :

“Mae Clybiau Bingo yn rhan bwysig o fywyd cymdeithasol tref Llanelli. Mae nhw’n cynnig adloniant diogel ac yno mae gwragedd yn fwyaf arbennig yn ymgasglu i gwrdd â ffrindiau. Mae hyn yn dreth hollol annheg ar fingo, tra bod treth ar ffyrdd eraill o hap- chware yn aros yr un fath . Mae’n gam hollol annheg”.

Mae’n rhybuddio ::

“Efallai bydd y clwb bingo yn Llanelli yn gorfod cau yn yr wythnosau nesaf . Fe fydda i ar y cyd gyda Helen Mary Jones, yn cefnogi cwsmeriaid a staff yn y clwb bingo sydd yn poeni’n fawr am y sefyllfa”.

Dywedodd Helen Mary

“Mae llawer iawn o gefnogaeth i ostwng y dreth ar fingo o 22% i 15% , a’i osod yn gyfartal â phob math arall o hapchwarae. Mae hyn oll am degwch i un o’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd a fwynheir gan bobl ymhob cymuned”

Bydd Myfanwy a Helen Mary yn siarad â staff a chwsmeriaid yng Nghwb Bingo Arogs yn Llanelli yn yr wythnosau nesaf .